Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio sawsiau bwrdd, cyffeithiau, picls a siytni

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, deunydd pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio sawsiau a phicls.

Gwybodaeth gyffredinol

Rhaid i fewnforion sawsiau bwrdd nad ydynt yn cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cyffeithiau (ond nid mêl), picls a siytni o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid a chyfansoddiad bwyd, neu rai cyfwerth, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch i fewnforio'r cynhyrchion hyn.

Trwyddedau mewnforio

Efallai na fydd angen trwydded iechyd nac hylendid arnoch chi i fewnforio bwyd, ond mae llawer o fwydydd o drydydd gwledydd yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu. I gael rhagor o ganllawiau a gwybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig.

Lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd

Gall rhai sawsiau, cyffeithiau, picls a siytni gynnwys lliwiau, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion bwyd. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr. I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion, cysylltwch â'n Tîm Ychwanegion Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, ewch i GOV.UK i ddod o hyd i Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, ewch i GOV.UK i gysylltu â Thîm Mewnforion Organig Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig o fewn y Deyrnas Unedig (DU), cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Organig.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y DU a ddargedwir (retained UK law).

Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd. I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae rhai cyfyngiadau/gofynion mewnforio a all fod yn berthnasol wrth fewnforio sawsiau, cyffeithiau, picls a siytni, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Cynhyrchion ‘risg uwch’

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel mannau rheoli ar y ffin y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Dyma restr lawn o fwydydd (nad ydynt yn dod o anifeiliaid) sydd wedi’u cyfyngu gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Afflatocsinau

Ers 1 Ionawr 2010, mae mewnforion rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol fel sawsiau, cyffeithiau, picls a siytni sy'n cynnwys unrhyw ffrwythau wedi’u sychu, sbeisys neu gnau, yn destun amodau arbennig oherwydd y risg o halogiad gan afflatocsinau. Bydd hyn yn golygu mai drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol yn unig, sy’n fannau rheoli ar y ffin dynodedig, y gellir mewnforio'r cynhyrchion hyn i Brydain Fawr, lle byddant yn destun rheolaethau swyddogol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd ar gael ar ein tudalen we ar fycotocsinau.

Saws soi a HVP (protein llysiau wedi'i hydroleiddio)

Mae'r ddeddfwriaeth halogion uchod yn gosod terfynau ar gyfer 3-MCPD mewn saws soi a sawsiau tebyg ac ar gyfer HVP. I geisio gwybodaeth am y terfynau hyn a'r gweithdrefnau profi, cysylltwch â’r Tîm Halogion Cemegol drwy ein ffurflen ar-lein.

Add to smarter communications search Off