Crynodeb o’r canllawiau ar gyfer treialon sy’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi
Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi unigolion sydd â diddordeb mewn cynnal treial maes, gan gynnwys y broses o gyflwyno cais.
Pwrpas y canllawiau
Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi unigolion sydd â diddordeb mewn cynnal treial maes, gan gynnwys y broses o gyflwyno cais.
Dim ond ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi y caniateir eu rhoi ar y farchnad, eu prosesu neu eu defnyddio. Mae diffiniad o ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w gael ar ein tudalen ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Dim ond ar ôl i gais a gyflwynir i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu Safonau Bwyd yr Alban (FSS) gael ei gymeradwyo y caniateir defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid nad ydynt wedi’u hawdurdodi ar gyfer treial gwyddonol.
Cyn i’r DU ymadael â’r UE, yr ASB oedd yr awdurdod cymwys a oedd yn cynnal awdurdodiadau treialon bwyd anifeiliaid ar ran y DU. Yn dilyn yr ymadawiad, trosglwyddwyd y penderfyniad i gymeradwyo treialon ym Mhrydain Fawr, ac mae bellach yn nwylo’r Gweinidogion priodol. Yn unol â Rheoliad (CE) 1831/2003, Erthygl 3(2), ‘For experiments for scientific purposes, the appropriate authority (i.e. Ministers) may authorise the use, as additives, of substances which are not authorised, with the exception of antiobiotics, provided that the experiments are carried out in accordance with the principles and conditions laid down in Regulation 767/2009 or the guidance set out in in Article 7(4) of this Regulation and provided that there is adequate official supervision. The animals concerned may be used for food production only if the authorities (i.e. FSA/FSS and Ministers) establish that this will have no adverse effect on animal health, human health or the environment’. Felly, y Gweinidog sydd â’r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid awdurdodi treial ac a all anifeiliaid o’r treial fynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Yr ASB sy’n cyfrifol am benderfynu cymeradwyo treialon yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r treialon hyn yn benodol i ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac nid ydynt yn berthnasol i fwydydd anifeiliaid eraill fel deunyddiau bwyd anifeiliaid, nad oes angen eu hawdurdodi cyn y gallwch eu rhoi ar y farchnad.
Ar gyfer coccidiostau a histomonostatau, neu unrhyw sylwedd arall y gellid ei ystyried yn feddyginiaeth filfeddygol o dan y Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol (2013), fel y’u diwygiwyd, anfonwch eich ymholiad i’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD: postmaster@vmd.gov.uk) yn y lle cyntaf. I gynnal treial maes clinigol o feddyginiaeth filfeddygol mewn anifeiliaid ym Mhrydain Fawr a/neu Ogledd Iwerddon, hynny yw, o dan amodau arferol hwsmonaeth anifeiliaid neu fel rhan o ymarfer milfeddygol arferol, mae’n rhaid i ymgeiswyr gael Tystysgrif Prawf Anifeiliaid (ATC) gan y VMD yn gyntaf.
Bydd angen i’r ymgeisydd ystyried a oes angen trwydded gan y Swyddfa Gartref i gynnal y treial bwyd anifeiliaid, yn ogystal â chytundeb gan yr ASB; er enghraifft, os bwriedir samplu gwaed neu rwmen yn ystod y treial. Cyfeiriwch at ganllawiau’r Swyddfa Gartref ar brofion ac ymchwil ar anifeiliaid i gael mwy o wybodaeth am y trwyddedau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) (ASPA) 1986 er mwyn gallu cynnal gweithdrefnau gwyddonol ‘rheoleiddiedig’ mewn anifeiliaid.
Statws cyfreithiol y canllawiau
Cydymffurfiaeth reoleiddiol: Mae’r canllawiau hyn yn cydymffurfio â phob Rheoliad CE a gymathwyd perthnasol y cyfeirir ato yn adran ‘Pwrpas y canllawiau’ y dudalen hon.
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?
- ffermwyr a thyfwyr
- gweithgynhyrchwyr a phroseswyr
- arall (unigolion neu sefydliadau sy’n bwriadu cyflwyno ceisiadau am dreialon ychwanegion bwyd anifeiliaid)
I ba wledydd yn y DU mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Lloegr
Dyddiad adolygu
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn erbyn mis Ebrill 2027.
Geiriau allweddol
- cig a da byw
- cynhyrchion (er enghraifft: wyau neu laeth o anifeiliaid sy’n bwyta’r ychwanegyn)
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn.