Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – rheoliadau hylendid bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Hylendid Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026

Rheoliadau hylendid bwyd

Mae Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 (o hyn ymlaen y Rheoliad Hylendid Bwyd) yn nodi, yn y rhan fwyaf o achosion, fod yn rhaid i gig a fwriedir i’w fwyta gan bobl ddod o anifeiliaid a gaiff eu lladd mewn lladd-dy cymeradwy. Mae’r fath ddulliau lladd, ymhlith pethau eraill, yn destun arolygiad a dilysiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Mae cyfreithlondeb lladd y tu allan i safle cymeradwy yn dibynnu a yw’n fwriad i’r carcas neu gig o’r carcas gael ei “roi ar y farchnad”. Mae Erthygl 3 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 yn diffinio “rhoi ar y farchnad” fel “the holding of food or feed for the purpose of sale, including offering for sale or any other form of transfer, whether free of charge or not, and the sale, distribution and other forms of transfer themselves”. (Sylwer nad yw’r dyfyniad hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth ydyw na chafodd ei gwneud yn Gymraeg.) Er enghraifft, mae cyflenwi carcas yn ôl i’r perchennog gan ladd-dy cymeradwy yn gyfystyr â rhoi cig ar y farchnad o dan y diffiniad hwn oherwydd:

  • caiff bwyd ei gyflenwi wrth gynnal y busnes; a
  • caiff cig ei gyflenwi gan fod y cynnyrch sy’n cael ei ddychwelyd ar ôl y lladd (hynny yw, y carcas wedi’i drin neu’r cig) yn hollol wahanol i’r hyn a ddosbarthwyd i’r lladd-dy (yr anifail byw).

Felly, er mwyn sicrhau bod lladd gartref yn gyfreithlon ac wedi’i eithrio rhag y Rheoliad Hylendid Bwyd, rhaid i’r perchennog gyflenwi aelodau o’i deulu agos sy’n rhannu’r un cartref yn unig. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae’n anghyfreithlon o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013, a Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 i’r perchennog gyflenwi eraill, er enghraifft, ffrindiau neu deulu nad ydynt yn byw yn yr un cartref, neu os yw’r cig yn cael ei werthu trwy siop ar y fferm neu mewn marchnadoedd ffermwyr.

Mae cig o anifeiliaid a gaiff ei ladd gartref a’i roi ar y farchnad yn anghyfreithlon, ac felly gellir ei atafaelu a’i ddinistrio. Gall swyddogion awdurdodau lleol ardystio nad yw cig wedi’i gynhyrchu, ei brosesu na’i ddosbarthu yn unol â’r Rheoliadau hynny a nodwyd uchod. Byddai cig o’r fath yn cael ei drin wedyn fel cig nad yw’n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd o dan adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Gellid cael gorchymyn i’w gondemnio gan Lys Ynadon. Wrth gyflawni’r rôl orfodi hon, efallai y bydd angen i awdurdodau lleol gysylltu â’r ASB yn achlysurol. Mae rhestr o bwyntiau cyswllt yn Atodiad A.