Cludo cig 'cynnes' o ladd-dai cig coch
Sut i wneud cais am ganiatâd i gludo cig 'cynnes' o ladd-dai cig coch.
Mae deddfwriaeth hylendid yn ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy gadw cig yn is na 7°C cyn iddo gael ei gludo. Caiff cig 'uwchlaw'r tymheredd' neu gig 'cynnes' ei ddiffinio fel cig sy'n cyrraedd 7°C ac uwch cyn iddo gael ei gludo i sefydliadau awdurdodedig.
Proses ymgeisio
Gallwch chi wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig uwchlaw'r tymheredd hwn os ydych chi'n bodloni'r gofynion yn Rheoliad 2017/1981.
Gallwch chi hefyd wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig cynnes ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion penodol os oes rheswm technolegol pam nad oes angen lleihau'r cig i fod yn is na'r gofyniad cyfreithiol.
England, Northern Ireland and Wales
I wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig cynnes, mae'n rhaid i chi gysylltu ag un o'n Milfeddygon Swyddogol. Byddan nhw'n trafod y broses ymgeisio â chi a'r gofynion y mae gofyn eu bodloni.
England, Northern Ireland and Wales
Ar ôl cael eich awdurdodi
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi, gellid ei ddiwygio, ei wahardd neu ei dynnu'n ôl os nad ydym ni'n fodlon bod y gofynion cywir yn cael eu bodloni.
Proses apelio
Pan gaiff diwygiad, gwaharddiad neu ddiddymiad ei gyhoeddi, bydd gennych chi'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Gallwch chi gyflwyno apêl yn ysgrifenedig at y Tîm Cymeradwyo o fewn 20 diwrnod wedi i'r hysbysiad ddod i law.
Yn ystod y broses apelio mae'n rhaid i chi roi'r gorau i gludo cig cynnes i sefydliadau a oedd wedi'u cynnwys o fewn eich awdurdodiad yn flaenorol.
Bydd yr apel yn cael ei hymchwulio gan Brif Filfeddyg Maes a yddwch chi a'r Milfeddyg Swyddogol yn cael gwybod am ganlyniad yr apêl o fewn 20 diwrnod gwaith wedi'r penderfyniad.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cymeradwyo a Chofrestru'r Asiantaeth Safonau Bwyd drwy e-bostio: approvals@food.gov.uk
Revision log
Published: 14 Ebrill 2018
Last updated: 17 Mawrth 2020