Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau ar gyfer treialon sy’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi

Canllawiau ar gyfer treialon sy’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi

Dim ond ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi y caniateir eu rhoi ar y farchnad, eu prosesu neu eu defnyddio. Mae diffiniad o ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w gael ar ein tudalen ychwanegion bwyd anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2025

Gwneud cais

Mae’r broses wedi’i nodi mewn deddfwriaeth (Erthygl 3(2)) yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar gyfer treialon ym Mhrydain Fawr. Mae Rheoliad (CE) 1831/2003 yn nodi’r gofynion ar gyfer treialon yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r ddau Reoliad yn caniatáu defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi mewn treialon.

Gellir defnyddio Atodiadau II a III i Reoliad y Comisiwn (CE) 429/2008 a gymathwyd ac i Reoliad (CE) 429/2008 Gogledd Iwerddon fel canllaw ynghylch pa wybodaeth y gellid ei chyflwyno.

Mae’r ASB/FSS yn gofyn bod ceisiadau am dreialon ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosib. Os na ddarperir gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwerthuso diogelwch y treial yn y cais gwreiddiol, gofynnir am wybodaeth atodol a chaiff y cais ei ohirio nes i’r gwybodaeth atodol ddod i law.

Disgwylir i broses ymgeisio ASB/FSS gymryd 12 wythnos, er y gall yr amserlenni amrywio yn dibynnu a oes angen gwybodaeth ychwanegol.

Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys adolygiad gan yr ASB/FSS o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid ei hun, ac asesiad o ddyluniad y treial a gynhelir gan sefydliad trydydd parti arbenigol yn gyfrinachol.

Dim ond gyda’r rhai sy’n ymwneud â’r broses awdurdodi y bydd yr holl wybodaeth a rennir gan ymgeiswyr yn cael ei rhannu, a hynny yn ôl yr angen. Mae’r ASB/FSS yn cydymffurfio â Deddfau Preifatrwydd y DU, gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Gwybodaeth sydd ei hangen

England, Northern Ireland and Wales

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais (Saesneg yn unig) am dreial a’i dychwelyd i’r ASB/FSS.

Y protocol treial (arbrofol): Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r protocol treial llawn wrth gyflwyno cais.

Asesiad risg o’r treial bwyd anifeiliaid

Dylai’r ymgeisydd gynnal asesiad risg, a dylid ystyried mesurau diogelwch i bobl, anifeiliaid a’r amgylchedd. Efallai y bydd angen data ategol, er enghraifft gwybodaeth am nodweddiad yr ychwanegyn. Dylid darparu cyfiawnhad os na chyflwynir unrhyw un o’r rhain. Os oes angen mwy o wybodaeth, bydd yr ASB/FSS yn cysylltu â’r ymgeisydd.

Bydd unrhyw newidiadau yn y treial yn gofyn am brotocol treial ASB/FSS wedi’i ddiweddaru, i’w anfon at yr ASB/FSS. Unwaith y bydd treial wedi’i awdurdodi, ni ellir diwygio’r protocol arbrofol.

Anifeiliaid sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ar ôl y treial

Os yw ymgeiswyr yn dymuno rhoi unrhyw anifeiliaid a oedd yn rhan o’r treial yn y gadwyn fwyd (anifeiliaid rheoli yn unig, neu’r holl anifeiliaid) neu gynhyrchion (er enghraifft, wyau neu laeth o anifeiliaid sy’n cael yr ychwanegyn), yna dylid egluro hyn yn y protocol treial a’r ffurflen gais ar gyfer y treial. Dylid darparu mwy o wybodaeth am gyrchfan nesaf yr anifeiliaid, gan gynnwys: manylion y fferm ymlaen gofrestredig, y cyfnod pesgi cyn lladd, lleoliad y lladd, a’r cyfnod tynnu’n ôl o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid anawdurdodedig (cyn lladd).

Os na fwriedir i anifeiliaid fynd i mewn i’r gadwyn fwyd, ni ellir newid y penderfyniad hwn ar ôl cael cymeradwyaeth.

Manylion cyswllt

Gwefannau perthnasol

Atodiad A: Rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol