Canllawiau ar gyfer treialon sy’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi
Dim ond ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi y caniateir eu rhoi ar y farchnad, eu prosesu neu eu defnyddio. Mae diffiniad o ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w gael ar ein tudalen ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Gwneud cais
Mae’r broses wedi’i nodi mewn deddfwriaeth (Erthygl 3(2)) yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar gyfer treialon ym Mhrydain Fawr. Mae Rheoliad (CE) 1831/2003 yn nodi’r gofynion ar gyfer treialon yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r ddau Reoliad yn caniatáu defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi mewn treialon.
Gellir defnyddio Atodiadau II a III i Reoliad y Comisiwn (CE) 429/2008 a gymathwyd ac i Reoliad (CE) 429/2008 Gogledd Iwerddon fel canllaw ynghylch pa wybodaeth y gellid ei chyflwyno.
- Ar gyfer treialon sy’n cael eu cynnal yng Nghymru, anfonwch eich cais a’ch dogfennaeth i regulated.products.wales@food.gov.uk.
- Ar gyfer treialon sy’n cael eu cynnal yn Lloegr, anfonwch eich cais a’ch dogfennaeth i FeedAdditives@food.gov.uk.
- Ar gyfer treialon sy’n cael eu cynnal yng Ngogledd Iwerddon, anfonwch eich cais a’ch dogfennaeth i nioperationalpolicy@food.gov.uk.
- Ar gyfer treialon sy’n cael eu cynnal yn yr Alban, anfonwch eich cais a’ch dogfennaeth i feedadditivetrials@fss.scot.
Mae’r ASB/FSS yn gofyn bod ceisiadau am dreialon ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosib. Os na ddarperir gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwerthuso diogelwch y treial yn y cais gwreiddiol, gofynnir am wybodaeth atodol a chaiff y cais ei ohirio nes i’r gwybodaeth atodol ddod i law.
Disgwylir i broses ymgeisio ASB/FSS gymryd 12 wythnos, er y gall yr amserlenni amrywio yn dibynnu a oes angen gwybodaeth ychwanegol.
Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys adolygiad gan yr ASB/FSS o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid ei hun, ac asesiad o ddyluniad y treial a gynhelir gan sefydliad trydydd parti arbenigol yn gyfrinachol.
Dim ond gyda’r rhai sy’n ymwneud â’r broses awdurdodi y bydd yr holl wybodaeth a rennir gan ymgeiswyr yn cael ei rhannu, a hynny yn ôl yr angen. Mae’r ASB/FSS yn cydymffurfio â Deddfau Preifatrwydd y DU, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Gwybodaeth sydd ei hangen
England, Northern Ireland and Wales
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais (Saesneg yn unig) am dreial a’i dychwelyd i’r ASB/FSS.
Y protocol treial (arbrofol): Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r protocol treial llawn wrth gyflwyno cais.
Asesiad risg o’r treial bwyd anifeiliaid
Dylai’r ymgeisydd gynnal asesiad risg, a dylid ystyried mesurau diogelwch i bobl, anifeiliaid a’r amgylchedd. Efallai y bydd angen data ategol, er enghraifft gwybodaeth am nodweddiad yr ychwanegyn. Dylid darparu cyfiawnhad os na chyflwynir unrhyw un o’r rhain. Os oes angen mwy o wybodaeth, bydd yr ASB/FSS yn cysylltu â’r ymgeisydd.
Bydd unrhyw newidiadau yn y treial yn gofyn am brotocol treial ASB/FSS wedi’i ddiweddaru, i’w anfon at yr ASB/FSS. Unwaith y bydd treial wedi’i awdurdodi, ni ellir diwygio’r protocol arbrofol.
Anifeiliaid sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ar ôl y treial
Os yw ymgeiswyr yn dymuno rhoi unrhyw anifeiliaid a oedd yn rhan o’r treial yn y gadwyn fwyd (anifeiliaid rheoli yn unig, neu’r holl anifeiliaid) neu gynhyrchion (er enghraifft, wyau neu laeth o anifeiliaid sy’n cael yr ychwanegyn), yna dylid egluro hyn yn y protocol treial a’r ffurflen gais ar gyfer y treial. Dylid darparu mwy o wybodaeth am gyrchfan nesaf yr anifeiliaid, gan gynnwys: manylion y fferm ymlaen gofrestredig, y cyfnod pesgi cyn lladd, lleoliad y lladd, a’r cyfnod tynnu’n ôl o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid anawdurdodedig (cyn lladd).
Os na fwriedir i anifeiliaid fynd i mewn i’r gadwyn fwyd, ni ellir newid y penderfyniad hwn ar ôl cael cymeradwyaeth.
Manylion cyswllt
- Cymru: regulated.products.wales@food.gov.uk
- Lloegr: feedadditives@food.gov.uk
- Gogledd Iwerddon: nioperationalpolicy@food.gov.uk
- Yr Alban: feedadditivetrials@fss.scot
Gwefannau perthnasol
- Ychwanegion bwyd anifeiliaid
- Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid
- Cofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Prydain Fawr
- Cofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid yr UE
- Gov.uk ar gyfer trwyddedau’r Swyddfa Gartref
- Tudalen we FSS ar dreialon bwyd anifeiliaid yn yr Alban
- Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) (ar gyfer cocsidiostatau a histomonostatau neu sylweddau meddyginiaethol milfeddygol heb eu hawdurdodi).
- Ar gyfer ceisiadau’r UE a rheolau ar roi gwybod ymlaen llaw, cyfeiriwch at y canlynol: Rheoliad (UE) 2019/1381 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 20 Mehefin 2019 ynghylch tryloywder a chynaliadwyedd asesiad risg yr UE yn y gadwyn fwyd a Rheoliadau diwygio (CE) Rhif 178/2002, (CE) Rhif 1829/2003, (CE) Rhif 1831/2003, (CE) Rhif 2065/2003, (CE) Rhif 1935/2004, (CE) Rhif 1331/2008, (CE) Rhif 1107/2009, (UE) 2015/2283 a Chyfarwyddeb 2001/18/EC (Testun sy’r berthnasol i’r EEA)
Atodiad A: Rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol
- Rheoliad (CE) 1831/2003 Erthygl 3 (2)
- Rheoliad 767/2009
- Rheoliad (CE) 429/2008
- Rheoliad (UE) 2019/1381 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 20 Mehefin 2019 ynghylch tryloywder a chynaliadwyedd asesiad risg yr UE yn y gadwyn fwyd a Rheoliadau diwygio (CE) Rhif 178/2002, (CE) Rhif 1829/2003, (CE) Rhif 1831/2003, (CE) Rhif 2065/2003, (CE) Rhif 1935/2004, (CE) Rhif 1331/2008, (CE) Rhif 1107/2009, (UE) 2015/2283 a Chyfarwyddeb 2001/18/EC (Testun sy’r berthnasol i’r EEA)