Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – enghreifftiau ymarferol

Penodol i Gymru a Lloegr

Enghreifftiau ymarferol sy’n dangos dulliau cywir ac anghywir o gymhwyso’r gofynion cyfreithiol ar gyfer lladd gartref.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026

Enghreifftiau ymarferol

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y canlyniadau wrth gymhwyso’r gofynion cyfreithiol yn ymarferol.

Y perchennog yn lladd ei dda byw gartref i’w bwyta ei hun a/neu gan ei deulu agos sy’n byw yn yr un cartref: Cyfreithlon

Mae hyn yn gyfreithlon. Gan nad yw perchennog y da byw, yn yr amgylchiadau hyn, yn gweithredu fel gweithredwr busnes bwyd, nid yw’r Rheoliad Hylendid Bwyd yn gymwys. Fodd bynnag, mae lladd gartref yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (WATOK), Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) a Sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP). Felly, rhaid lladd anifeiliaid heb greulondeb a rhaid i’r deunydd risg penodedig (SRM) gael ei dynnu, ei staenio a’i waredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1. Rhaid i wartheg sydd angen prawf BSE gael canlyniad negyddol cyn y gellir bwyta’r cig. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Arferion gorau
Yr arfer orau yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn yr awdurdod lleol lle mae’r fferm wedi’i lleoli am unrhyw ladd sy’n digwydd gartref. Os nad yw hyn yn bosib, y cyngor yw y dylid rhoi gwybod cyn pen 5 diwrnod ar ôl lladd yr anifail. Mae manylion cyswllt eich awdurdod lleol i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn Atodiad A.

Lladd a pharatoi’r anifail ar y fferm gan laddwr trwyddedig: Cyfreithlon

Mae hyn yn gyfreithlon. Os nad ydych chi’n barod i gyflawni’r broses ladd eich hun, gallwch gyflogi lladdwr trwyddedig i ladd a pharatoi’r anifail/anifeiliaid ar y fferm sydd o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth chi. Rhaid i’r lladdwr feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd neu drwydded WATOK ar gyfer y gweithgareddau perthnasol sy’n dangos bod ganddo’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyflawni’r tasgau’n drugarog ac yn effeithlon. Dylai unrhyw laddwr trwyddedig allu cyflwyno tystiolaeth o’i drwydded. Fodd bynnag, os oes angen, gellir gwirio Tystysgrif Cymhwysedd neu drwydded WATOK lladdwr trwy anfon e-bost at WATOK@food.gov.uk gyda manylion yr unigolyn, gan gynnwys dyddiad geni a chyfeiriad os yw’n bosib. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Dim ond y perchennog a/neu deulu agos sy’n byw ar yr un aelwyd sy’n gallu bwyta cig o anifail a laddwyd gartref. Ni chaniateir gwerthu na rhoi cig o anifail a laddwyd gartref fel rhodd.
Arferion gorau

Yr arfer orau yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn yr awdurdod lleol lle mae’r fferm wedi’i lleoli am unrhyw ladd sy’n digwydd gartref. Os nad yw hyn yn bosib, y cyngor yw y dylid rhoi gwybod cyn pen 5 diwrnod ar ôl lladd yr anifail. Mae manylion cyswllt eich awdurdod lleol i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn Atodiad A.

Mae’r ASB yn cynghori perchennog y da byw a’r lladdwr sy’n ymgymryd â’r lladd (ar ran y perchennog) i gadw cofnod sy’n dangos pryd y defnyddir gwasanaethau’r lladdwr.

Y ffermwr yn lladd ei dda byw gartref i’w bwyta gan westeion yn ei fusnes gwely a brecwast: Anghyfreithlon

Mae hyn yn anghyfreithlon. Byddai perchennog y da byw yn cyflenwi’r cig wrth gynnal busnes, hynny yw, yn lladd ei anifail gyda’r bwriad o’i gyflenwi i’r gwesteion sy’n aros ym musnes gwely a brecwast y fferm. Rhaid i gig a roddir i westeion gwely a brecwast ddod o anifeiliaid a laddwyd mewn lladd-dy cymeradwy. Gall perchnogion da byw ddod o hyd i leoliadau lladd-dai cymeradwy ar y dudalen Sefydliadau Bwyd Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, ac yn Atodiad A.

Lladd da byw ar safle rhywun arall nad yw wedi’i gymeradwyo: Anghyfreithlon

Mae hyn yn anghyfreithlon. Mae’n anghyfreithlon lladd yr anifail unrhyw le arall i ffwrdd o’ch eiddo ac eithrio mewn lladd-dy cymeradwy, a bydd hyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

Lladd da byw yn breifat mewn lladd-dy cymeradwy: Cyfreithlon

Mae hyn yn gyfreithlon. Cyfeiriwch at baragraff 2 am ystyr “lladd preifat”. Gall perchnogion da byw ddod o hyd i leoliadau lladd-dai cymeradwy ar y dudalen Sefydliadau Bwyd Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, ac yn Atodiad A.

Cyfeiriadau

  1. Mae rhestr o fanylion cyswllt defnyddiol a dolenni cysylltiedig i’w gweld yn Atodiad A.
  2. Mae crynodeb o gwestiynau ac atebion ynghylch lladd gartref ar gyfer ffermwyr/ceidwaid i’w weld yn Atodiad B.
  3. Mae diffiniad o ddeunydd risg penodedig (SRM) i’w weld yn Atodiad C.

Adolygiad

Ein nod yw cadw’r holl ganllawiau yn gyfredol a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Mehefin 2027.

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am unrhyw ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys sydd wedi dyddio. Byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad arfaethedig nesaf o’r canllawiau. Anfonwch unrhyw adborth at meathygiene@food.gov.uk.