Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – cyflwyniad
Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref.
Cyflwyniad
Ystyr ‘lladd gartref’ yw pan fydd anifail da byw yn cael ei ladd gan ei berchennog ar ei safle i’w fwyta ganddo ef ei hun neu gan aelodau o’r teulu agos sy’n byw yno. Gall y gweithgarwch lladd gael ei gyflawni gan laddwr trwyddedig, a ddiffinnir fel person sy’n meddu ar drwydded Lles Adeg Lladd (WATOK) neu Dystysgrif Cymhwysedd (CoC), ar yr amod ei fod yn cael ei wneud o dan oruchwyliaeth y perchennog. Nid yw lladd gartref yn digwydd mewn lladd-dy cymeradwy. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw a gaiff eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Mae gwahaniaeth rhwng ‘lladd gartref’ a ‘lladd yn breifat’, sef pan fydd perchennog yr anifail yn ei anfon i ladd-dy cymeradwy i’w ladd ac mae’r carcas wedi’i drin yn cael ei ddychwelyd i’r perchennog. Byddai anifeiliaid sy’n cael eu “lladd yn breifat” yn destun mesurau arolygu ffurfiol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel y pennir gan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (OCR). Wedi hynny, byddai’r carcas yn cael marc iechyd i nodi ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl.
Mae lladd gartref hefyd yn wahanol i “ladd mewn argyfwng”, sef lladd carnolion (‘ungulates’) domestig (er enghraifft, gwartheg, defaid) y tu allan i’r lladd-dy, yn dilyn damwain/anaf, o dan weithdrefnau brys a geir mewn deddfwriaeth. Mae hyn ond yn berthnasol i’r gweithgarwch o ladd anifail sydd fel arall yn iach, lle mae’r ddamwain/anaf wedi golygu nad oes modd ei gludo i’r lladd-dy am resymau lles. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r fath anifeiliaid fod yn destun arolygiad ante mortem ac ardystiad gan Filfeddyg Swyddogol (OV). Yna, byddai’r carcas yn destun archwiliad milfeddygol pellach gan OV ac yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol gan yr ASB cyn cael marc iechyd, os yw’n addas i’w fwyta gan bobl. Yn wahanol i gig o anifeiliaid a gaiff eu lladd gartref, gall cig o anifeiliaid sy’n cael eu lladd yn unol â’r gweithdrefnau brys gael ei roi ar y farchnad i’w werthu i’w fwyta gan bobl.
Dylid nodi bod lladd gartref yn debygol o beri mwy o risg i iechyd y cyhoedd na lladd sy’n digwydd mewn safle cymeradwy lle cig yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Mae gwefan yr ASB yn cynnwys rhestr o’r holl sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’u cymeradwyo i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, ac mae hyn yn cynnwys lleoliadau lladd-dai cymeradwy. Gall perchnogion da byw hefyd ddod o hyd i’r manylion yn Atodiad A.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob perchennog da byw gadw cofnodion priodol o ran adnabod a symud eu hanifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwartheg, defaid, geifr, moch a cheirw sy’n cael eu lladd gartref yn cael eu cofnodi mewn cofrestrau fferm a bod hysbysiad yn cael ei roi yn y ffordd arferol i’r asiantaeth briodol, fel Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), y Gwasanaeth Gwybodaeth am Dda Byw (LIS) neu EID Cymru ar gyfer defaid a geifr, a’r gwasanaeth trwyddedu electronig ar gyfer symud anifeiliaid (eAML2) mewn perthynas â moch. Gweler rhagor o wybodaeth am gadw cofnodion da byw yng Nghymru a Lloegr. Os canfyddir nad oes cofnodion priodol wedi’u cadw, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn ôl yr angen.
Cynulleidfa darged
Perchenogion da byw (footnote 1) sy’n ystyried lladd gartref ar eu fferm (footnote 2) i’w bwyta ganddynt yn bersonol neu gan aelodau o’r teulu agos sy’n byw yno.
Deiliaid trwydded WATOK i ladd anifeiliaid, neu CoC a gyhoeddwyd gan yr awdurdod cymwys perthnasol, sy’n lladd gartref o dan gyfrifoldeb a goruchwyliaeth perchennog y da byw ar y fferm at ddefnydd personol y perchennog neu aelodau uniongyrchol o’i deulu sy’n byw yno.
Awdurdodau rheoleiddio a gorfodi sy’n gyfrifol am orfodi lles anifeiliaid, hylendid bwyd, y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSEs) a’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (ABP) ar ffermydd.
Diben y canllawiau
Rhoi cyngor ar yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn gallu lladd da byw gartref yn gyfreithlon.
Diogelu’r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid a lleihau unrhyw risgiau posib i iechyd a lles pobl ac anifeiliaid.
Statws cyfreithiol y canllawiau
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Gwnaeth deddfwriaeth yr UE a gafodd ei dargadw wrth i’r DU ymadael â’r UE droi’n gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr, ac yn gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys lle y bo hynny’n gymwys i Ogledd Iwerddon. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Datblygwyd y nodiadau canllaw hyn i roi:
- Canllawiau ar ofynion cyfreithiol
Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd
Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 ar hylendid bwydydd
Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (fel y’i diwygiwyd)
Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 (fel y’i diwygiwyd) sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs) mewn anifeiliaid
Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009 sy’n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta
Rheoliad (UE) 2017/625 sy’n gosod y rheolau ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill gan yr awdurdodau cymwys
Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (fel y’u diwygiwyd)
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd (Lloegr) 2013 (fel y’u diwygiwyd)
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018 (fel y’u diwygiwyd)
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Lloegr) 2018
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Lloegr) 2013 (fel y’u diwygiwyd)
Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014
Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Lloegr) 2015
- Canllawiau arferion gorau
Ni all y nodiadau canllaw hyn ar y gofynion cyfreithiol drin a thrafod pob sefyllfa, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol i weld sut y mae’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi. Efallai y bydd ceidwaid da byw neu fusnesau sydd ag ymholiadau penodol yn dymuno ceisio cyngor eu hasiantaeth orfodi leol. Fel arfer, dyma fydd adran Safonau Masnach/Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol lle mae’r fferm. Gweler yr wybodaeth am fanylion cyswllt Safonau Masnach a manylion eich awdurdod lleol. Bydd dilyn y nodiadau canllaw hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r gyfraith.
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddilyn canllawiau arferion gorau, ond fe’ch anogir i gymryd y camau a argymhellir. Nodir yr holl ganllawiau ar arferion gorau mewn blychau wedi’u lliwio, gyda’r pennawd Arferion Gorau:
- Ni fwriedir i’r canllawiau hyn gwmpasu pob rhywogaeth da byw, ond maent yn cwmpasu’r rhywogaethau hynny yr ydym yn cael y mwyafrif o ymholiadau yn eu cylch. Maent yn arbennig o berthnasol i wartheg, defaid a geifr lle mae rheolaethau TSE yn berthnasol.
- At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir ‘fferm’ fel unrhyw safle lle cedwir da byw.