Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae'r Cynllun hwn yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir i chi am safonau hylendid y busnesau. Rydym ni'n cynnal y Cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'r Cynllun yn rhoi sgôr rhwng 5 i 0 i fusnesau a gaiff ei harddangos yn ffenestri siopau neu ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ble i brynu neu fwyta bwyd.

5 – safonau hylendid yn dda iawn

4 – safonau hylendid yn dda

3 – boddhaol ar y cyfan

2 – angen gwella

1 – angen gwella yn sylweddol

0 – angen gwella ar frys

 

Mae'r Cynllun wedi'i osod mewn cyfraith yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ond yn wirfoddol yn Lloegr.  

Sticer sgôr 5 y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru

Beth mae'r sgoriau yn seiliedig arno?

Mae sgoriau yn dangos sut y caiff bwyd, hylendid a diogelwch eu rheoli gan y busnes adeg yr arolygiad. Cyfrifoldeb y busnes yw cydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd ar bob adeg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • trin bwyd 
  • sut y caiff bwyd ei storio
  • sut y caiff bwyd ei baratoi 
  • glanweithdra'r cyfleusterau
  • sut y caiff diogelwch bwyd ei reoli

Nid yw'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi gwybodaeth am y ffactorau hyn:

  • ansawdd y bwyd 
  • gwasanaeth cwsmeriaid
  • sgiliau arlwyo
  • cyflwyniad
  • pa mor gyfforddus yw'r lleoliad
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael gwenwyn bwyd, ewch i geisio cyngor meddygol gan eich meddyg teulu a chysylltu â thîm iechyd yr amgylchedd neu dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.

Deall sgoriau

Mae'r sgôr yn dangos sut mae'r busnes yn ei wneud ar y cyfan ac yn ystyried unrhyw welliannau sydd eu hangen a lefel y risg y mae'r materion hyn yn eu peri i iechyd. Mae'r sgoriau ar gael ar-lein ac ar sticeri a gaiff eu harddangos ar safle busnesau. Bydd y sticeri a’r tystysgrifau hyn hefyd yn nodi’r dyddiad y cafodd y safonau hylendid eu harolygu gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol.

Caiff sgoriau eu rhoi i leoedd lle caiff bwyd ei werthu neu ei fwyta, fel:

  • bwytai, tafarndai a chaffis
  • siopau tecawê, faniau bwyd a stondinau
  • ffreuturau a gwestai
  • archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill 
  • ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal

Mae swyddog diogelwch bwyd o'r awdurdod lleol yn arolygu busnes i wirio ei fod yn dilyn cyfraith bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i'w fwyta. Yn yr arolygiad, bydd y swyddog yn gwirio'r tair elfen ganlynol:

  • pa mor hylan y mae bwyd yn cael ei drin – sut y mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
  • cyflwr ffisegol y busnes – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru a chyfleusterau eraill
  • sut mae'r busnes yn rheoli diogelwch bwyd, gan edrych ar brosesau, hyfforddiant a systemau i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal. Yna, gall y swyddog asesu pa mor hyderus ydyw o ran a fydd y safonau yn cael eu cynnal y dyfodol

Eithriadau

Mae dau grŵp o fusnesau sydd wedi'u heithrio a gaiff eu harolygu gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol, ond nid ydynt yn cael sgôr:

  • busnesau sy'n peri risg isel i iechyd y cyhoedd, er enghraifft, siopau papur fferyllfeydd neu ganolfannau ymwelwyr sy'n gwerthu nwyddau sydd wedi'u lapio ymlaen llaw
  • gofalwyr plant a busnesau sy’n darparu gwasanaethau gofal yn y cartref

Y raddfa sgorio

Yna, caiff y safonau hylendid a ganfyddir adeg yr arolygiad eu sgorio’n unol â graddfa benodol:

  • Y sgôr ar frig y raddfa yw ‘5’ – mae hyn yn golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn
  • Mae 0 ar waelod y raddfa, mae hyn yn golygu bod angen gwella ar frys

I gael y sgôr uchaf, rhaid i fusnesau wneud yn dda ym mhob un o'r tair elfen y cyfeirir atynt uchod. l gael y sgôr uchaf, bydd y swyddog yn egluro i'r busnes y camau y mae gofyn iddynt eu cymryd i wella'r sgôr hylendid. 

Mae dadansoddiad o'r tair elfen sy'n uno i roi Sgôr Hylendid Bwyd busnes hefyd ar gael fel sgôr ar-lein. Mae’r wybodaeth hon ar gael i fusnesau a gawsant eu harolygu ers mis Ebrill 2016 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ac ar gyfer busnesau a gawsant eu harolygu yng Nghymru ers mis Tachwedd 2014.

Os hoffech weld hwn gallwch gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i'r awdurdod lleol a gynhaliodd yr arolygiad. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes ac yna clicio ar enw'r busnes.

Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried eich cais Rhyddid Gwybodaeth ac fel arfer yn anfon copi i'r adroddiad atoch. Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol benderfynu nad ydynt yn gallu gwneud hynny, ond byddant yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam. Gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy'n ymwneud â diogelwch bwyd busnes i'r tîm diogelwch bwyd lleol sy'n gyfrifol am y busnes. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes ac yna clicio ar enw'r busnes.
 

Dod o hyd i sgôr

Mae pob sgôr ar gael ar-lein.

Gall sgoriau gael eu harddangos mewn man amlwg o fewn ffenest neu ddrws busnes. Gallwch hefyd holi aelod o staff pa sgôr gafodd y busnes yn yr arolygiad diwethaf. Mae arddangos sgoriau hylendid yn hysbyseb dda i fusnesau sy’n cydymffurfio â gofynion cyfraith hylendid bwyd. Os yw'r sgôr yn isel gallwch ddewis prynu eich bwyd neu bryd o fwyd o fusnes â sgôr uwch.

Bu cynnydd yn ddiweddar yn nifer y busnesau bwyd sydd bellach yn gwerthu ar-lein. Rydym yn gweithio tuag at estyn y gofyniad cyfredol i arddangos sgôr hylendid bwyd ar safle busnes i gynnwys arddangos y sgôr ar-lein ar gyfer y rheiny sy’n gwerthu ar-lein.
 

Gogledd Iwerddon

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon arddangos eu sgoriau yn y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, megis y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest eu busnes.

Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu gweld a’u darllen yn hawdd cyn iddynt mynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor.

Mae'n rhaid i bob busnes yng Ngogledd Iwerddon ddarparu gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os daw cais felly gan berson ar y safle neu dros y ffon.

Yng Ngogledd Iwerddon, ein nod yw gwneud arddangos y sticer ar-lein yn orfodol yn 2023. Bydd hyn yn cynnwys gwefannau a llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae canllawiau ar gael ar sut i gydymffurfio.
 

Os na allwch ddod o hyd i sgôr

Ewch ati i geisio chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Mae hyn oherwydd taw dim ond gwybodaeth gyfyngedig am gyfeiriadau sy’n cael ei chyhoeddi ar gyfer busnesau sydd wedi’u cofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad preifat (arlwywyr cartref) – hynny yw, rhan gyntaf y cod post. Ni fydd chwilio gan ddefnyddio rhannau o'r cyfeiriad sydd heb eu cyhoeddi, er enghraifft, y cod post llawn neu'r dref yn gweithio.  Os na allwch ddod o hyd i sgôr o hyd, dylech gysylltu â'r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am arolygu'r sefydliad.  Yr ASB sy’n darparu’r wefan sgoriau ond mae’r hyn a gyhoeddir arni yn cael ei roi gan yr awdurdod lleol.

Gogledd Iwerddon

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon arddangos eu sgoriau yn y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, megis y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest eu busnes. Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu gweld a’u darllen yn hawdd cyn iddynt mynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor.

Mae'n rhaid i bob busnes yng Ngogledd Iwerddon ddarparu gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os daw cais felly gan berson ar y safle neu dros y ffon.
 

Sgoriau ar-lein sy'n wahanol i'r sticeri sgoriau 

Mae'n bosibl bod rheswm teilwng pam fod sgôr ar-lein yn wahanol i sgôr sy'n cael ei harddangos ar safle busnes, fel: 

  • Mae'r busnes wedi apelio yn erbyn ei sgôr ddiweddaraf ac yn disgwyl am y canlyniad
  • Mae'r awdurdod lleol wrthi'n uwchlwytho'r sgôr newydd i'n gwefan 

Hyd yn oed os yw'r busnes yn cael y sgôr uchaf, fe all bod ychydig o oedi tra bod yr awdurdod lleol yn diweddaru'r wefan. Mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho sgoriau bob 28 diwrnod ar y lleiaf. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i sgôr ar gyfer busnes, bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am arolygu'r busnes.

Os ydych chi'n poeni bod busnes yn arddangos sgôr wahanol i'r sgôr ar y wefan yn fwriadol, i awgrymu bod ganddo safonau hylendid uwch nag sydd ganddo mewn gwirionedd, dylech chi gysylltu â'r awdurdod lleol. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes gan ddefnyddio'r adnodd chwilio am awdurdod lleol.

Busnesau gyda sgoriau isel

Mae’n rhaid i fusnesau sy’n cael sgôr o ‘0’ neu ‘1’ roi gwelliannau brys neu welliannau mawr ar waith o ran eu safonau hylendid. Bydd swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn defnyddio nifer o ddulliau gorfodi ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod y gwelliannau’n cael eu gweithredu.

Bydd y swyddog diogelwch bwyd hefyd yn rhoi gwybod i'r busnes pa mor sydyn y mae'n rhaid cyflwyno'r gwelliannau hyn. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o broblem y mae gofyn mynd i'r afael â hi.

Os yw'r swyddog yn canfod bod safonau hylendid busnes yn wael iawn, a bod risg ar fin digwydd i iechyd y cyhoedd, pan allai bwyd fod yn anniogel, mae'n rhaid i'r swyddog weithredu er mwyn diogelu defnyddwyr. Gall hyn arwain at atal rhan o'r busnes, neu gau'r busnes yn gyfan gwbl, nes ei bod yn ddiogel ail-ddechrau.

Pa mor aml y cynhelir arolygiadau?

Caiff sgôr newydd ei rhoi bob tro y bydd y busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd o awdurdod lleol y busnes.

Mae amlder yr arolygiadau hyn yn dibynnu ar y risg posibl i iechyd y cyhoedd, fel y cafodd ei asesu yn yr arolygiad diwethaf.

Mae'r asesiad yn dibynnu ar:

  • y math o fwyd sy'n cael ei drin
  • nifer y cwsmeriaid
  • y math o brosesau a gynhelir cyn i'r bwyd gael ei werthu neu ei weini 
  • y safonau hylendid a welir ar y diwrnod

Cymru

Mae'n rhaid i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sgoriau, yn ôl y gyfraith, a hynny mewn man amlwg, fel drws, mynedfa neu  ffenestr busnes. Mae'n rhaid i bob busnes yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os daw cais felly gan berson ar y safle neu dros y ffon.

Mae'r cynllun yn berthnasol i fusnesau sy'n gwerthu i fusnesau gan gynnwys cynhyrchwyr bwyd a chyfanwerthwyr. Rhaid i siopau tecawê gynnwys datganiad dwyieithog ar fwydlenni a thaflenni sy'n dweud wrth ddefnyddwyr sut i ddod o hyd i fanylion y sgôr ar ein gwefan.
 
Resources

Wales

Northern Ireland

England