Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)

Canllawiau i gefnogi busnesau i fodloni’r newidiadau o ran gofynion labelu alergenau ar fwyd PPDS.

O 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.Mae'r gofynion labelu newydd hyn (a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha) yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar y deunydd pecynnu a allai achub bywydau.

Mae'n ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Mae'n rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Mae'r pecyn cymorth PPDS hwn a chanllawiau sector-benodol yn helpu busnesau bwyd i nodi a ydynt yn darparu bwyd PPDS a pha newidiadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud.

PPDS labelling on sandwich
Bakery displaying PPDS food labelling
Bottle of fresh juice with PPDS food labelling
Mobile seller stool displaying food with PPDS food labelling