Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rydym yn croesawu adborth a chwynion ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu ohonynt fel y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell. 

Gallwch chi roi gwybod i ni os: 

  • ydych chi'n anhapus gyda'r gwasanaeth a gewch gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) 
  • ydych chi'n anhapus ag ymddygiad neu weithredoedd aelod o staff a gyflogir gan yr ASB neu ar ei rhan
  • nad yw aelod o'n staff mewn rôl sy'n wynebu'r cyhoedd yn cwrdd â'r safonau angenrheidiol o ran rhuglder llafar yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a elwir yn 'ddyletswydd rhuglder’

Nid yw'r ASB yn gyfrifol am gŵynion am gynhyrchion neu wasanaethau bwyd a ddarperir gan fusnes bwyd. Er mwyn gwneud cwyn am gynhyrchion bwyd, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth rhoi gwybod am broblem bwyd i awdurdod lleol y busnes.

Sut i wneud cwyn am yr ASB

Gallwch chi wneud cwyn am yr ASB drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Gallwch chi hefyd anfon llythyr at:

Cydlynydd Cwynion yr ASB
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
FOI, Complaints and Transparency Team
Clive House
Floor 7
70 Petty France
Llundain SW1H 9EX

Os byddwch chi angen help i wneud cwyn, gallwch chi ein ffonio ar: 0330 332 7149

Dylech chi wneud y gŵyn o fewn 1 mis calendr i chi ddod yn ymwybodol o'r mater. 

Dywedwch wrthym a ydych am i fanylion eich cwyn gael eu cadw'n ddienw ac yn gyfrinachol pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gyntaf. 

Darllenwch bolisi cwynion llawn yr ASB

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn yn drylwyr. 

Byddwn yn  ysgrifennu atoch gydag ymateb llawn:

  • o fewn 20 diwrnod gwaith wedi i'ch cwyn ddod i law, os yw eich cwyn yn cael ei adolygu'n lleol 
  • o fewn 40 diwrnod gwaith os yw eich cwyn yn cael ei adolygu gan Gydlynydd Cwynion yr ASB neu'r Prif Weithredwr 

Os nad yw’n bosibl ymateb o fewn yr amser hyn, byddwn ni'n esbonio pam ac yn dweud pryd y byddwch chi'n cael ateb llawn. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych sut i uwchgyfeirio'ch cwyn os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb. Bydd hyn yn cynnwys manylion ar sut y gallwch chi ofyn i'r Ombwdsmon ymchwilio i'ch cwyn a'i thrin

Ein nod yw bodloni Safonau Cwynion Llywodraeth Ganolog y DU yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wrth ymdrin â chwynion. Mae’r safonau hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth cyflymach a symlach ar gyfer ymdrin â chwynion, sy’n cyflawni’r canlynol:

  • hyrwyddo diwylliant lle rydym yn dysgu
  • croesawu cwynion mewn ffordd gadarnhaol
  • bod yn drylwyr ac yn deg 
  • rhoi ymatebion teg ac atebol 

Cwynion ynglŷn â safonau Cymraeg neu Saesneg llafar


Os yw eich cwyn yn ymwneud â'r 'ddyletswydd rhuglder', byddwn ni'n rhoi gwybod i'r aelod o staff sy'n destun i'r gŵyn. Bydd cyfle iddynt roi eu barn am y ffeithiau sy'n arwain at y gŵyn.
 
Nid ystyrir cwyn yn erbyn acen, tafodiaith, dull neu dôn cyfathrebu, tarddiad neu genedligrwydd aelod o staff yn gŵyn gyfreithlon o dan y ddyletswydd rhuglder.

Cwynion am ein Gwasanaethau Cymraeg

Mae gwybodaeth am gwynion mewn perthynas â'n Cynllun Iaith Gymraeg a gwasanaethau ar gael ar y dudalen Cynllun Iaith Gymraeg.

Sylwadau

Rydym ni hefyd yn falch iawn o gael canmoliaeth amdanom ni neu unrhyw un o'n staff. Gallwch chi hefyd wneud awgrym ar sut i wella ein gwasanaeth. 

Gallwch chi anfon unrhyw ganmoliaeth neu sylwadau drwy anfon e-bost atom drwy:

fct@food.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd