Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – rheoliadau enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy

Penodol i Gymru a Lloegr

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026

Rheoliadau enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy

Mae’r rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) yn gymwys lle bynnag y caiff anifail sy’n agored i TSE ei ladd. Mae hyn yn cynnwys lladd gartref.

Grŵp o glefydau dirywiol angheuol yr ymennydd yw TSEs, sy’n effeithio ar anifeiliaid a phobl fel ei gilydd. Maent yn cael eu hachosi gan brionau, sef ffurfiau annormal o broteinau sy’n gallu sbarduno clefyd. Mewn gwartheg, cyfeirir at TSE fel enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE), neu ‘glwy’r gwartheg cynddeiriog’, ac mewn defaid a geifr, cyfeirir ato fel clefyd y crafu (neu ‘scrapie’ yn Saesneg). Mae Deunydd Risg Penodedig (SRM) yn cyfeirio at y rhannau o wartheg, defaid a geifr sydd fwyaf tebygol o gario heintusrwydd os yw’r anifail wedi’i heintio â TSE. Mae’n hanfodol bod SRM yn cael ei dynnu o gadwyni bwyd pobl ac anifeiliaid a’i ddinistrio i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid.

Ar ôl lladd gwartheg, defaid neu eifr, rhaid tynnu, staenio a chael gwared ar yr SRM yn unol â Rheoliad (CE) Rhif 999/2001 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Rheoliad TSE) a Rheoliad (CE) Rhif 1069/2009 ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y Rheoliad ABP).

Mae rhestr lawn o SRM, ynghyd â'r gofynion staenio, yn Atodiad C.

Rhaid cael gwared ar SRM mewn ffatri rendro neu losgi categori 1 cymeradwy, a gellir gweld manylion y rhain ar y dudalen Ffatrïoedd gweithredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid: safleoedd cymeradwy ac yn Atodiad A.

Yn ogystal â chael gwared ar SRM, rhaid i’r gwartheg canlynol brofi’n negyddol am BSE o hyd cyn bwyta’r cig:

  • gwartheg iach dros 30 mis oed, a gaiff eu lladd i’w bwyta gan bobl, a aned yn Rwmania, Bwlgaria a phob gwlad y tu allan i’r UE
  • gwartheg dros 48 mis oed a gaiff eu lladd mewn argyfwng (hynny yw, anifail sydd fel arall yn iach sydd wedi cael damwain/anaf sy’n ei rwystro rhag cael ei gludo i’r lladd-dy)
  • gwartheg dros 24 mis oed a gaiff eu lladd mewn argyfwng a aned yn Rwmania, Bwlgaria a phob gwlad arall y tu allan i’r UE
  • gwartheg o bob oed sy’n dangos arwyddion o BSE. Rhaid rhoi gwybod am y gwartheg hyn hefyd gan fod BSE yn glefyd hysbysadwy

Os oes angen prawf BSE ar yr anifail sydd i’w ladd, dylech gysylltu â safle samplu BSE cymeradwy i wneud y trefniadau profi. Mae rhagor o wybodaeth sy’n manylu ar yr holl safleoedd samplu BSE cymeradwy ar gael ar wefan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Dim ond os yw’r prawf BSE yn negyddol y dylid bwyta cig o’r anifail. Os yw’r prawf yn bositif, rhaid cael gwared ar y carcas a phob rhan o’r corff fel sgil-gynnyrch anifeiliaid categori 1 (SRM). Rhestrir y manylion cyswllt perthnasol er mwyn cael cyngor ar brofion BSE a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn Atodiad A.

Mae’r rheoliadau TSE domestig yn caniatáu i awdurdodau lleol benodi arolygwyr i orfodi’r ddeddfwriaeth a rhoi pwerau i arolygwyr fynd i mewn i safleoedd, atafaelu unrhyw garcas neu ran o garcas a chael gwared arno yn ôl yr angen. (footnote 1) Fel arall, gall arolygwr gyflwyno hysbysiad i’r perchennog sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael gwared arno.