Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Adroddiad Cyfarwyddwyr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – 8 Gorffennaf 2025

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mehefin 2025

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

  • dolen i’r papur a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2025
  • crynodeb o weithgarwch ymgysylltu’r uwch-dîm rheoli ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA) 
  • trosolwg o ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) mewn perthynas â Chymru.

Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin.

Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o rywfaint o’r gwaith allweddol a wnaed gan Gyfarwyddwr UKIA, Anjali Juneja, a fydd o ddiddordeb i WFAC, ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ebrill. 

Cyllidebau a Chynllunio Busnes

Cyhoeddwyd ‘Ein Bwyd 2024: adolygiad o safonau bwyd ledled y DU’ gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ym mis Mehefin, ac rydym yn cynnal digwyddiad arno yng Nghaerdydd ar 9 Gorffennaf. Bydd cynrychiolwyr o’r diwydiant, y byd academaidd, adrannau eraill o’r llywodraeth a’r llywodraeth leol yn dod i’r digwyddiad. 

Mae cyllideb 2025/26 bellach wedi’i phennu ar gyfer yr ASB yng Nghymru, ond rydym yn dal i aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ar sut y bydd y cyfraniad Yswiriant Gwladol yn cael ei dalu.

Roedd Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn cynnwys dyraniad grant bloc i Weithrediaeth Cymru a fydd angen blaenoriaethu a dyrannu’r adnoddau ar draws pob adran, gan gynnwys yr ASB yng Nghymru. Bydd hyn yn digwydd dros yr ychydig fisoedd nesaf. Cynyddodd setliad bloc Cymru £5bn dros y 3 blynedd nesaf (£1bn yn 2026-27; £1.6bn yn 2027-28 a £2.4bn yn 2028-29). Cafwyd £4 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon.

Dyfodol rheoleiddio

Yn dilyn y diweddariad a roddais ar Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol yng nghyfarfod mis Ebrill, rydym wedi parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru ar y camau nesaf ar gyfer Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol. Rydym hefyd wedi gosod y ffrwd waith hon fel bloc adeiladu fel rhan o drafodaeth ar ddyfodol rheoleiddio bwyd. Cynhaliodd yr ASB ddigwyddiad ar ddyfodol rheoleiddio ar 20 Mai gyda rhanddeiliaid o Gymru, a rhannwyd canfyddiadau’r digwyddiad hwnnw yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin. Cytunodd y Bwrdd ar y camau nesaf ar unwaith ynghylch defnyddio data manwerthwyr. Roedd y camau hyn wedi’u datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid rheoleiddio, ac yn llywio’r bwriad y dylid rhoi blaenoriaeth i weithredu’r camau hyn mewn ffordd a fyddai’n arwain at welliannau pendant mewn darpariaeth reoleiddio. Nododd y Bwrdd hefyd y gwaith gwych a wnaed ar ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid, ar y camau nesaf hyn ac ar ddiwygiadau ehangach i’r system reoleiddio. Gwnaethant gytuno y byddwn yn parhau â’n huchelgais i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer diwygio ehangach, ond efallai na fyddai hynny’n digwydd mor gyflym ag y byddem yn ei ddymuno, o ystyried yr angen i roi sylw i flaenoriaethau eraill fel y cytundeb SPS. Gwnaethant ofyn am ddiweddariad ar Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, gyda ffocws ar sut roedd y camau nesaf yn cael eu rhoi ar waith.  

Bydd y tîm bellach yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried beth mae canlyniadau cyfarfod y Bwrdd yn ei olygu i Gymru.

Ymgysylltu ag awdurdodau lleol

Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr o Gyfarwyddwyr Diogelu Cyhoedd Cymru (DPPW) i drafod eu gwaith ar helpu i recriwtio i’r proffesiynau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach. Mae hyn yn cynnwys rhaglen prentisiaeth lefel 4 newydd yng Nghymru. Roedd hwn yn gyfarfod hynod ddefnyddiol, a bydd y tîm yn parhau i ymgysylltu â DPPW i ddarparu cefnogaeth lle bo angen.

Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru 

Ar lefel weinidogol, gwnaeth Cadeirydd yr ASB, Cadeirydd WFAC a minnau gwrdd â’r Gweinidog Murphy, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ddiwedd mis Mai. Cymerodd y Cadeirydd a minnau ran hefyd yng Nghyfarfod Gweinidogol y Pedair Gwlad ym mis Mai lle roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ffiniau ac, yn sgil Uwchgynhadledd Arweinwyr y DU/UE a gynhaliwyd ar 19 Mai, trafodwyd uchelgais y DU am Gytundeb SPS. Bydd y Gweinidog Murphy, ochr yn ochr â Chadeirydd yr ASB, yn lansio adroddiad blynyddol yr ASB ar safonau bwyd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. 

Yn fy adroddiad blaenorol, soniais am gyfarfod â Chyfarwyddwyr Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, a phwysigrwydd yr ymgysylltiad hwn. Rydym bellach wedi sefydlu’r cyfarfodydd hyn fel rhai i’w cynnal yn rheolaidd, ac gwnaethom gwrdd fwyaf diweddar ym mis Mai. 
 
Ar y cyd â nifer o gydweithwyr yr ASB yng Nghymru ar draws ein swyddogaethau polisi a gweithredu, cyfwelwyd â’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a minnau yn ddiweddar gan ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd hyn yn rhan o’r adolygiad parhaus o’r ASB yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion pellach am yr adolygiad wedi’u cynnwys yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn. 

Gweithgarwch yn San Steffan

Ers mis Gorffennaf 2024, mae Llywodraeth y DU wedi ailosod a chryfhau ein cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd drwy weithio gyda’r UE i nodi meysydd lle gallwn gryfhau cydweithrediad er budd i’r ddwy ochr ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS). Mae Llywodraeth y DU yn ceisio lleihau costau a biwrocratiaeth i’r graddau mwyaf posib ar gyfer nwyddau amaethyddol sy’n symud rhwng Prydain Fawr a’r UE ac rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae’r ASB yn gweithio ar draws y llywodraeth i ystyried a deall yn ofalus unrhyw oblygiadau i iechyd y cyhoedd yn sgil cytundeb SPS gyda’r UE.

Mewn perthynas â datblygiadau rhyngwladol eraill, bydd y Cytundeb Masnach Rydd diweddar rhwng India a’r DU yn arwain at, ymhen amser, DBT yn ein comisiynu i ddarparu cyfraniad i’r Adroddiad Adran 42. 

Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Ers cyfarfod diwethaf WFAC ym mis Ebrill, mae’r tîm wedi cytuno ar ein blaenoriaethau a’n cynllun busnes ar gyfer 2025-26, yn ogystal â datblygu meysydd gwaith â blaenoriaeth fel y nodir isod.  

  • Gwobrau Bwyd a Diod Cymru – ar 22 Mai, es i, yn ogystal â Chadeirydd WFAC, aelodau’r Bwrdd a staff yr ASB yng Nghymru, i’r seremoni wobrwyo yn Venue Cymru, Llandudno lle noddodd a chyflwynodd yr ASB yng Nghymru y Wobr ‘Hyrwyddwr y Gymuned Leol’. Roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o waith yr ASB ac ymgysylltu â ffigurau allweddol yn y diwydiant, gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid.
  • Cyfrifiaduron i elusennau – roeddwn i hefyd yn gallu manteisio ar fy nhaith i Landudno ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru i roi technoleg hanfodol yr ASB wedi’i hail-bwrpasu i Fanc Bwyd a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus fel rhan o fenter yr ASB i nodi pen-blwydd yr Asiantaeth yn 25 oed. Bydd y rhodd, a oedd yn cynnwys gliniaduron a ffonau clyfar, yn helpu’r elusen i barhau â’u gwaith hanfodol o gefnogi cymunedau Tudno a Mostyn, ac i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol trwy greu canolfan fywiog a chynaliadwy. Byddwn yn rhoi offer TG i saith elusen eraill ledled Cymru dros y misoedd nesaf fel rhan o raglen Cyfrifiaduron i Elusennau’r ASB.
  • Adolygiad o’r ASB – mae’r adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac mae tîm Prifysgol Met Caerdydd wedi bod yn cyfweld â staff yr ASB a rhanddeiliaid allanol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae drafft o’r adroddiad i fod i gael ei rannu â Phanel Goruchwylio’r adolygiad, sef panel yr wyf yn aelod ohono, ym mis Gorffennaf. Mae’r adroddiad terfynol a’r argymhellion i fod i gael eu cyhoeddi ym mis Awst. 
  • Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd – cyhoeddwyd ein hadroddiad diweddaraf a’i osod yn ddwyieithog yn y Senedd ar 19 Mehefin, sef uchafbwynt wythnosau o fewnbwn gan y tîm. Byddwn yn lansio’r adroddiad yn swyddogol yn ein digwyddiad seneddol yn y Pierhead ar 9 Gorffennaf, gan groesawu Cadeirydd yr ASB a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a fydd yn annerch y digwyddiad. 
  • Strategaeth Bwyd Llywodraeth y DU – rydym wedi ymuno ag is-grŵp Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, a gynlluniwyd i gyfrannu at Strategaeth Bwyd Llywodraeth y DU. Nod yr is-grŵp yw sicrhau dull cydlynol o fewn Llywodraeth Cymru gan ganiatáu i ni gynnig mewnbwn yr ASB a chael cipolwg dyfnach ar safbwyntiau Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydweithio’n agos â chydweithwyr yn Uned Strategaeth yr ASB i roi mewnbwn.
  • Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – ar 29 Ebrill, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer 2025, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y broses o sicrhau Cymru gynaliadwy. Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso degawd o gynnydd a wnaed o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn amlinellu nodau a argymhellir ar gyfer cyrff cyhoeddus er mwyn hyrwyddo lles cenedlaethol yn y pum mlynedd nesaf. Tynnodd y Comisiynydd sylw at gyflawniadau nodedig, fel prydau ysgol am ddim i blant mewn ysgolion cynradd a safle Cymru fel yr ail wlad orau yn y byd ar gyfer ailgylchu. Gellir dod o hyd i fewnwelediad i heriau parhaus, sy’n ymwneud â’r argyfwng ym myd natur a’r hinsawdd a lefelau uchel o dlodi. Mae argymhellion allweddol mewn perthynas â bwyd yn cynnwys bwyd lleol iach mewn ysgolion, a chynllun gwydnwch bwyd cenedlaethol. Trafodwyd y canfyddiadau a’r argymhellion yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod. Aeth John Williams, aelod o’n Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, i’r digwyddiad.
  • Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru – mewn ymateb i Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Bwyd Cymunedol gyda’r nod o gryfhau systemau bwyd lleol, hyrwyddo bwyta’n iach, a meithrin cymunedau cynaliadwy. Mae’r fenter hon, sy’n rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn ceisio:
    • cysylltu cynhyrchwyr Cymru â defnyddwyr
    • cefnogi prosiectau bwyd sy’n cael eu harwain gan y gymuned
    • sicrhau mynediad at fwyd iachach i bawb 
  • Bydd y strategaeth yn arwain at dros £2 filiwn yn cael eu buddsoddi yn 2025-26, gyda chyllid wedi’i sicrhau tan fis Mawrth 2028. Ers 2022, mae partneriaethau bwyd lleol wedi ehangu ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Mae hyn wedi sbarduno cydlynu ystod o arbenigedd ac ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi bwyd, gwella iechyd y cyhoedd, a chefnogi twf gwyrdd. Bydd nodau pellach yn canolbwyntio ar gynyddu gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd Cymru 50% erbyn 2030, gan greu cyfleoedd marchnad newydd i gynhyrchwyr lleol. Mae’r strategaeth yn cysylltu â’r cynllun Pwysau Iach: Cymru Iach a Strategaeth Tlodi Plant 2024, sy’n cefnogi garddwriaeth ar raddfa fach a mentrau tyfu cymunedol. Bydd Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd yn goruchwylio ei weithrediad, wedi’i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a strategaeth Cymru Can. Bydd tîm yr ASB yng Nghymru yn cydweithio’n agos â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r gwaith hwn.
  • Ymweliadau ag awdurdodau lleol – ym mis Mai, es i, gyda chydweithwyr awdurdodau lleol o Dorfaen ac Abertawe, i brofi arolygiadau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach. Dysgais sut mae pecynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell a chanllawiau alergenau a labelu yn cael eu rhoi ar waith. Gwelais hefyd yr heriau y mae swyddogion yn eu hwynebu ar lawr gwlad; ac i fusnesau bach sy’n ceisio mynd i’r afael â’r gofynion i sefydlu busnes yn y sector bwyd. Roedd yn gipolwg gwych ar waith yr awdurdodau lleol, a hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn Nhorfaen ac Abertawe am y cyfleoedd hyn. 
  • Digwyddiad Dathlu Bwyd a Ffermio Cymru, NFU Cymru – es i i’r digwyddiad hwn yn y Senedd ar 10 Mehefin, lle lansiodd NFU Cymru eu maniffesto etholiadol newydd; Ffermio Cymru: Tyfu ymlaen. Mae cynhyrchu bwyd wrth wraidd y maniffesto, gyda chwestiynau allweddol yn ymwneud â strategaeth gynhwysfawr o’r fferm i’r fforc, polisi yn y dyfodol a fydd yn sail i gynhyrchu bwyd ac ymrwymiadau i gynyddu ffynonellau bwyd Cymru yn y sector cyhoeddus.  
  • Cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) – ynghyd â chydweithwyr, es i i gynhadledd a chinio CLlLC. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i arddangos gwaith yr ASB a dysgu am yr heriau i lywodraeth leol. 
Dros y misoedd diwethaf, mae timau polisi yr ASB yng Nghymru wedi:
  • gweithio gyda chydweithwyr blwch tywod yr ASB ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCP) er mwyn helpu i baratoi ar gyfer gweithdai CCP ar labelu a gynhelir ym mis Mehefin a mis Rhagfyr 2025.
  • gweithio gyda thîm Gwasanaeth Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad a thimau polisi unigol i baratoi argymhellion i weinidogion ledled Prydain Fawr yn ceisio cytundeb i awdurdodi ceisiadau sy’n rhan o gyfran pedwar, swp un. Dyma’r gyfran gyntaf o geisiadau ar ôl i gam I yr OS diwygio ddod i rym, ac felly’r dyma’r awdurdodiadau cyntaf a wnaed heb offeryn statudol. Ar wahân i hyn, rydym hefyd yn gweithio ar ymgynghoriad ar argymhellion rheoli risg ar gyfer cyfran pedwar, swp dau, yn ogystal ag ymgynghoriad ar anghymhellion rheoli risg sy’n gysylltiedig â’r tri chais CBD blaenllaw. Dylai ymgynghoriadau gael eu lansio yn ystod y misoedd nesaf.
  • gweithio gyda chydweithwyr yn y tîm deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd a’r tîm chyfathrebu i gyhoeddi datganiad rheoli risg yn cynghori busnesau i beidio â defnyddio plastig sy’n mynd i’r môr (OBP) mewn deunydd pecynnu bwyd. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi asesiad y Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar gyfer Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd (FCMJEG) ar ddefnyddio OBP mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys deunydd pecynnu bwyd ar gyfer cig, dofednod a physgod sy’n cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd. Adolygodd yr ASB ac FSS asesiad FCMJEG, a daethant i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gadarnhau diogelwch y math hwn o blastig a ddefnyddir mewn deunydd pecynnu bwyd ac felly, i gadarnhau nad yw’n effeithio ar iechyd. 
Ers y cyfarfod ym mis Ebrill, mae’r timau sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol wedi:
  • mynd i gynhadledd flynyddol CTSI, a noddodd yr ASB yng Nghymru Wobr Steve Whitehouse, a roddir i unigolyn, o awdurdod yng Nghymru, a enillodd y marc cyffredinol uchaf ar draws y tri arholiad sy’n ffurfio Modiwl Safonau Bwyd y Diploma Ymarferydd Safonau Masnach. Yr enillydd eleni oedd Emily Thrasher o Ynys Môn.
  • mynd i Gynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 18 a 19 Mehefin yn Venue Cymru, Llandudno. Roedd gennym stondin wybodaeth gorfforaethol yn y digwyddiad, lle roedden ni’n rhannu gwybodaeth am ein gwaith ac yn ateb ymholiadau gan randdeiliaid.
  • Gwnaethom weithio ar y cyd â chydweithwyr o’r Adran Cydymffurfiaeth Rheoleiddio a Gogledd Iwerddon i drefnu digwyddiadau ymgysylltu ag awdurdodau lleol wyneb yn wyneb. Cynhelir y digwyddiad ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar 2 Gorffennaf yn Llandrindod, Powys. Bydd y sesiynau’n ymdrin â ag adnoddau awdurdodau lleol, prosiect data awdurdodau lleol, adennill costau a dangosyddion perfformiad allweddol. Bydd sesiwn Holi ac Ateb hefyd yn cael ei chynnal gyda staff yr ASB.
  • Daeth yr ymgynghoriad ar God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) i ben ar 19 Mai. Cawsom 14 o ymatebion gan awdurdodau lleol Cymru, Iechyd yr Amgylchedd Cymru, Safonau Masnach Cymru, cyrff proffesiynol a’r diwydiant. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r ymatebion cyn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion o fewn 3 mis.
Mae’r tîm digwyddiadau a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) hefyd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf:
  • ‘Smokies’ Arestiodd Heddlu Dyfed-Powys berson arall a amheuir mewn perthynas â chyflenwi cig anaddas (smokies). Cafodd ei gyfweld gan swyddogion NFCU ac wedi hynny, cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad.
  • Gwnaeth NFCU gynnal Hyfforddiant Twyll Bwyd ym Mangor mewn partneriaeth â’r Ganolfan Technoleg Bwyd, gan gyflwyno sesiwn atal twyll bwyd ymarferol i 10 busnes yng Nghymru a dau awdurdod lleol. Gan ddefnyddio senario trosedd bwyd ffug, hyrwyddodd yr hyfforddiant ddysgu cydweithredol a chryfhaodd allu cyfranogwyr i nodi ac atal troseddau bwyd.
  • Ym mis Mai, ymwelodd aelodau o dîm Diogelu Defnyddwyr a thîm y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol â safle cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Rhoddodd yr ymweliad hwn fewnwelediad gwerthfawr i’r prosesau cefndirol sy’n gysylltiedig â chychwyn tynnu neu alw cynnyrch yn ôl.
  • Mae'r tîm wedi bod yn ymwneud yn weithredol â rheoli achosion parhaus o glefydau a gludir gan fwyd a chlystyrau o bryder. Mae’r rhain wedi cynnwys achosion o Hepatitis A ac E. coli STEC sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae’r tîm yn parhau i gefnogi dadansoddiad o’r gadwyn fwyd a chyfrannu at ymchwiliadau ehangach yr ASB fel rhan o ddull cydlynol ar draws y pedair gwlad.
  • Rydym wedi ymateb i ymholiadau gan awdurdodau lleol yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Bwyd er Gweithredu ynghylch cynhyrchion Jolly Rancher a gafodd eu gweithgynhyrchu gan The Hershey Company. Mae’r ymdrechion hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogi tynnu nwyddau a fewnforir o’r farchnad lwyd oddi ar werth. Rhybudd Bwyd er Gweithredu: Busnesau bwyd sydd wedi prynu a gwerthu cynhyrchion Jolly Rancher a weithgynhyrchir gan The Hershey Company a’r defnyddwyr sydd wedi eu prynu | Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB i fynd i’r afael â digwyddiadau yn ymwneud â siocled ‘dull Dubai’ a fewnforiwyd, a chefnogi cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys hysbysiad cynghori’r ASB sy’n rhybuddio unigolion ag alergeddau ynghylch rhai cynhyrchion siocled a fewnforir. Yr ASB yn rhybuddio pobl ag alergeddau ynghylch rhai cynhyrchion siocled ‘dull Dubai’ a fewnforir | Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Mae’r tîm wedi chwarae rhan allweddol wrth roi’r system Cofnodi Digwyddiadau newydd, PRISM, ar waith. Byddwn yn parhau i ymgorffori’r system newydd hon a rheoli’r newid o’r hen system y mae’n ei disodli. Y flaenoriaeth yw gwella sut rydym yn ymdrin â rheoli digwyddiadau a risg ar draws yr ASB.

Bydd y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio yn dechrau rhaglen archwilio alergenau 2025/26 ym mis Gorffennaf. Mae drafft o’r adroddiad archwilio cryno ar gyfer prosesau cynllunio darparu gwasanaethau a threfniadau archwiliadau a gynhaliwyd yn 2023/24 a 2024/25 wedi’i rannu ag awdurdodau lleol er mwyn iddynt wneud sylwadau. Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl ymatebion gan awdurdodau lleol, byddwn yn rhannu adroddiad drafft pellach cyn i ni gwblhau a chyhoeddi’r adroddiad.

Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB wedi’u cyfleu ledled Cymru, sydd wedi cynnwys: 
  • Mae’r tîm wedi bod yn ymwneud yn helaeth eleni unwaith eto â’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd. Mae’r tîm wedi bod yn gyfrifol am gyfieithu, uwchlwytho cynnwys, cyflwyno’r adroddiad, cynllunio’r digwyddiad lansio ar gyfer mis Gorffennaf a rhannu’r adroddiad gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru.
  • Yn ddiweddar, gwnaethom ymddangos ar raglen 'Bore Cothi’ BBC Radio Cymru i rannu ambell air o gyngor ar baratoi bwyd yn ddiogel ar gyfer barbeciws a bwyta yn yr awyr agored. Mae’r sioe yn gwahodd y tîm yn rheolaidd i drafod diogelwch bwyd, gan gynnig ffordd werthfawr, ddi-gost, o gyrraedd cynulleidfa allweddol.
  • Yn ddiweddar, gwnaethom gwrdd â Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yn dilyn gwahoddiad i gydweithio ar ddatblygu modiwl Cynllunio a Pharatoi Bwyd o fewn cyfres o Gymwysterau Cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn Pecyn Sgiliau y bydd dysgwyr 14-16 oed yn ei astudio o fis Medi 2027 ymlaen, gan bwysleisio pwysigrwydd sgiliau ymarferol. Byddwn yn rhoi mewnbwn ar baratoi bwyd yn ddiogel, alergenau, labelu bwyd a gwastraff bwyd.
  • Mae'r tîm hefyd wedi bod yn gweithio ar ymgyrch Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell yr ASB dros yr wythnosau diwethaf. Bydd yr ymgyrch hon, sydd wedi’i chydlynu’n ganolog, yn ymgyrch ymatebol a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn. Bydd yn rhedeg mewn cyfnodau, gyda’r nod o gefnogi busnesau bwyd gydag adnoddau rhad ac am ddim i’w helpu i gynnal arferion hylendid a diogelwch bwyd da. Mae’r tîm wedi bod yn defnyddio ein perthnasoedd presennol a newydd â phartneriaid i gyfathrebu â’n cynulleidfa darged, gan gynnwys awdurdodau lleol, Mentera a Busnes Cymru.

Ymgynghoriadau

Does dim ymgynghoriadau yn fyw ar hyn o bryd

Edrych tua’r dyfodol 

Bydd llawer o’r gwaith rydym wedi rhoi diweddariad arno yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru, a rhoi unrhyw argymhellion ar waith. Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.
 
Mewn perthynas â gwaith gweithredu awdurdodau lleol, byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i gynigion yr ymgynghoriad diweddar ar y Cod ac yn rhoi cyngor i Weinidogion ar gyhoeddi Cod diwygiedig. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol wrth i ni archwilio rhinweddau system gofrestru fanylach ar y cyd, y potensial ar gyfer adennill costau, a nodi’r camau nesaf yn y ffrwd waith rheoleiddio ar lefel genedlaethol.

O ran ein gwaith cyfathrebu a’n gweithgarwch gyda rhanddeiliaid dros yr ychydig fisoedd nesaf:

  • Rydym wrthi’n cynllunio rhaglen ymgysylltu ar gyfer Cadeirydd yr ASB a’i hymweliad â Sioe Frenhinol Cymru eleni. Bydd Sian hefyd yno fel Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru. Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i gael sgwrs gyda rhai o’n rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant a’r llywodraeth mewn un lle.
  • Byddwn yn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol eto eleni, sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam ym mis Awst. Fel gyda digwyddiadau blaenorol, byddwn ni wrth ein stondin gwybodaeth gorfforaethol, yn rhannu negeseuon allweddol yr ASB ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, troseddau bwyd a negeseuon diogelwch bwyd cyffredinol i ddefnyddwyr ymhlith pynciau eraill. 
  • Byddwn yn parhau i gydlynu ein rhoddion TG i elusennau yng Nghymru dros y misoedd nesaf, gan fanteisio ar ein presenoldeb mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol i ddosbarthu’r rhain ledled Cymru. 
  • Byddwn hefyd yn cynnal ymgyrch hirdymor i ddefnyddwyr ar hylendid, a fydd yn lansio ym mis Medi. Er i’r ymgyrch hon gael ei lansio’n dawel ar 7 Mehefin i nodi Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd, bydd yn cael ei chyflwyno fel ymgyrch barhaus i addysgu defnyddwyr am arferion hylendid gwael yn y gegin a all arwain at salwch a gludir gan fwyd. Bydd yr ymgyrch hon yn cael ei chyflwyno gyda rhai o’n partneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a thrwy’r cyfryngau yng Nghymru.