Mewnforio ac allforio gwin
Canllawiau ar y mesurau y mae'n rhaid i chi eu cymryd er mwyn mewnforio ac allforio gwin yn gyfreithlon i'r Derynas Unedig (DU) neu oddi yno.
Mae canllawiau’r llywodraeth ar allforio gwin a mewnforio gwin a labelu ar gael ar-lein. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r rheolau ar gyfer mewnforwyr, allforwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr a dosbarthwyr gwin.
Gwnaeth y DU gael gwared ar ardystiad VI-1 ar gyfer mewnforio pob gwin ar 1 Ionawr 2022.
Efallai y bydd angen dogfennaeth symud (EU VI-1) wrth dderbyn gwinoedd o’r UE neu wrth allforio i’r UE ar y rhai sy’n mewnforio neu’n allforio gwin.
Pwysig
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi lansio canllaw digidol – Busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE, sy'n cwmpasu'r camau allweddol y gallai fod angen i fusnesau bwyd a diod eu cymryd ar ôl diwedd y cyfnod pontio.
Bydd y canllaw yn cynnwys y canllawiau diweddaraf ar gyfer cynhyrchwyr a masnachwyr gwin, ac yn cynnwys newidiadau ac ychwanegiadau wrth i wybodaeth bellach gael ei chadarnhau.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ychwanegol sy'n ymwneud â phroses EU VI-1 at Defra drwy wine.exports@defra.gov.uk.