Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – atodiadau
Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref.
Atodiad A: manylion cyswllt a dolenni defnyddiol
Cysylltiadau
- Tîm Polisi Hylendid Bwyd yr ASB yng Nghymru
- Tîm Polisi Hylendid Cig yr ASB (Lloegr)
- Llywodraeth Cymru
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (Lloegr)
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
- Safonau Masnach
- Awdurdodau Lleol
- Y Gymdeithas Lladd heb Boen (HSA)
Dolenni
- Sefydliadau bwyd cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys lladd-dai
- Sut i sylwi ar BSE ac adrodd amdano
- Y Gymdeithas Lladd heb Boen (HSA)
- Safleoedd cymeradwy ar gyfer gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys deunydd risg penodedig (SRM)
- Safleoedd sydd wedi’u cymeradwyo i gynnal profion enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)
Atodiad B: Crynodeb o gwestiynau ac atebion ynghylch lladd gartref ar gyfer ffermwyr/ceidwaid
C1. Does dim pasbort gwartheg gen i ar gyfer fy anifail, ac mae wedi’i gyfyngu i’m daliad. A allaf ei ladd gartref?
Gallwch. Yn ddarostyngedig i’r rheolau arferol ar gyfer lladd gartref, nid yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn gwahardd perchnogion da byw rhag lladd eu gwartheg ar y fferm i’w bwyta eu hunain, ar eu menter eu hunain, hyd yn oed os ydynt wedi’u cyfyngu oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â rheolau adnabod, cofrestru a symud.
C2. A allaf fwyta unrhyw gig o’m hanifeiliaid fy hun?
Gallwch, ond rhaid i chi sicrhau bod eich anifail yn cael ei ladd a’i baratoi’n gyfreithlon (gweler isod). Rhaid i’r holl ddeunydd risg penodedig (SRM) gael ei dynnu, ei staenio a’i waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid Categori 1, ac ni ddylid ei fwyta. Gellir gweld diffiniad o Ddeunydd Risg Penodedig yn Atodiad C.
C3. Sut y dylwn ladd fy anifeiliaid fy hun i’w bwyta gen i?
Mae dwy ffordd gyfreithlon o ladd a pharatoi eich anifeiliaid i’w bwyta gennych chi, sef:
(a) mewn lladd-dy cymeradwy; neu(b) ar eich fferm, gennych chi neu laddwr trwyddedig (neu ddeiliad trwydded Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd neu ddeiliad Tystysgrif Cymhwysedd) o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth. Ym mhob achos, byddai’n anghyfreithlon cyflogi unrhyw un heblaw lladdwr trwyddedig i ladd yr anifail ar eich safle. Byddai hefyd yn anghyfreithlon lladd yr anifail unrhyw le arall i ffwrdd o’ch eiddo, ac eithrio mewn lladd-dy cymeradwy.
Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
C4. Beth ddylwn i ei wneud gyda’r deunydd gwastraff?
Os byddwch chi’n lladd anifail gartref, byddai unrhyw ran o’r carcas nad ydych chi’n ei fwyta yn cael ei dosbarthu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid o dan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009. Byddai’n rhaid cael gwared ar y deunydd gwastraff yn unol â’r Rheoliad, er enghraifft, trwy drefnu i’r deunydd gael ei rendro neu ei losgi mewn cyfleuster cymeradwy a chadw cofnodion priodol o hyn. Gall APHA neu awdurdodau lleol (neu, mewn rhai achosion, adrannau Iechyd yr Amgylchedd) roi cyngor ar yr opsiynau a fyddai ar gael i chi. Rhaid i ddeunydd risg penodedig gael ei dynnu o wartheg, defaid a geifr, ac ni ddylid ei fwyta. Rhaid i ddeunydd risg penodedig gael ei staenio a’i waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid categori 1. Mae rhagor o wybodaeth, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, ar gael ar wefan APHA ar y dudalen ynghylch categorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
C5. A allaf werthu cig fy anifeiliaid fy hun?
Dim ond os cafodd yr anifail ei ladd mewn lladd-dy cymeradwy y byddai’n gyfreithlon i chi roi’r cig ar y farchnad. Er enghraifft, drwy ei werthu yn eich siop fferm neu ei gynnig i westeion eich busnes gwely a brecwast. Gall perchnogion da byw weld lle mae’r lladd-dai cymeradwy ar y dudalen Sefydliadau Bwyd Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, ac yn Atodiad A.
C6. A yw’r cyfyngiad ar gyflenwi cig a laddwyd gartref yn gymwys i bartneriaethau neu gyd-berchnogion?
Ydy, oni bai bod y partner neu’r cyd-berchnogion yn aelodau o’r teulu sy’n byw fel rhan o’r un aelwyd. Mae’n annhebygol y byddai llys yn penderfynu bod cyflenwi cig a geir yn sgil lladd gartref yn gyfreithlon oherwydd ei fod wedi cael ei gyflenwi o fewn partneriaeth neu i gyd-berchennog.
C7. Beth am reolaethau TSE ar gyfer moch, dofednod, anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio neu gwningod sy’n cael eu lladd gartref?
Nid yw’r Rheoliadau TSE yn gymwys i foch, dofednod, anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio na chwningod.
C8. Sut y gallaf drefnu bod prawf BSE yn cael ei gynnal ar fy ngwartheg sy’n cael eu lladd gartref?
Dylech gysylltu â safle samplu BSE cymeradwy i wneud y trefniadau ar gyfer profi. Mae rhagor o wybodaeth sy’n manylu ar yr holl safleoedd samplu BSE cymeradwy ar gael ar wefan APHA.
C9. A all lladd-dy cymeradwy ladd anifail yn breifat ar fy rhan?
Gall, ar yr amod bod yr anifail yn cael ei ladd mewn lladd-dy cymeradwy. Wrth ladd anifail yn breifat, byddai’n rhaid dilyn yr un rheolau a gweithdrefnau â’r rheiny ar gyfer lladd anifail yn gonfensiynol (masnachol). Gall perchnogion da byw weld lle mae’r lladd-dai cymeradwy ar y dudalen Sefydliadau Bwyd Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, ac yn Atodiad A.
C10. A allaf drefnu bod anifail yn cael ei ladd yn breifat mewn man heblaw lladd-dy cymeradwy?
Gallwch, ond dim ond ar eich safle chi o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Gennych chi neu, os nad ydych yn barod i gyflawni’r lladd eich hun, laddwr trwyddedig WATOK neu rywun sydd â Thystysgrif Cymhwysedd o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth ar y fferm at eich defnydd personol eich hun (gweler C3 uchod).
- Os bydd anifail yn cael damwain/anaf sy’n ei atal rhag cael ei symud i’r lladd-dy am resymau lles, gellir ei ladd ar y fferm o dan ddarpariaethau lladd mewn argyfwng, gyda’r cig wedyn yn cael ei ddychwelyd atoch chi. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r fath anifeiliaid fod yn destun archwiliad milfeddygol ac ardystiad ar y fferm cyn y gellir eu lladd a’u cludo i ladd-dy cymeradwy lle byddai’r carcas yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Os ystyrir bod y cig yn addas i’w fwyta gan bobl, gellir ei ddefnyddio at eich defnydd eich hun a gellir ei roi ar y farchnad hefyd.
- Fodd bynnag, mae eithriad sy’n caniatáu i chi ladd ar eich daliad niferoedd bach o ddofednod neu lagomorffiaid (cwningod) sydd wedi’u magu yno a rhoi eu cig ar y farchnad i’w bwyta gan bobl, yn dibynnu ar rai amodau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Atodiad B, paragraff B o: Polisi gweithredol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau bwyd.
Atodiad C: Diffiniad o ddeunydd risg penodedig (SRM)
Gwartheg
- O dan 12 mis oed: dim SRM
- Dros 12 mis oed: y penglog heb gynnwys y mandibl ond yn cynnwys yr ymennydd a’r llygaid, a madruddyn y cefn (‘spinal cord’)
Defaid a geifr
- O dan 12 mis oed: dim SRM
- Dros 12 mis oed (neu flaenddant parhaol gweladwy neu dros 12 mis oed fel yr amcangyfrifir gan ddull a gymeradwywyd gan yr ASB): Penglog, gan gynnwys yr ymennydd a’r llygaid a madruddyn y cefn, ond heb gynnwys y cyrn na madruddyn y cefn
Gofynion staenio ar gyfer SRM
Mae staenio’n cynnwys trin y deunydd (boed drwy drochi, chwistrellu neu ddull arall) â chyfrwng lliwio gan ddefnyddio toddiant o’r fath gryfder fel bod y staenio i’w weld yn glir.
Rhaid defnyddio’r staen mewn modd sy’n sicrhau bod y lliw yn parhau’n weladwy:
- dros yr holl arwyneb sydd wedi’i dorri a’r rhan fwyaf o’r pen yn achos pen dafad neu afr, neu
- yn achos pob math arall o ddeunydd risg penodedig, dros arwyneb cyfan y deunydd