Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer pobyddion

Gwybodaeth i bobyddion am y drefn labelu newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU). 

Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy'n cynhyrchu bwyd PPDS, gan gynnwys siopau bara, siopau cacennau, siopau te, cownteri mewn siopau, a phobyddion cartref sy’n gwerthu bwyd o’u cartref.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis. 

Mae'r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac a werthir yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, fel canolfan siopa).

I bobyddion a gwneuthurwyr cacennau gallai hyn olygu newidiadau o ran labelu bwydydd fel cacennau, bara, rholiau selsig, brechdanau, a chynhyrchion eraill. 

Yn y canllaw hwn byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS sy’n cael ei ddarparu’n aml gan bobyddion, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Becws neu bopty yn arddangos bwyd gyda labeli PPDS

Newidiadau ar gyfer pobyddion o ran labelu alergenau

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Ymhlith y bwydydd y gall pobydd neu fusnes bwyd cysylltiedig eu darparu mae:

  • brechdanau, cacennau, bara a phasteiod sy'n cael eu pecynnu yn y safle cyn i’r defnyddiwr eu harchebu neu eu dewis
  • aml-becynnau o gacennau, rholiau selsig, a rholiau bara wedi’u pecynnu yn y safle cyn i’r defnyddiwr eu harchebu neu eu dewis

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Nid yw bwyd PPDS yn cynnwys bwyd nad yw wedi’i becynnu pan fydd y defnyddiwr yn ei archebu, fel torthau, byns neu roliau bara sy’n cael eu harddangos yn rhydd ar silffoedd. Nid yw bwyd sydd wedi’i baratoi yn ôl archeb a  bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS. 

Gall hyn gynnwys cynhyrchion fel:

  • pasteiod, cacennau a croissants heb eu pecynnu sydd y tu ôl i gownter arddangos gwydr neu mewn cwpwrdd sy’n cadw bwyd yn boeth
  • tafelli o gacennau sydd wedi'u pacio ar gais y defnyddiwr
  • brechdanau a rholiau cig moch wedi'u gwneud yn ôl archeb

Nid oes angen label ar fwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw (bwyd rhydd), a rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol o ran darparu gwybodaeth am alergenau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 prif alergen i ddefnyddwyr. Mae gennych chi rywfaint o ddewis o ran sut byddwch chi'n darparu'r wybodaeth hon iddynt.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu mewn safle gwahanol i'r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi'i becynnu gan fusnes arall. 

Nid bwyd PPDS yw hwn, ond mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill. 

Dyma ragor o wybodaeth am labelu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a'r gofynion y mae'n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Canllawiau labelu ar gyfer pobyddion

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion. 

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.

Canllawiau labelu ar gyfer pobyddion cartref

Mae eisoes yn ofynnol i bobyddion cartref, sy’n gwerthu eu bwyd ar-lein neu drwy ddulliau eraill o werthu o bell, ddarparu gwybodaeth am alergenau cyn i’r bwyd gael ei archebu a phan fydd yn cael ei ddosbarthu. 

Ni fydd y rheoliadau newydd yn effeithio ar fwyd a werthir o bell heb fod y defnyddiwr yn gorfforol bresennol yn ystod y broses archebu.

Fodd bynnag, bydd y bwyd hwn yn destun gofynion newydd ar gyfer gwerthu o bell . Mae gennym ni wybodaeth bellach am fwyd a werthir o bell a’r wybodaeth alergenau y mae’n rhaid ei darparu yn ein canllawiau technegol.  

Os ydych chi wedi dechrau gwerthu bwyd o’ch cartref yn ddiweddar, defnyddiwch ein canllaw dechrau busnes bwyd o’r cartref i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru, hylendid bwyd, rheoli alergenau, a gwerthu bwyd ar-lein.

Label bwyd PPDS enghreifftiol

Mae gan ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS wybodaeth fanwl am yr hyn i'w gynnwys ar label bwyd, a sut i'w gyflwyno a'i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw'r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o'r 14 alergen sy'n bresennol yn y bwyd. Yn yr enghraifft hon, mae'r holl gynhwysion yn y bwyd mewn un rhestr.

PPDS jam doughnut label simple

Ceir enghraifft arall o sut y gallai label PPDS ymddangos isod, lle mae’r cynhwysion wedi eu cyflwyno trwy grybwyll cynhwysion cyfansawdd yn y bwyd. Er enghraifft, mae'r llenwad jam yn gynhwysyn cyfansawdd, ac mae ei gynhwysion wedi eu gwahanu yn y rhestr trwy ddefnyddio cromfachau.  

Label bwyd PPDS toesen jam cyfansawdd

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • mae’r bwyd naill ai wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu.
  • ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid.
  • mae’r bwyd yn barod i'w werthu i'r defnyddiwr terfynol

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • cacen wedi’i phecynnu’n llwyr mewn cling ffilm.
  • bara wedi ei roi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r bara.
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi'i glymu â chwlwm neu wedi'i selio

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, cacen wedi ei gweini ar hambwrdd cardfwrdd agored, neu baguette mewn gorchudd agored).

Cwestiynau cyffredin gan bobyddion am labelu bwyd PPDS

Ble gallaf ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’.

Faint o fanylion sydd angen i mi eu darparu wrth labelu cynhwysion cyfansawdd?

Mae cynhwysyn cyfansawdd yn gynhwysyn sy’n cynnwys, ynddo’i hun, fwy nag un cynhwysyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bara mewn brechdan, lle mae'r bara ei hun wedi'i wneud o gynhwysion amrywiol.

Nid yw enwi cynhwysion cyfansawdd mewn rhestr yn ofyniad, ond gellir gwneud hynny. Er enghraifft, gallai label brechdan gynnwys rhestr o'r cynhwysion yn y bara ar ôl yr enw 'bara'. 

Os gwnaethoch ddewis peidio â rhestru cynhwysyn cyfansawdd o dan ei enw ei hun, bydd angen i chi restru holl gynhwysion cyfansoddol y cynhwysion cyfansawdd ar wahân, yn nhrefn eu pwysau wrth y cynnyrch gorffenedig yn ei gyfanrwydd.

Mae ein canllawiau labelu yn darparu gwybodaeth fanwl am gynhwysion cyfansawdd a labelu bwyd PPDS.

A oes angen i mi newid labeli ar gyfer bwyd a werthir ar-lein neu dros y ffôn neu i’w gasglu a’i ddosbarthu?

Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd a werthir o bell. Mae hyn yn cynnwys bwyd sy'n cael ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Efallai y bydd busnesau’n penderfynu ei bod yn haws labelu pob cynnyrch yn hytrach na gwahaniaethu rhwng gwerthiannau o bell a rhai nad ydynt o bell (fel bwyd a werthir mewn siopau). Mantais hyn yw nad oes rhaid i’r busnes reoli gwahanol ddarpariaethau gwybodaeth a labelu. 

Mae hefyd yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y defnyddiwr sy'n prynu o bell, ar yr un pryd â’i gwneud hi'n haws i'r busnes ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau, fel nad oes angen gofyn amdani wrth ddosbarthu’r bwyd.

Mae gennym ni fwy o wybodaeth am ofynion labelu gwybodaeth am alergenau ar gyfer gwerthu o bell.

A oes angen i mi labelu bwydydd wedi’u pobi dros ben o archebion eraill?

Os oes gennych chi fwyd dros ben, fel teisennau cwpan, a'ch bod yn eu rhoi mewn deunydd pecynnu cyn i ddefnyddiwr eu harchebu, maent yn fwyd PPDS ac mae rheolau labelu bwyd PPDS yn gymwys.  

Os yw'r teisennau cwpan yn cael eu harddangos heb ddeunydd pecynnu, nid ydynt yn fwyd PPDS. 

A oes angen i mi labelu bwyd pan fydd y defnyddiwr yn gwneud ei ddewis yn seiliedig ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos?

Os ydych chi’n darparu bwyd i’r defnyddiwr, ac mae hwnnw eisoes wedi ei becynnu ar y safle, bwyd PPDS ydyw. 

Hyd yn oed pe bai’r defnyddiwr yn seilio ei ddewis ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos, byddai angen labelu PPDS ar y bwyd wedi’i becynnu.

A oes angen i mi ddiweddaru’r label os yw’r defnyddiwr yn gofyn am ychwanegu cynhwysion ychwanegol at y bwyd?

Rhaid labelu'r bwyd fel ei fod yn adlewyrchu ei gynhwysion adeg ei becynnu. 

Os byddwch yn tynnu bwyd PPDS o’i ddeunydd pecynnu er mwyn ychwanegu cynhwysion ychwanegol ar gais y defnyddiwr, nid oes angen labelu cynhwysion pellach arno i adlewyrchu’r newidiadau hynny. Dylech ddarparu gwybodaeth am alergenau i'r defnyddiwr ar y bwyd ychwanegol rydych chi wedi'i ychwanegu at y cynnyrch ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn ogystal â'r wybodaeth ar y label cyfredol.

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i’n prynu eitem aml-becyn, ond yn gwerthu’r cynnwys fel eitemau unigol?

Mae aml-becynnau, lle mae'r cynnwys wedi'i becynnu’n unigol mewn safle gwahanol i'r man lle caiff ei ddarparu, yn fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. 

Rhaid i unrhyw fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a werthir neu a gynigir i'w werthu gael ei labelu yn unol â'r gofynion a nodir yn y gyfraith bwyd ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. 

Os yw pecynnau unigol sy’n deillio o aml-becynnau wedi'u gwahanu, ni ddylid eu gwerthu na'u cynnig os nad ydynt wedi'u labelu'n unigol nac yn cydymffurfio â gofynion labelu.

A oes angen labelu bwyd sy’n cael ei arddangos o dan gromenni (domes) diogelu?

Os taw eitem sengl yw’r bwyd o dan gromen ddiogelu, sy’n cynnwys y bwyd a’r deunydd pecynnu y’i rhoddwyd ynddo, ac sy’n barod i’w gyflwyno i’r defnyddiwr, yna bwyd PPDS ydyw. 

Os tynnir y gromen cyn i’r bwyd gael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, yna nid bwyd PPDS mohono. Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw hwn. 
Er enghraifft, os oes gennych chi gacen fach wedi’i gorchuddio â chromen ddiogelu sy’n cael ei chyflwyno i’r defnyddiwr gyda’r gromen drosti, bwyd PPDS ydyw.

Os oes gennych chi gacen fawr o dan gromen, a’r bwriad yw ei rhannu’n dafelli unigol, a’u gweini ar blatiau ar wahân, nid bwyd PPDS fyddai hwn gan nad yw’r gacen fawr a’r deunydd pecynnu y’i storiwyd ynddo yn ‘eitem sengl’. Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw hwn.

A yw’r newidiadau labelu yn effeithio ar fwyd a werthir mewn marchnadoedd ffermwyr neu gan werthwyr symudol?

Mae bwyd PPDS yn fwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr, ac sydd yn y deunydd pecynnu hwn cyn iddo gael ei archebu neu ei ddewis gan y cwsmer. Mae bwyd a werthir gan werthwyr symudol a’i becynnu gan yr un busnes mewn lleoliad arall cyn iddo gael ei archebu neu ei ddewis hefyd yn fwyd PPDS. Felly, os ydych chi'n gwerthu bwyd o stondin farchnad neu gerbyd ac yn pecynnu’r bwyd rydych chi'n ei werthu mewn lleoliad arall, mae hwn hefyd yn fwyd PPDS.

Mae gennym ni ragor o wybodaeth am newidiadau i labelu PPDS ar gyfer gwerthwyr symudol

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond, os byddwch chi’n rhagweld brys ac yn mynd ati ymlaen llaw i dywallt diodydd a rhoi caeadau ar eu pennau cyn i gwsmeriaid eu harchebu, byddai’r diodydd hyn yn syrthio o dan ofynion labelu PPDS a bydd yn ofynnol i chi rhoi labeli arnynt.