Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Cysylltiadau, cymeradwyaeth a mwy o wybodaeth
Gwybodaeth ynghylch pwy y dylid cysylltu â nhw os oes gennych chi fwy o ymholiadau ynghylch cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)
Cysylltiadau
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y canllawiau at dimau Polisi Hylendid Cig yr ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost perthnasol:
- Cymru – Food.Policy.Wales@food.gov.uk
- Gogledd Iwerddon – NIOperationalpolicy@food.gov.uk
- Lloegr – meathygiene@food.gov.uk
Dylid uwchgyfeirio ymholiadau gan awdurdodau lleol gyda’r ASB yn unol â’r dull hierarchaeth sefydledig.
Os oes ymholiad yn ymwneud â sut mae’r Canllawiau’n berthnasol i brosesau cynhyrchu penodol, ceisiwch gyngor gan eich awdurdod cymwys, milfeddyg swyddogol a benodwyd gan yr ASB ar gyfer sefydliadau a gymeradwywyd gan yr ASB, neu dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol ar gyfer sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo/eu cofrestru gan yr awdurdod lleol.
Cymeradwyaeth ac apeliadau
Os hoffech chi gynhyrchu MSM, bydd angen cymeradwyaeth arnoch chi gan yr ASB neu’ch awdurdod lleol.
I gael mwy o wybodaeth am y broses gymeradwyo, trowch at wefan yr ASB: Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd.
Os oes angen cymeradwyaeth yr ASB ar eich sefydliad i gynhyrchu MSM, gwnewch gais drwy wasanaeth cymeradwyo’r ASB. Os oes angen cymeradwyaeth gan awdurdod lleol ar eich sefydliad, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.
Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad y mae’r ASB neu’r Awdurdod Cymwys wedi’i wneud, gallwch apelio yn ei erbyn:
- Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr ASB
- Sut i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan awdurdod lleol
Mwy o wybodaeth
I weld mwy o wybodaeth, gan gynnwys ymholiadau cyffredinol a goblygiadau i weithredwyr busnesau bwyd, gweler Atodiad A: Cwestiynau cyffredin ynghylch MSM. Argymhellir darllen y cwestiynau cyffredin ar y cyd â’r canllawiau.