Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau labelu ar gyfer cynhyrchion bwyd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS)

Canllawiau i helpu busnesau bwyd i fodloni gofynion bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Hydref 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Hydref 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu busnesau bwyd sydd angen cydymffurfio â gofynion labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS), a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau perthnasol ers 1 Hydref 2021 a pha gynhyrchion bwyd yr effeithir arnynt yn ein cyflwyniad i newidiadau labelu alergenau PPDS.

Cynhyrchwyd y canllawiau hyn gyda'r nod o ddarparu arfer gorau a chyngor rheoleiddiol i fusnesau bwyd. Dylid darllen y canllawiau ar y cyd â Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr (UE) Rhif 1169/2011 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (FIR) sy'n berthnasol i'r wlad y mae eich busnes yn gweithredu ynddi.

Mae gan Safonau Bwyd yr Alban ganllawiau ar wahân ar gyfer busnesau bwyd sy'n gweithredu yn yr Alban.

Oherwydd natur amrywiol pob model busnes bwyd, rydym ni’n annog pob busnes bwyd i adolygu'r canllawiau a'r ddeddfwriaeth i gefnogi gweithredu newidiadau i'ch busnes.

Gofynion Cyfreithiol a Protocol Gogledd Iwerddon

Mae'r dudalen hon yn tynnu sylw at ofynion Rheoliad Rhif 1169/2011, Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr (FIC), a'r safonau cyfreithiol cysylltiedig ar gyfer labelu a chyfansoddiad cynhyrchion bwyd fel dŵr potel, llaeth, pysgod a chig. 

Mae Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn dwyn ynghyd reolau’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar labelu bwyd cyffredinol a labelu maeth ynghyd mewn un darn o ddeddfwriaeth. 

Ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn Lloegr

Ar gyfer busnesau bwyd sy'n gweithredu yng Nghymru ac yn Lloegr, mae cyfeiriad at ‘gyfraith bwyd’ yn y canllawiau hyn yn cyfeirio at y fersiwn a ddargedwir (retained) o Reoliad 1169/2011 yr UE ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr. Gellir cyfeirio at hyn fel 'Cyfraith yr UE a ddargedwir'.

Ar gyfer busnesau yng Ngogledd Iwerddon neu sy’n cyflenwi iddynt

Ar gyfer busnesau bwyd sy'n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon neu sy’n cyflenwi iddynt, mae cyfeiriad at ‘gyfraith bwyd’ yn y canllawiau hyn yn cyfeirio at gyfraith bwyd yr UE, gan gynnwys Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr

Bydd cyfraith bwyd yr UE yn parhau i fod yn berthnasol, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon. Ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn.

Beth i'w gynnwys ar label bwyd

Mae angen i'r label ar gyfer bwyd PPDS nodi:

  • enw'r bwyd
  • rhestr o gynhwysion 
  • unrhyw un o'r 14 alergen wedi’u pwysleisio yn y rhestr gynhwysion, os yw'r rhain yn bresennol yn y bwyd. 

Mae angen arddangos y meini prawf hyn yn unol â'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i enwi'r bwyd a rhestru cynhwysion, yn unol â chyfraith bwyd. 

Rhaid datgan a phwysleisio'r cynhwysion alergenaidd a geir yn y bwyd bob tro y maent yn ymddangos ar y rhestr gynhwysion. 

Enw'r bwyd

Rhaid i'r label bwyd gynnwys enw cyfreithiol y bwyd neu, yn absenoldeb enw cyfreithiol, ei enw arferol. Gallai hwn hefyd fod yn enw disgrifiadol sy'n rhoi disgrifiad cywir o'r cynnyrch.

Mae'r gofynion cyfreithiol hyn wedi'u cynnwys yn Erthygl 17 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 17 FIC yr UE.

Enw cyfreithiol 

Mae gan rai bwydydd enw sydd wedi'i ddiffinio'n gyfreithiol. Gall hwn fod yn enw rhagnodedig (prescribed name) neu'n ddisgrifiad neilltuedig (reserved description): 

  • Enwau rhagnodedig - – enwau y mae cyfraith bwyd yr UE neu'r DU yn nodi bod yn rhaid eu defnyddio ar gyfer rhai bwydydd. Er enghraifft, 'selsig', 'jam', 'siwgr', 'menyn', 'llaeth sgim' a rhywogaethau amrywiol o fwyd môr, pysgod a chig.  
  • Disgrifiadau neilltuedig – Er mwyn defnyddio disgrifiadau bwyd neilltuedig penodol rhaid i chi sicrhau bod y bwyd yn cynnwys canran benodol o gynhwysyn. Er enghraifft, rhaid i 'fyrgyr cig eidion' gynnwys 62% o gig eidion; rhaid i 'fyrgyr cig eidion economi' gynnwys 47% o gig eidion. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y gofynion hyn yn y gyfraith bwyd.

Enw arferol

Mae enwau arferol yn enwau a allai, ymhen amser, gael eu derbyn gan ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig (DU), neu’n benodol ardaloedd o'r DU, fel enw'r bwyd, heb fod angen esboniad pellach. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bysedd pysgod neu darten Bakewell.

Enw disgrifiadol

Mae enw disgrifiadol yn enw sy'n ddigon manwl gywir i ganiatáu i ddefnyddwyr wybod gwir natur y cynnyrch. Dylai enw disgrifiadol ei wahaniaethu oddi wrth fwydydd eraill y gellid eu drysu â nhw.

Mae rhagor o wybodaeth am 'Enw Bwyd' i'w gweld yng nghanllawiau ehangach y llywodraeth: Enwi Cynhyrchion Bwyd.

Arwyddion ychwanegol i gyd-fynd ag enw bwyd

Mae rhai gofynion gorfodol y mae angen iddynt gyd-fynd ag enw bwyd mewn rhai amgylchiadau. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn Atodiad VI y FIC a Ddargedwir ac Atodiad VI FIC yr UE.

Gall y gofynion gorfodol sy'n gorfod cyd-fynd ag enw'r bwyd ar y label fod yn rhan o enw disgrifiadol bwyd.

Rhestr o gynhwysion

Mae 14 alergen y mae’n rhaid iddynt gael eu pwysleisio yn y rhestr gynhwysion yn ôl cyfraith bwyd.

Y 14 alergen sy’n ofynnol i gael eu labelu yn ôl cyfraith bwyd yw: seleri, grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten (fel haidd a cheirch), cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid), wyau, pysgod, bys y blaidd (lupin), llaeth, molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys), mwstard, pysgnau (peanuts), sesame, ffa soia, sylffwr deuocsid a sylffitau (os ydynt mewn crynodiad o fwy na deg rhan y filiwn) a chnau coed (fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistachio a chnau macadamia).

Rhaid pwysleisio'r 14 alergen sy'n ofynnol i'w datgan yn ôl cyfraith bwyd yn y rhestr hon. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu drwy danlinellu.

Fodd bynnag, nid oes angen nodi alergen mewn achosion lle mae enw'r bwyd yn cyfeirio'n glir at yr alergen dan sylw, fel 'llaeth'. 

Rhaid rhoi pennawd addas sy'n cynnwys y gair 'cynhwysion’ ar flaen y rhestr.  Rhaid rhestru'r cynhwysion a ddefnyddir yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau ar yr adeg y gwnaed y cynnyrch. Mae'r gofynion cyfreithiol hyn wedi'u cynnwys yn Erthygl 18 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 18 FIC yr UE.

Mae Atodiad VII, Rhan A y FIC a Ddargedwir ac Atodiad VII, Rhan A FIC yr UE, yn nodi rhai sefyllfaoedd lle caniateir amrywiad ar drefn pwysau disgynnol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau ehangach y llywodraeth ar restru'r cynhwysion ar labeli bwyd.

PPDS sandwich with labelling welsh language

Cynhwysion cyfansawdd

Mae cynhwysyn cyfansawdd yn gynhwysyn sydd ei hun yn gynnyrch sy’n cynnwys mwy nag un cynhwysyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bara mewn brechdan, lle mae'r bara ei hun wedi'i wneud o gynhwysion amrywiol.

Dylid nodi cynhwysion cyfansawdd mewn rhestr o gynhwysion. Er enghraifft, dylai label brechdan gynnwys rhestr o'r cynhwysion yn y bara ar ôl yr enw 'bara'.

Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer cynhwysion cyfansawdd wedi'u cynnwys yn Atodiad VII, Rhan E y FIC a Ddargedwir a Atodiad VII, Rhan E FIC yr UE

Mae'r ddeddfwriaeth hon hefyd yn disgrifio meysydd lle nad oes angen i chi restru'r cynhwysion cyfansawdd. Er enghraifft, gallai hyn fod mewn cymysgedd o sbeisys neu berlysiau (heb ychwanegion) sy'n ffurfio llai na 2% o'r cynnyrch cyffredinol.

Mae angen nodi'n glir unrhyw nanoddefnyddiau peirianyddol a ddefnyddir fel cynhwysyn mewn bwyd. Rhaid nodi 'nano' mewn cromfachau ar ôl ei enw yn y rhestr gynhwysion. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn berthnasol i gynhwysion cyfansawdd.

Eithriadau o'r rhestr gynhwysion

Mae rhai sefyllfaoedd lle nad oes angen i chi restru cynhwysion, fel ffrwythau a llysiau ffres, gan gynnwys tatws, nad ydyn nhw wedi'u plicio, eu torri na'u trin yn yr un modd.

Bydd angen i chi gadw at y gofynion presennol sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith bwyd. Rhaid nodi presenoldeb unrhyw alergenau.

Mae adegau hefyd pan nad yw'n ofynnol cynnwys cyfansoddion bwyd ar y rhestr gynhwysion. Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol pan fydd cyfansoddion cynhwysyn wedi'u gwahanu dros dro yn ystod y broses weithgynhyrchu a'u hailgyflwyno'n ddiweddarach, ond heb fod yn fwy na'u cyfrannau gwreiddiol. Bydd angen i chi gadw at ofynion cyfraith bwyd presennol sydd wedi'u cynnwys yn Erthygl 20 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 20 FIC yr UE.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau ehangach y llywodraeth ar restru'r cynhwysion ar labeli bwyd

Ychwanegion (additives) a chyflasynnau (flavourings) bwyd 

Rhaid rhestru ychwanegion bwyd a ddefnyddir mewn bwyd yn y rhestr gynhwysion gan ddefnyddio enw eu dosbarth swyddogaethol, fel gwrthocsidydd (antioxidant) neu gyffeithydd (preservative).
 
Dylai hyn gael ei ddilyn gan eu henw penodol neu eu E-rif. Er enghraifft, Gwrthocsidydd: Asid Ascorbig neu Wrthocsidydd: E300. 

Nid oes rhaid rhestru ychwanegion bwyd nac ensymau, y mae eu presenoldeb dim ond mewn bwyd penodol oherwydd eu bod wedi'u cynnwys mewn un neu fwy o gynhwysion y bwyd hwnnw (hynny yw, ychwanegion dros ben (carry over)) yn y rhestr gynhwysion, ar yr amod nad ydynt yn cyflawni unrhyw swyddogaeth dechnolegol yn y cynnyrch gorffenedig.  

Fodd bynnag, bydd angen datgan presenoldeb sylffitau a ddefnyddir fel cyffeithyddion ac sy'n bresennol mewn symiau sy'n fwy na 10 mg/kg neu 10 mg/l fel alergen, p'un a yw'n bresennol fel cynhwysyn bwriadol neu fel gynhwysyn dros ben.

Mae’n rhaid darparu rhybuddion ar y deunydd pecynnu ar gyfer rhai melysyddion a lliwiau. Mae gofynion labelu ar gyfer melysyddion, fel 'yn cynnwys ffynhonnell ffenylalanîn', 'gall fwyta gormod gynhyrchu effeithiau carthydd' a datganiadau "gyda melysydd(ion)" yn Atodiad III y FIC a Ddargedwir ac yn Atodiad III FIC yr UE.

Mae'r ddeddfwriaeth hon hefyd yn manylu ar ofynion labelu pan ychwanegir licorys neu'r cyflasynnau asid glycyrrhizinig neu ei halen amoniwm at fwyd.

Mae'r datganiad rhybuddio sy'n ofynnol ar gyfer rhai lliwiau 'yn cael effaith andwyol ar weithgarwch a sylw plant' wedi'i nodi yn Atodiad V Rheoliad Rhif 1333/2008 a ddargedwir a Rheoliad Rhif 1333/2008 yr UE.

Rhaid rhestru cyflasynnau naill ai gan ddefnyddio’r term 'cyflasyn(nau)' neu enw/disgrifiad mwy penodol o'r cyflasyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyflasyn mefus neu olew mintys pupur (peppermint). 

Mae rhagor o wybodaeth am gyflasynnau i'w gweld yn Atodiad VII, Rhan D y FIC a Ddargedwir ac Atodiad VII, Rhan D FIC yr UE

Dylai busnesau bwyd sy'n bwriadu defnyddio'r term 'naturiol' wrth gyfeirio at gyflasynnau ymgynghori ag Erthygl 16 Rheoliad Rhif 1334/2008 a ddargedwir a Rheoliad Rhif 1334/2008 yr UE. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn nodi pryd y gellir defnyddio’r term 'naturiol' ar labelu bwyd.

Mae rhagor o wybodaeth am labelu, gan gynnwys datganiadau rhybuddio caffein uchel, i'w gweld yn ein canllawiau ar labelu ychwanegion bwyd a chyflasynnau.

Datganiad Cynhwysion Meintiol (QUID)

Mae'r Datganiad Cynhwysion Meintiol (QUID) yn rhoi gwybod i gwsmer y canran o gynhwysion penodol sydd mewn cynnyrch bwyd. O ran bwyd PPDS, dim ond ar gyfer cynhyrchion cig y mae angen QUID. Amlinellir hyn yn y ddeddfwriaeth ganlynol:

Cymru: Rheoliad 7 Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Lloegr: Rheoliad 7 Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 
Gogledd Iwerddon: Rheoliad 7 Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Gogledd Iwerddon) 2014

Rhaid i chi roi'r wybodaeth hon naill ai:

  • fel canran mewn cromfachau yn y rhestr gynhwysion ar ôl enw'r cynhwysyn, er enghraifft 'porc (80%)'
  • yn enw'r bwyd neu wrth ei ymyl, er enghraifft 'yn cynnwys 80% porc'

Mae eithriadau i ddarparu QUID, fel yr amlinellir yn Rheoliad 7(3) Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014. Mae hyn yn cynnwys bwyd parod i'w fwyta a werthir gan arlwywyr torfol. 

Mae rhagor o wybodaeth am QUID wedi'i chynnwys yng nghanllawiau ehangach y llywodraeth ar labelu bwyd. 

Cigyddion yn gwerthu bwyd gyda labelu PPDS

Alcohol

Nid yw'n ofynnol cynnwys rhestr gynhwysion ar ddiodydd alcoholig sy'n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint. Fodd bynnag, bydd angen parhau i ddatgan unrhyw alergenau mewn datganiad cynnwys. Er enghraifft, gallai hyn gael ei eirio fel: "Yn cynnwys: gwenith".

Mae'r gofynion ar gyfer labelu alcohol wedi'u cynnwys yn Erthygl 16 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 16 FIC yr UE.

Gwybodaeth ragofalus (precautionary) am alergenau

Mae gan fusnesau bwyd gyfrifoldeb i ddarparu bwyd sy'n ddiogel i ddefnyddwyr. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth i helpu'ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau diogel a gwybodus.   

Yn ogystal â gwybodaeth orfodol am alergenau, dylid darparu gwybodaeth wirfoddol am bresenoldeb anfwriadol alergenau, fel arfer o groeshalogi na ellir ei osgoi.  

Rhaid trosglwyddo gwybodaeth ragofalus am alergenau gan gyflenwyr cynhwysion i'r defnyddiwr. Mae'r labelu alergenau rhagofalus hwn yn aml yn ymddangos fel “gall gynnwys” neu “ddim yn addas ar gyfer” ar ddeunydd pecynnu.

Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol yn ôl cyfraith bwyd, rydym ni’n argymell bod gwybodaeth am bresenoldeb anfwriadol alergenau ar gyfer bwyd PPDS yn cael ei nodi ar y deunydd pecynnu neu'r label. Mae hyn er mwyn sicrhau bod defnyddwyr sydd ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd yn ymwybodol o'r risg a bod bwyd yn ddiogel.

Dim ond os nodwyd risg wirioneddol o groes-gyswllt alergenau yn dilyn asesiad risg trylwyr y dylid darparu'r wybodaeth ragofalus am alergenau. Dim ond mewn sefyllfaoedd lle na ellir dileu'r risg hon trwy gamau rheoli risg, fel gwahanu a glanhau y dylid darparu hyn.

Gellid ystyried bod defnyddio labeli alergenau rhagofalus pan nad oes risg wirioneddol yn wybodaeth gamarweiniol am fwyd ac yn cyfyngu dewis y defnyddiwr yn ddiangen.  

Nid yw darparu'r wybodaeth wirfoddol hon yn cymryd lle arferion hylendid bwyd a diogelwch da. 

Mae Food Drink Europe wedi creu canllawiau arfer gorau ar ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus yn wirfoddol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am reoli ac asesu'r risg o groeshalogi yn ein pecynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell

Labelu aml-becynnau o eitemau wedi'u lapio'n unigol 

Mae aml-becynnau (multi-packs), lle mae'r cynnwys wedi'i lapio'n unigol ac yn cael ei becynnu mewn safle arall i'r man lle maen nhw'n cael eu darparu, yn fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. 

Rhaid i unrhyw fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a werthir neu a gynigir i'w werthu gael ei labelu yn unol â'r gofynion a nodir yn y gyfraith bwyd ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. 

Os yw pecynnau unigol o aml-becyn wedi'u gwahanu, ni ddylid eu gwerthu na'u cynnig os nad ydyn nhw wedi'u labelu'n unigol ac nad ydyn nhw'n cydymffurfio â gofynion labelu. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar labelu alergenau ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd. 

Sut i gyflwyno label bwyd

Rhaid i argaeledd a lleoliad manylion gorfodol ymddangos ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, fel y'i nodir yn Erthygl 12 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 12 FIC yr UE. 

Rhaid i label bwyd fod yn weladwy ac yn amlwg yn ddarllenadwy. Ni ddylai fod angen i'r defnyddiwr agor y deunydd pecynnu i gael mynediad i'r wybodaeth hon.

Mae'r gofynion ar gyfer cyflwyno manylion gorfodol, gan gynnwys maint ffont, wedi'u cynnwys yn Erthygl 13 y FIC a Ddargedwir ac Erthygl 13 FIC yr UE

Mae rhagor o wybodaeth am fanylion penodol ar sut i gyflwyno label bwyd i'w gweld yng nghanllawiau ehangach y llywodraeth ar labelu bwyd.

PPDS labelling of juice drink

Sut i gynhyrchu label bwyd 

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi gynhyrchu labeli bwyd. Dylech ystyried y ffordd orau o gynhyrchu labeli bwyd i weddu i'ch model busnes penodol. 

Gall hyn gynnwys:

Sut i gynhyrchu label bwyd

There are multiple options food businesses can consider when deciding how to label their PPDS products. Software solutions or labelling programmes with printers could be used, as well as pre-printed packaging. 

Businesses may want to proactively plan for any incidents such as malfunctions, taking account of how their business operates. 

For example, you may wish to consider having reserve pre-printed labels to use in such circumstances.

Labeli bwyd wedi'u hargraffu

Mae sawl dewis y gall busnesau bwyd eu hystyried wrth benderfynu sut i labelu eu cynhyrchion PPDS. Gellir defnyddio datrysiadau meddalwedd neu raglenni labelu gydag argraffwyr, yn ogystal â deunydd pecynnu wedi'i argraffu ymlaen llaw. 

Efallai y bydd busnesau eisiau cynllunio'n rhagweithiol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau fel camweithio (malfunctions), gan ystyried sut mae eu busnes yn gweithredu. 

Er enghraifft, efallai yr hoffech ystyried cael labeli wrth gefn wedi'u hargraffu i'w defnyddio dan amgylchiadau o'r fath.

 

Labeli bwyd mewn llawysgrifen

 

 

Gellir ysgrifennu labeli bwyd â llaw cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol o ran maint ffont. Dylai’r labeli fod yn hawdd eu gweld ac yn amlwg yn ddarllenadwy. Gellir pwysleisio alergenau gan ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu drwy danlinellu.

Cyfrifoldeb cyfreithiol am labelu bwyd

Mae busnesau bwyd sy'n pecynnu eu cynhyrchion bwyd ar y safle i'w gwerthu i ddefnyddwyr yn gyfrifol am labelu eu cynhyrchion bwyd. Bydd angen i chi ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan gyflenwyr i gynhyrchu labeli cywir.

Dylech hefyd sicrhau bod gennych brosesau ar waith i ddiweddaru'r wybodaeth hon pe bai newid mewn cyflenwyr, neu os bydd cynhwysion yn newid.

Gwybodaeth am gynhwysion ac alergenau gan gyflenwyr

Mae'n ddyletswydd ar fusnesau bwyd sy'n cyflenwi bwyd a chynhwysion, o weithredwr i weithredwr, i drosglwyddo gwybodaeth am fwyd i lawr y gadwyn gyflenwi. 

Dylent sicrhau bod busnesau bwyd yn cael digon o wybodaeth i'w galluogi, lle bo hynny'n briodol, i gyflawni eu rhwymedigaethau labelu fel y nodir yn y gyfraith bwyd