Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Cyflwyniad

Bydd y canllawiau hyn yn esbonio sut y dylid cymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) yn Atodiad I, pwynt 1.14 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025

Cyflwyniad

Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon (‘y Rheoliadau’ gyda’i gilydd) yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas â bwyd sy’n dod o anifeiliaid. Mae’r gofynion hylendid penodol y mae’n rhaid eu cymhwyso i baratoi a thrin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn dibynnu ar natur y cynnyrch fel y’i diffinnir o dan y Rheoliadau. Rhaid i sefydliadau sy’n gweithgynhyrchu a/neu’n trin cynhyrchion sy’n ddarostyngedig i ofynion o dan Atodiad III o’r Rheoliadau gael eu cymeradwyo ar gyfer gweithgynhyrchu a/neu drin cynhyrchion y maent yn dymuno eu rhoi ar y farchnad. 

Rhaid dosbarthu unrhyw gynnyrch yn gywir er mwyn sicrhau bod y gwaith o’i baratoi a’i drin yn bodloni gofynion cyfraith bwyd ar gyfer y cynnyrch hwnnw. Mae dosbarthiadau cynnyrch wedi’u nodi yn y diffiniadau a ddarperir yn Atodiad I i’r Rheoliadau. 

Mae’r Llysoedd wedi cyhoeddi dyfarniadau (‘y Dyfarniadau’ gyda’i gilydd) sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau. Nid oes unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau o ganlyniad i’r Dyfarniadau; nid oes unrhyw ofynion deddfwriaethol ynghylch MSM wedi’u hychwanegu, eu diwygio na’u dileu.

Mae’n disodli ‘Canllawiau ar y Moratoriwm ar gynhyrchu a defnyddio cig heb y gewynnau o esgyrn anifeiliaid cnoi cil yn y Deyrnas Unedig’ 2012, a gafodd eu tynnu’n ôl yn swyddogol ar 14 Tachwedd 2022.

Mae’n waharddedig defnyddio esgyrn neu ddarnau ag asgwrn o wartheg, defaid a geifr ar gyfer cynhyrchu MSM, o dan Atodiad V i Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 999/2001 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 yng Ngogledd Iwerddon, sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs).

Cynulleidfa darged

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:

  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio, neu sy’n bwriadu defnyddio, offer gwahanu cig mecanyddol yn eu prosesau cynhyrchu i wahanu cig gweddilliol oddi wrth esgyrn.
  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio, neu sy’n bwriadu defnyddio, MSM fel cynhwysyn.
  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n cynhyrchu neu’n defnyddio, neu sy’n bwriadu cynhyrchu neu ddefnyddio, cynhwysyn y mae angen eglurder ynghylch ei ddosbarthiad, hynny yw, ai MSM ydyw.
  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gosod cynhyrchion MSM ar farchnadoedd Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, ac allforwyr. 

Er bod y canllawiau hyn wedi’u bwriadu’n bennaf i gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd i gydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, gall awdurdodau lleol, staff gweithredol yr ASB a staff DAERA eu defnyddio i gefnogi rheolaethau swyddogol a darparu dull rheoleiddio cyson.     

Diben y canllawiau

Eglurodd Dyfarniadau’r Llys sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn Atodiad I i’r Rheoliadau. Mae’r canllawiau hyn yn cynorthwyo gweithredwyr busnesau bwyd i benderfynu a yw cynnyrch yn MSM, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio.

Dylid darllen y canllawiau ar y cyd ag Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM, sy’n darparu rhagor o wybodaeth gyffredinol am MSM a chymorth i ddeall y goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd.

Statws cyfreithiol y canllawiau

Nodir Cyfraith yr UE a gymathwyd yn y canllawiau hyn gan ddefnyddio’r fformat canlynol: Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif xxx/xxxx. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys i’r rhan fwyaf o gyfraith bwyd a chyfraith hylendid a diogelwch bwyd anifeiliaid, ac fe’i nodir yn y canllawiau hyn gan ddefnyddio’r fformat canlynol: Rheoliad (CE) Rhif xxx/xxxx. 

Mae gofynion eraill sydd y tu allan i gwmpas y canllawiau hyn, ond sydd hefyd yn darparu gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i gynhyrchu MSM, wedi’u manylu isod. Cyfrifoldeb gweithredwyr busnesau bwyd yw sicrhau cydymffurfiaeth â nhw. 

Cyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw cydymffurfio â chyfraith bwyd. Ni all y ddogfen ganllaw hon gwmpasu pob senario, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol i ddeall sut mae’n gymwys yn eich amgylchiadau chi. Efallai y bydd gweithredwyr busnesau bwyd am geisio cyngor gan eu hawdurdod cymwys; milfeddyg swyddogol (OV) a benodwyd gan yr ASB ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd gan yr ASB; neu eu tîm diogelwch bwyd lleol ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd/a gofrestrwyd gan awdurdodau lleol. 

Adolygu

Rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw 03 Ionawr 2027.

Adborth

Rydym yn croesawu adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys nad yw bellach yn gyfredol, a byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad nesaf.