Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Labelu gwin

Canllawiau ar y gofynion labelu y mae’n rhaid i win eu bodloni er mwyn gallu ei werthu yn y Deyrnas Unedig (DU).

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Rhagfyr 2020

Rhaid i win a gynhyrchir yn y DU neu sy’n cael ei fewnforio i'r DU gydymffurfio â rheoliadau ar labelu gwin.

Pwysig

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi lansio canllaw digidol – Busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE. Mae'n cwmpasu'r camau allweddol y gallai fod angen i fusnesau bwyd a diod eu cymryd ar ôl diwedd y cyfnod pontio. 

Bydd y canllaw yn cynnwys y canllawiau diweddaraf ar gyfer cynhyrchwyr a masnachwyr gwin, ac yn cynnwys newidiadau ac ychwanegiadau wrth i wybodaeth bellach gael ei chadarnhau.

Labelu ‘gwin’ 

Rhaid dangos y disgrifiad 'Gwin' ar y label fel y categori ar gyfer gwin heb ddynodiad daearyddol lle nad yw'r disgrifydd tarddle (provenance) yn cynnwys y term 'gwin'.

Tarddle gwin

Caniateir i winoedd sydd heb ddynodiad daearyddol ddangos y wlad fel ‘Gwin o Gymru (neu Loegr)’, neu ‘Cynnyrch o Gymru’ neu ‘Cynhyrchwyd yng Nghymru’, yn hytrach na ‘Gwin o’r Deyrnas Unedig’ neu gyfwerth. Mae’n rhaid i winoedd eraill (Ansawdd, Rhanbarthol a phefriog) hefyd ddefnyddio un o’r fformatau hyn ar gyfer y wlad.

Gwin amrywiaethol 

Mae’n bosibl bod hawl gan winoedd o 2009 a blynyddoedd wedi hynny sydd heb eu cyflwyno a’u cymeradwyo ar gyfer y Cynllun Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (Ansawdd Gwin) na’r Cynllun Enw Tarddiad Gwarchodedig (Gwin Rhanbarthol) ddisgrifio un neu fwy o amrywiaethau a/neu flynyddoedd cynhaeaf drwy ddefnyddio’r disgrifydd newydd ‘Gwin Amrywiaethol’ os ydynt yn mynd trwy Broses Ardystio cyn gwerthu’r gwin. Mae hyn yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth genedlaethol.

Mae gwybodaeth a ffurflenni ardystio ar gyfer gwin amrywiaethol ar gael ar wefan Wines of Great Britain (Wine GB). Rhaid cyflwyno ceisiadau i Wine GB. Caiff y rhain eu cyflwyno i Arolygwyr Safonau Gwin, a all ymweld â chynhyrchwyr i wirio bod cofnodion yn dangos manylion cynhyrchu ar gyfer y gwin yn y categori hwn.

Canllawiau Cynlluniau Gwin Ansawdd y DU

Mae’n bwysig sicrhau bod eich labeli yn cydymffurfio â’r canllawiau canlynol:

Nid yw’n orfodol arddangos unedau alcohol na rhybuddion iechyd cysylltiedig ar win. Gellir dod o hyd i fanylion am yr eitemau hyn ar wefan Portman Group.

Labelu alergenau ar win

Gall gwin gynnwys alergenau a allai effeithio ar ddefnyddwyr sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd.
Rhaid i'r gwinoedd canlynol gynnwys datganiad ar un o'r labeli os oes unrhyw un o'r 14 alergen sydd wedi’u dynodi gan gyfraith bwyd yn bresennol yn y cynnyrch:

  • gwinoedd gyda mwy na 10 mg/litr o sylffwr deuocsid
  • dylid labelu gwinoedd sy'n cael eu mireinio â llaeth neu gynhyrchion wyau (terfynau y gellir eu canfod yn y cynnyrch gorffenedig ar lefelau uwch na 0.25 mg/litr) yn glir.

Mae’n rhaid i’r geiriad gynnwys y gair ‘contains’ (yn Saesneg):

  • sylffwr deuocsid/sylffitau (sulphites a sulfites)
  • ‘wy’, ‘protein wy’, ‘cynnyrch wy’, ‘lysoseim wy’ neu ‘albwmin wy’
  • ‘llaeth’, ‘cynhyrchion llaeth’, ‘casein llaeth’ neu ‘protein llaeth’

Labeli ar win sy’n cael ei fewnforio

Nodir y prif ofynion ar gyfer gwahanol gategorïau o win yn Labelu Gwinoedd o Drydydd Gwledydd 2020. I gael cyngor ar labeli penodol, dylech gysylltu â’ch arolygwr rhanbarthol.

Dylai cynhyrchwyr o du allan i’r UE gyfeirio eu hymholiadau at eu mewnforiwr yn y DU. Dylai mewnforwyr yng ngwledydd eraill y Comisiwn Ewropeaidd (CE) gysylltu â’r awdurdodau yn y gwledydd hynny.