Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofrestru gwinllannoedd

Sut i gofrestru gwinllan yn y DU a manylion categoreiddio gwinllannoedd.

Rydym wedi diweddaru ein proses ar gyfer gwneud cais am gofrestru gwinllannoedd. Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i gofrestru eich gwinllan neu’ch gwindy heb unrhyw winwydd yn y DU.  

Rhaid cofrestru gwinllannoedd dros 0.1 hectar (tua chwarter erw). Rhaid i berchnogion gofrestru eu gwinwydd heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl eu plannu a rhaid iddynt roi gwybod i’r ASB am unrhyw newidiadau.  

Rhaid cofrestru gwinllannoedd llai hefyd os ydynt yn gweithredu’n fasnachol.  

Mae gennym ganllawiau pellach ar sefydlu busnes gwin.  

Cofrestru gwinllan yn y DU

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i gofrestru eich gwinllan yn y DU. 

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac nid oes unrhyw daliadau am ein harolygiadau nac am unrhyw gyngor a gynigiwn.  

Dechrau cofrestru 

Cyn i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein, darllenwch y nodiadau canllaw a’r Datganiad Diogelu Data

Er mwyn cwblhau’r ffurflen, bydd angen i chi wybod:  

  • arwynebedd y daliad mewn hectarau  
  • dadansoddiad o arwynebedd gwinwydd yn yr awyr agored, gwinwydd sy’n tyfu dan orchudd ac arwynebedd lle nad oes gwinwydd yn tyfu, mewn hectarau  
  • uchder y daliad   
  • manylion y mathau o winwydd sydd wedi’u plannu fel math, ardal blannu mewn hectarau a’r flwyddyn a blannwyd   
  • blwyddyn y plannu   
  • dwysedd y plannu

Gallwch arbed a dychwelyd at eich ffurflen am uchafswm o 7 diwrnod. Os na fyddwch yn dychwelyd at eich ffurflen o fewn 7 diwrnod, bydd angen i chi ei chwblhau eto. 

Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd eich manylion yn cael eu hanfon at aelod o’n tîm. 

Bydd eich gwinllan yn cael ei chofrestru gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a chewch rif cofrestru. Byddwch yn cael y rhif cofrestru o fewn 20 diwrnod gwaith. Os oes gennych unrhyw broblemau gyda’ch cais, cysylltwch â  winestandards@food.gov.uk

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd eich gwinllan yn cael ei harolygu yn seiliedig ar y categori a roddir iddi. 

Rhoi gwybod i’r ASB am newidiadau ar ôl cofrestru

Os yw eich gwinllan eisoes wedi’i chymeradwyo ac mae angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, anfonwch e-bost i winestandards@food.gov.uk.

Cymorth a chanllawiau ar gwblhau’r ffurflenni 

Os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost i winestandards@food.gov.uk.

Canllawiau Adran 1 

  • Mae gan winllan arwynebedd sy’n gallu tyfu gwin o 0.1 hectar o leiaf (chwarter erw) neu mae’n fenter fasnachol. 

Canllawiau Adran 2 

  • Mae parsel o dir yn ardal barhaus o dir lle nad oes dim ond gwinwydd yn cael eu tyfu
  • Rhaid i chi lenwi adran 2 ar gyfer pob parsel o dir lle rydych yn tyfu gwinwydd 
  • Rhaid dyrannu rhifau olynol (er enghraifft, 1,2,3,4) ar gyfer pob parsel o dir rydych yn ei gofrestru
  • Mae deunydd lluosogi llystyfiannol ar gyfer gwinwydd yn cynnwys: 
    • toriadau â gwreiddiau (darnau heb eu himpio o gyffion gwinwydd â gwreiddiau y bwriedir eu plannu heb eu himpio neu i’w defnyddio fel gwreiddgyffion) 
    • impiadau â gwreiddiau (darnau o gyffion gwinwydd wedi’u cysylltu ag impiad lle mae ei ran danddaearol wedi’i gwreiddio) 
    • toriadau gwreiddgyff ar gyfer impio (darnau o gyffion gwinwydd y bwriedir iddynt ffurfio’r rhan danddaearol wrth baratoi impiadau â gwreiddiau) 
    • toriadau meithrin (darnau o gyffion gwinwydd a fwriedir ar gyfer cynhyrchu toriadau â gwreiddiau) 
    • toriadau impiad y rhan uchaf (darnau o gyffion gwinwydd y bwriedir iddynt ffurfio'r rhan uwchben y ddaear wrth baratoi impiadau â gwreiddiau) 

Canllawiau Adran 3 

  • Yn Rhan 3, dylid ailadrodd y rhifau cyfresol a ddyrennir i barseli unigol yn Rhan 2, gan gynnwys manylion y math o winwydd ar gyfer y parsel hwnnw. 

Datganiad diogelu data 

Bydd yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei defnyddio’n bennaf at ddiben gorfodi’r rheoliadau marchnata gwin a rheoliadau cysylltiedig. Gellir rhyddhau gwybodaeth i awdurdodau gorfodi eraill yn y sector gwin i hwyluso ymchwiliadau gan gynnwys triniaeth dwyllodrus a amheuir neu risg i iechyd. 

Bydd gwybodaeth bersonol a manylion plannu gwinwydd penodol a gedwir ar y gofrestr yn cael eu trin yn gyfrinachol. Bydd gennych yr hawl i archwilio'r wybodaeth a gedwir ac i unrhyw newidiadau i’ch manylion y gellir eu cyfiawnhau gael eu hystyried. Yn benodol, bydd gennych yr hawl i fynnu bod gwybodaeth nad yw o ddiddordeb mwyach yn cael ei dileu yn gyfnodol. 

Gall Safonau Gwin gasglu a rhyddhau gwybodaeth fel gwybodaeth na ellir ei phriodoli at ddibenion ymchwil a/neu ddibenion ystadegol. Dan amgylchiadau cyfyngedig, gall fod yn ofynnol i’r ASB ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol, os gwneir cais i’w gweld o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Os byddwn yn rhannu gwybodaeth a gafwyd o’r ffurflen hon â phartïon eraill, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Fodd bynnag, ni fydd yr ASB yn caniatáu i gyfrinachedd gael ei dorri heb reswm, ac ni fydd yn gweithredu’n groes i’w rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Byddwn yn defnyddio manylion y Deiliad* i anfon ceisiadau am gyflwyno datganiadau cynhyrchu, sy’n ofynnol ar gyfer gwiriadau olrhain a dilysrwydd yn ogystal â gwiriadau cydymffurfio â chynlluniau gwin y DU. 

*Sylwer mai e-bost yw'r dull cyfathrebu a ffefrir ar gyfer datganiadau cynaeafu a chynhyrchu blynyddol.