Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwybodaeth am y gadwyn fwyd

Canllawiau os ydych chi’n bwriadu lladd anifeiliaid i’w bwyta gan bobl neu fel bwyd ar gyfer anifeiliaid eraill.

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol rannu gwybodaeth â lladd-dai am y rheolau sy’n ymwneud â lladd anifeiliaid yn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn ein ffurflenni safonol sy’n cael eu darparu i ladd-dai.

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yr UE yn gofyn bod darnau penodol o wybodaeth yn cael eu darparu i ladd-dai.

Bydd yr wybodaeth hon yn llywio penderfyniadau ynghylch sut y dylid cynnal y broses lladd. 

Mae yna ffurflenni safonol ar gyfer y diwydiant sy’n cynnwys manylion gwybodaeth y gadwyn fwyd y mae’n rhaid ei darparu i’r rheiny sydd yn gyfrifol am ladd anifeiliaid.

Mae’r ffurflenni hyn yn amrywio gan ddibynnu ar y math o anifail sy’n cael ei anfon i’w ladd. Nod pob ffurflen yw sicrhau bod isafswm yr wybodaeth ofynnol yn cael ei hanfon at y lladd-dy. 


Mae ffurflenni safonol ar gael ar gyfer:

  • ceffylau (anifeiliaid sy’n perthyn i deulu’r ceffyl) i’w lladd i’w bwyta gan bobl
  • moch
  • gwartheg a lloi
  • defaid a geifr
  • dofednod (poultry)
  • anifeiliaid hela a gaiff eu ffermio i’w lladd ar y fferm
  • anifeiliaid sy’n agored i dwbercwlosis buchol

Mae modd i weithredwyr busnesau bwyd addasu ffurflenni safonol lle bo angen.