Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ffatrïoedd torri sydd wedi'u hawdurdodi i gael gwared ar ddeunydd risg penodedig

Beth yw deunydd risg penodedig a'r awdurdodiad sydd ei angen i'w dynnu oddi ar eich da byw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2017

Deunydd risg penodedig (specified risk material) yw'r rhannau o wartheg, defaid a geifr sydd fwyaf tebygol o beri risg o heintio â chlefyd enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE). Mae'n hanfodol ei fod yn cael ei waredu o'r cadwynau bwyd ar gyfer pobl ac anifeiliaid, ac yn cael ei ddinistrio.

Mae'r asgwrn cefn mewn gwartheg sy'n hŷn na 30 mis oed yn ddeunydd risg penodedig.

Rhaid i chi ddilyn y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) domestig.

Maent yn nodi, os mai asgwrn cefn o garcas buchol yw'r deunydd risg, dim ond mewn ffatri dorri awdurdodedig y gellir ei dynnu.

Rhestr o ffatrïoedd awdurdodedig (Saesneg yn unig)

England, Northern Ireland and Wales

 

Ceisiadau angenrheidiol

I wneud cais am awdurdodiad i gael gwared ar yr asgwrn cefn mewn gwartheg sy'n hŷn na 30 mis, gallwch lawrlwytho:

  • y ffurflen dull gweithredu gofynnol
  •  ffurflen gais i gael gwared ar asgwrn cefn gwartheg

Gellir diwygio, atal neu ddirymu awdurdodiad os na fydd bellach yn bodloni'r gofynion yn rheoliadau wyth a naw y Rheoliadau TSE.

Mae rheoliad deg y Rheoliadau TSE yn darparu'r hawl i apelio yn erbyn unrhyw hysbysiad atal neu ddirymu o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad. Os bydd apêl, gellir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Tîm Cymeradwyo a Chofrestru.

Yna byddant yn cyfeirio'r apêl at y Prif Filfeddyg Gweithrediadau a fydd yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Dogfennau i wneud cais (Saesneg yn unig)

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales