Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwenwyn bwyd

Bacteria a feirysau a all achosi gwenwyn bwyd a sut i osgoi’r risg o fynd yn sâl.

Mae gwenwyn bwyd yn cael ei achosi gan fwyta rhywbeth sydd wedi’i halogi â germau.

Gall hyn ddigwydd os yw bwyd:

  • heb ei goginio na’i ailgynhesu’n drylwyr
  • heb ei storio’n gywir – er enghraifft, nid yw wedi’i rewi na’i oeri
  • yn cael ei adael allan yn rhy hir
  • yn cael ei drin gan rywun sy’n sâl neu sydd heb olchi ei ddwylo
  • yn cael ei fwyta ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’

Gall unrhyw fath o fwyd achosi gwenwyn bwyd.

Ewch ati i ddysgu mwy am facteria a feirysau a all achosi gwenwyn bwyd a sut i leihau’r risg.

Sut y gallwch chi leihau’r risg o gael gwenwyn bwyd gartref

Bydd dilyn yr hanfodion hylendid bwyd ac awgrymiadau eraill yn eich helpu i baratoi, gwneud a storio bwyd yn ddiogel:

  • coginio bwyd yn gywir trwy ddilyn y canllawiau ar amser a thymheredd
  • oeri eich bwyd o dan 5 gradd C, gan y bydd hyn yn atal neu'n arafu twf bacteria yn sylweddol  
  • glanhau offer bwyd ac arwynebau’n drylwyr. Mae hyn yn helpu i stopio bacteria niweidiol a feirysau rhag lledaenu i fwyd 
  • atal croeshalogi a allai beri i facteria ledaenu o fwyd amrwd i fwyd sy’n barod i’w fwyta trwy bethau fel bagiau siopa, cyllyll a byrddau torri
  • defnyddio bwyd a diod erbyn y dyddiad 'defnyddio erbyn' ar y label, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn – gall bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn beri risg i’ch iechyd, oherwydd nad ydych chi’n gallu arogli na blasu’r bacteria sy’n eich gwneud chi’n sâl  
  • hylendid personol da – sy’n hanfodol wrth baratoi bwyd. Bydd hyn yn sicrhau nad yw bacteria y gallech chi fod wedi dod i gysylltiad â nhw yn cael eu trosglwyddo i'ch ffrindiau, teulu a chymdogion yn eu bwyd.