Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhoi gwybod i awdurdodau am fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel

Penodol i Gymru a Lloegr

Rhaid i fewnforwyr roi gwybod i awdurdodau ymlaen llaw cyn i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel gyrraedd Prydain Fawr.

Mae’n hanfodol rhoi gwybod i awdurdodau ym Mhrydain Fawr ymlaen llaw cyn i fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gyrraedd o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd y tu allan i’r UE. Yr unig eithriad yw mewnforion o Weriniaeth Iwerddon.

Rhaid i fewnforwyr ac asiantau mewnforio ddefnyddio’r system mewnforio cynhyrchion, anifeiliaid, bwyd a bwyd anifeiliaid (IPAFFS) ar-lein i wneud hyn.

Mae rhoi gwybod ymlaen llaw yn hanfodol oherwydd y canlynol: 

  • mae’n helpu i symleiddio’r broses samplu, fel rhan o gwaith gwirio nwyddau penodol ar y ffin ar sail risg
  • mae’n gwella gallu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac awdurdodau lleol mewndirol i olrhain nwyddau, pe baent yn gysylltiedig â digwyddiad diogelwch bwyd
  • mae’n darparu gwybodaeth bwysig am gydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr

Mae Cynllun Gweithredu'r Ffin yn disgrifio’r holl reolaethau y mae’r ASB yn eu cynnal ar y ffin, gan gynnwys rhoi gwybod ymlaen llaw.

Gogledd Iwerddon

Dylai mewnforwyr sy’n symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, gan gynnwys yr holl gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, i Ogledd Iwerddon gysylltu â’r awdurdodau cymwys (fel PDF) yn y Safle Rheoli Ffiniau priodol i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mewnforio.