Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – rheoliadau lles anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026

Rheoliadau lles anifeiliaid

Mae deddfwriaeth ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid anwes wrth eu lladd. (footnote 1) Rhaid lladd yn unol â gofynion Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (o hyn ymlaen y Rheoliad PATOK), Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (PDF) a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Lloegr) 2015 (PDF) (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y Rheoliadau WATOK).

O dan y Rheoliadau PATOK a WATOK, pan gaiff anifeiliaid eu lladd, rhaid iddynt gael eu harbed rhag unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint y gellir eu hosgoi yn ystod y broses. Dim ond ar ôl eu stynio, yn unol â’r gofynion a nodir yn Erthygl 10 o Reoliad Lles Anifeiliaid yr UE ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau WATOK, y caniateir lladd anifeiliaid gartref. Rhaid sicrhau bod y diffyg ymwybyddiaeth a synwyrusrwydd yn para hyd at farwolaeth yr anifail. Dim ond mewn lladd-dai cymeradwy y caniateir lladd anifeiliaid heb eu stynio ymlaen llaw, trwy ddulliau a ragnodir gan ddefodau crefyddol, a hynny’n unol ag Atodlen 3 i’r Rheoliadau WATOK.

O dan y Rheoliad PATOK, mae Erthygl 7(1) yn nodi “killing and related operations shall only be carried out by persons with the appropriate level of competence to do so without causing the animals any avoidable pain, distress or suffering”. (Sylwer nad yw’r dyfyniad hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth ydyw na chafodd ei gwneud yn Gymraeg.)

Mae’r Gymdeithas Lladd heb Boen (HSA) yn cyhoeddi canllawiau ac yn darparu hyfforddiant ar gyfer lladd da byw ar y fferm, ac mae hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth ac arferion gorau i berchnogion da byw ar ladd heb greulondeb. Mae nifer o adnoddau ar gael ar wefan HSA.

Y tu allan i safleoedd cymeradwy (er enghraifft, wrth ladd gartref), mae’r Rheoliad PATOK yn cael ei orfodi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol. Gall awdurdod lleol benodi arolygwyr at ddiben gorfodi’r Rheoliad PATOK a’r Rheoliadau WATOK mewn sefydliadau heblaw lladd-dai. Gall arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol (nid oes angen hyn bob amser), fynd i mewn i unrhyw safle ar awr resymol at ddibenion gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau. Yn y cyd-destun hwn, mae “safle” yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, corlan, cynhwysydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.

Gellir ymchwilio i unrhyw dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, fel y manylir yn y canllawiau hyn, a chymryd camau gorfodi priodol. Os oes unrhyw amheuaeth na ellir bodloni’r amodau lles gofynnol er mwyn gallu lladd da byw gartref yn gyfreithlon, rhaid lladd yr anifail/anifeiliaid mewn lladd-dy cymeradwy lle gall cig fod yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Mae manylion lleoliadau lladd-dai cymeradwy i’w cael ar y dudalen Sefydliadau Bwyd Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr, ac yn Atodiad A.