Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Archwiliad o reolaethau alergenau a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

Penodol i Gymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 4–6 Tachwedd 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2026

Rhagair

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth safonau a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.  Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal.

Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn rhoi’r cyfle i nodi a lledaenu arferion da ac i ddarparu gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae rhaglenni archwilio’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid o fewn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Cynhaliwyd asesiadau hefyd yn erbyn Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021 (FLCoP) ynghyd â chanllawiau cysylltiedig a gyhoeddir yn ganolog, gan gynnwys Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021. Mae Cod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer newydd wedi’u cyhoeddi a byddant yn cael eu cymhwyso at argymhellion parhaus lle bo’n berthnasol.

Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.

Cynnwys

1.0 Cyflwyniad
Cefndir
Cwmpas y Rhaglen Archwilio

2.0 Crynodeb gweithredol

3.0 Methodoleg archwilio

4.0 Canfyddiadau’r archwiliad
Trefniadaeth a rheolaeth
Swyddogion awdurdodedig
Arolygiadau, cofnodion ac adroddiadau o ran safleoedd bwyd
Arolygu a samplu bwyd
Cwynion am fwyd a safleoedd bwyd
Gorfodi
Monitro mewnol
Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

Atodiad A – Cynllun archwilio

Atodiad B – Cynllun gweithredu ar gyfer rheoli alergenau

1.0 Cyflwyniad

Cefndir

1.1 Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau'r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn seiliedig ar risg yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr.

1.2 Yn dilyn pandemig COVID-19, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, dylai awdurdodau lleol fod yn cynllunio i wneud y pethau a ganlyn:

  • Cynnal yr ymyriadau sydd i fod i gael eu cynnal ar gyfer sefydliadau sydd wedi dychwelyd i’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer.
  • Gweithio tuag at ail-alinio â’r darpariaethau a nodir yn y Cod Ymarfer o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod Ymarfer. Gellir dod o hyd i’r hyblygrwydd hwn, gan gynnwys eithriadau, ym Mhennod 4 o’r Cod Ymarfer a Phennod 4 o’r Canllawiau Ymarfer.
  • Parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran y gofynion a nodir yn yr Cod Ymarfer, a hynny ar sail yr adnoddau sydd ar gael.

1.3 Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn cyflawni ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformiad chwe misol, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

1.4 Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.

1.5 Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith yr awdurdodau lleol i orfodi’r gyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

1.6 Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae’r archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sy’n unol â’r Cod Ymarfer.

1.7 Bu i’r asesiad archwilio ystyried y materion a ganlyn:

  • Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd
  • Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
  • Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd
  • Ymyriadau (rhai sydd wedi’u rhaglenni a rhai ymatebol) a gorfodi
  • Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
  • Monitro mewnol
  • Unrhyw faterion eraill yn ymwneud â rheolaethau alergenau
  • Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny

1.8 Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, bu i’r ASB ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio.  Mae hwn wedi’i atodi yn Atodiad A.

2.0 Crynodeb gweithredol

2.1 Bu i’r archwiliad bwyso a mesur trefniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal rheolaethau bwyd swyddogol sy’n gysylltiedig ag alergenau, sef rhan bwysig o swyddogaeth safonau bwyd yr awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys gwiriad go iawn mewn sefydliad bwyd er mwyn asesu effeithiolrwydd y rheolaethau swyddogol ac, yn fwy penodol, y gwiriadau a gynhaliwyd gan swyddogion yr awdurdod, er mwyn gwirio bod gweithredwr y busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol.  Roedd cwmpas yr archwiliad hefyd yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau safonau bwyd.

2.2 Y Prif Swyddog dros yr Economi a Chynllunio oedd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros ddarparu gwasanaethau safonau bwyd o fewn yr Adran Diogelu’r Cyhoedd. Yr Arweinydd Bwyd a Ffermio a’r Swyddog Arbenigol Diogelu’r Cyhoedd (Safonau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid) oedd yn gyfrifol o ddydd i dydd am reoli’r gwasanaethau.

2.3 Roedd gan yr awdurdod drefniadau cynllunio gwasanaeth ar waith, ynghyd â systemau ar gyfer adolygu perfformiad.  Roedd dogfennau cynllunio gwasanaethau yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaeth, ond nid yr holl wybodaeth, gan gynnwys y gofyniad i adolygu pob elfen o waith y flwyddyn flaenorol ac i fynd i’r afael â phob diffyg yn y ddarpariaeth yn y cynllun nesaf.

2.4 Roedd gan yr awdurdod drefniadau ar waith i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu gan swyddogion cymwys a oedd wedi’u hawdurdodi’n briodol yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Nodwyd arferion da mewn perthynas â’r hyfforddiant alergenau a ddarparwyd i swyddogion. Fodd bynnag, ar sail yr arferion presennol, roedd prinder o 1.1 swyddog cyfwerth ag amser llawn yn yr awdurdod er mwyn gallu cynnal nifer gofynnol yr ymyriadau. Fodd bynnag, mae’r her o fynd i’r afael â busnesau sy’n gyson yn anghydymffurfiol yn gofyn am adnoddau ychwanegol pellach i sicrhau bod rhwymedigaethau llawn yr awdurdod mewn perthynas â rheolaethau alergenau yn cael eu cyflawni.  Er bod bwriad i geisio mynd i’r afael â’r materion hyn, nid oedd cynllun cadarn ar waith i fynd i’r afael yn llawn â’r diffyg adnoddau swyddogion, gan atal yr awdurdod rhag cyflawni ei rwymedigaethau.

2.5 Yn sgil gwirio’r cronfeydd data, cafwyd cadarnhad bod rhai sefydliadau risg ganolig ac isel yn hwyr yn cael ymyriad safonau bwyd, er bod ymyriadau risg uchel yn cael eu cynnal. Roedd yn debygol bod risgiau alergenau mewn cyfran fawr o’r safleoedd risg ganolig ac isel a oedd yn hwyr yn cael ymyriadau, ac mae llawer o’r safleoedd risg isel yn perthyn i fand risg uwch. Er bod bwriad i geisio dal i fyny ag ymyriadau hwyr, nid oedd cynllun cadarn ar waith i ail-alinio amlderau’r ymyriadau yn llwyr â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, gan atal yr awdurdod rhag cyflawni ei rwymedigaethau.

2.6 Dangosodd cofnodion ymyriadau fod yr asesiadau o gydymffurfiaeth busnesau â’r rheolaethau alergenau yn ystod ymyriadau safonau bwyd yn amrywiol o ran ansawdd. Er bod rhai o’r ymyriadau o ansawdd da, roedd rhai ohonynt o ansawdd gwael ar adegau. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael mewn rhai achosion i ddangos bod swyddogion wedi cynnal asesiad trylwyr. Roedd rhai arferion da yn amlwg mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarperir i fusnesau.  Roedd yr arferion o ran sgorio risg yn amrywiol, gyda rhywfaint o dystiolaeth o’r angen i adlewyrchu’r risgiau o ran alergenau yn gywirach. Yn gyffredinol, nid oedd camau dilynol yn cael eu cynnal yn effeithiol i dynnu bwyd anniogel oddi ar y farchnad na hysbysu’r ASB neu awdurdodau eraill.

2.7 Roedd adroddiadau am ymyriadau safonau bwyd yn amrywiol. Roedd rhai ohonynt yn gynhwysfawr, ond byddai’r awdurdod yn elwa o sicrhau mai dyna’r achos bob tro.

2.8 Er bod cwynion am fwyd a sefydliadau bwyd wedi cael y sylw gofynnol, a bod gwaith samplu safonau bwyd wedi’i gynnal yn ôl yr angen, gyda rhywfaint o arferion da, roedd enghreifftiau lle nad oedd y camau dilynol priodol bob amser yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r canlyniadau.

2.9 Dim ond dulliau gorfodi anffurfiol roedd yr awdurdod wedi’u defnyddio i geisio sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio’n well â deddfwriaeth rheoli alergenau. Lle’r oedd camau gorfodi wedi’u cymryd, roeddent, ar y cyfan, yn briodol hyd at ryw fan. Fodd bynnag, lle nodwyd achosion ailadroddol o dorri rheolau neu fethiant i gydymffurfio’n llwyr, nid oedd camau gorfodi’n cael eu dwysáu’n raddol at weithgareddau mwy ffurfiol, ac nid oedd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yn cael eu cywiro.

2.10 Roedd tystiolaeth o rywfaint o waith mewnol i fonitro materion safonau bwyd, gan gynnwys rheolaethau alergenau. Byddai hyd a lled y gwaith monitro mewnol ansoddol yn elwa o gael ei ehangu i gynnwys gweithgarwch amlach, samplau mwy a rhagor o wiriadau o’r cronfeydd data.

3.0 Methodoleg archwilio

3.1 Cafodd yr awdurdod lleol lythyr cyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys holiadur cyn yr ymweliad ynghyd â manylion dogfennau angenrheidiol i asesu i ba raddau yr oedd wedi cwblhau’r argymhellion nad oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol.

3.2 Cafodd yr awdurdod lleol hefyd gopi o unrhyw adroddiadau archwilio/cynlluniau gweithredu perthnasol, a gofynnwyd iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau.

3.3 Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle a oedd yn cynnwys ymweliad gwirio â busnes lleol a chyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddog arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, yn ogystal ag archwiliad o ddetholiad o gofnodion rheolaethau swyddogol ar fwyd.

3.4 Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng 4 a 6 Tachwedd 2025. Treuliwyd dau ddiwrnod gwaith a hanner yn cwblhau’r rhan o’r archwiliad a gynhaliwyd ar y safle.

3.5 Mae’r awdurdod lleol wedi cael yr adroddiad archwilio ysgrifenedig hwn a chynllun gweithredu diweddaredig ar sail yr archwiliad, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.

4.0 Canfyddiadau’r archwiliad

4.1 Trefniadaeth a rheolaeth

4.1.1 Yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd oedd yn goruchwylio’r gwaith o orfodi’r gyfraith bwyd. Mae Cyfansoddiad yr awdurdod yn amlinellu ei drefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan y Cyfansoddiad, roedd penderfyniadau ar faterion gweithredol sy’n ymwneud â bwyd wedi’u dirprwyo i’r Prif Swyddog dros yr Economi a Chynllunio.

4.1.2 Roedd yr awdurdod wedi llunio ‘Cynllun Gwasanaeth Bwyd’ ar gyfer 2025/2026 (‘y Cynllun Gwasanaeth’). Roedd y Cynllun Gwasanaeth wedi cael ei gymeradwyo gan yr Aelod Arweiniol a’r Prif Swyddog.

4.1.3 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r wybodaeth a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau, gan gynnwys proffil o’r awdurdod, cwmpas y gwasanaeth a siart strwythur sefydliadol adran Diogelu’r Cyhoedd. Roedd yr amserau gweithredu, y mannau darparu gwasanaeth, a nodau ac amcanion y gwasanaeth wedi’u nodi’n glir.

4.1.4 Dangosodd y Cynllun Gwasanaeth fod tua 1,297 o sefydliadau bwyd yn Wrecsam. Rhoddwyd proffil y busnesau yn ôl y math o sefydliad. Hefyd, roedd nifer yr ymyriadau a oedd wedi’u cynllunio ac a oedd i fod i gael eu cynnal, yn ôl sgôr risg, wedi cael eu nodi, gan gynnwys y rhai a oedd yn hwyr.

4.1.5 Roedd y targedau a’r blaenoriaethau ar gyfer safonau bwyd yn cynnwys ymrwymiad i gynnal yr holl arolygiadau/ymyriadau a oedd yn ddyledus mewn sefydliadau risg uchel, fel sy’n ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer. Fodd bynnag, roedd yr arolygiadau/ymyriadau hyn yn cael eu cynnal mewn sefydliadau risg ganolig ac isel yn ôl y risg hylendid bwyd yn hytrach na’r risg safonau bwyd, a oedd fel arfer yn ddyledus yn gynt.

4.1.6 Mae nifer disgwyliedig yr ailymweliadau yn ystod y flwyddyn yn rhan ofynnol o’r rhaglen ymyriadau. Roedd ymrwymiad i ailymweld â sefydliadau mewn perthynas â safonau bwyd, yn unol â gofynion y Cod Ymarfer.

4.1.7 Roedd blaenoriaethau a thargedau ymyrryd yr awdurdod, a oedd wedi’u hamlinellu yn y Cynllun Gwasanaeth, yn seiliedig yn bennaf ar risg hylendid bwyd. Mewn rhai achosion, lle’r oedd y risg safonau bwyd yn uchel, rhoddwyd gwybod i’r archwilwyr y byddai’r risg safonau bwyd yn cael blaenoriaeth.

4.1.8 Roedd y cynllun yn cynnwys amcangyfrif o’r galw tebygol am y rhaglen ymyriadau bwyd, gan gynnwys y galw tebygol, yn seiliedig ar flynyddoedd blaenorol, am y gwaith ymatebol y mae’n ofynnol ei wneud.

4.1.9 Darparwyd gwybodaeth am y rhaglen samplu safonau bwyd ac roedd yn cynnwys yr adnoddau a neilltuwyd i ymgymryd â’r gwaith hwn.

4.1.10 Yn y Cynllun Gwasanaeth, nodwyd yr adnoddau a oedd ar gael i gyflawni gwasanaethau gorfodi’r gyfraith bwyd, sef 7.8 swyddog cyfwerth ag amser llawn (CALl) ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. Amcangyfrifwyd bod angen 8.9 swyddog CALl i ddarparu’r gwasanaeth, gan ddangos bod angen ychydig bach o adnoddau ychwanegol (1.1 swyddog CALl) i fodloni’r gofynion yn llwyr.

4.1.11 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am Bolisi Gorfodi’r awdurdod a’i ddull o ddatblygu staff.

4.1.12 Cyfeiriwyd yn y cynllun at drefniadau i fonitro’r gwasanaeth safonau bwyd yn fewnol, neu i gynnal ‘asesiad ansawdd’ ohono, a hynny drwy drefniadau adrodd meintiol. Fodd bynnag, byddai’n fuddiol pe bai’r cynllun hefyd yn cynnwys disgrifiad byr o’r trefniadau monitro mewnol ansoddol ar gyfer y gwasanaeth safonau bwyd.

4.1.13 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth yn dilyn adolygiad o’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd ar sail cynllun y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nodwyd, er bod yr adolygiad yn cwmpasu’r rhan fwyaf o feysydd gwaith, nad oedd yn cwmpasu pob targed.  Dylai’r adolygiad gynnwys nifer y samplau a gymerwyd yn erbyn y rhaglen samplu safonau bwyd.

4.1.14 Yn dilyn yr adolygiad, nid oedd unrhyw amrywiadau o ran cyflawni’r targedau a nodwyd yn y Cynllun Gwasanaeth blaenorol wedi’u nodi. Nid oedd amrywiadau ar gyfer yr ymyriadau safonau bwyd risg ganolig (categori B) a risg isel (categori C) a busnesau heb sgôr wedi’u nodi na’u hegluro fel sy’n ofynnol gan y canllawiau cynllunio gwasanaethau.

4.1.15 Roedd yr awdurdod wedi ymgorffori nifer o feysydd i’w gwella yn ei Gynllun Gwasanaeth, gan gynnwys cynnal rheolaethau bwyd yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; gan anelu’n benodol at fodloni gofynion ynghylch arolygu safleoedd presennol a rhai newydd eu cofrestru o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad perthnasol.  Byddai gwelliannau o’r fath yn caniatáu i’r awdurdod fynd i’r afael â’r amrywiadau presennol.

Argymhellion

4.1.16 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd.
  • (ii) Sicrhau ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau o ran bodloni’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd mewn cynllun dilynol. [Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.3 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; adrannau 2.3.18.2, 2.3.18.3 ac Atodiad 1 i’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.2 Swyddogion awdurdodedig

4.2.1 Roedd Cynllun Dirprwyo Pwerau i Swyddogion yr awdurdod, sy’n rhan o’i Gyfansoddiad ysgrifenedig, yn rhoi pwerau dirprwyedig i’r Prif Swyddog Cynllunio a Rheoleiddio i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ymwneud â gwasanaethau bwyd. Mae hyn yn cynnwys awdurdod dirprwyedig i awdurdodi swyddogion eraill a phŵer i gychwyn erlyniadau.  Mae swyddogaethau’r Prif Swyddog hwn wedi symud i’r Prif Swyddog Economi a Chynllunio, a byddai’r Cyfansoddiad yn elwa o ddiweddariad yn unol â hynny.

4.2.2 Lluniwyd gweithdrefn wedi’i dogfennu ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd ar sail eu cymwysterau a’u profiad. Roedd y weithdrefn yn gynhwysfawr ac yn gywir ac yn cynnwys darpariaeth ar gyfer asesu cymhwysedd swyddogion cyn eu hawdurdodi.

4.2.3 Roedd yr awdurdod wedi penodi swyddog arweiniol â chymwysterau a gallu addas ar gyfer safonau bwyd yn unol â gofynion y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd.

4.2.4 Roedd yr awdurdod wedi nodi, o fewn ei Gynllun Gwasanaeth, fod lefel yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau bwyd yn uwch na’r hynny sydd ar gael, sef diffyg o 1.1 swyddog CALl. Gyda’r adnoddau a oedd ar gael iddo, nid oedd yr awdurdod eto’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o ran rhoi ei raglenni ymyriadau ar waith, cynnal ailymweliadau, cynnal rhaglen samplu bwyd lawn na chymryd y camau gorfodi angenrheidiol.  Roedd gan yr awdurdod ôl-groniad dichonadwy o ymyriadau safonau bwyd, ond nid oedd ganddo gynllun ffurfiol i ail-alinio â’r Cod Ymarfer, ond, roedd yr awdurdod wedi nodi cyfleoedd i adennill 0.5 CALl o newidiadau staffio yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r 0.5 CALl ychwanegol hwn i’w ddyrannu i fynd i’r afael â’r angen am waith gorfodi ychwanegol i dargedu gwerthu bwyd anniogel o safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio, sy’n golygu bod y diffyg gwirioneddol mewn adnoddau yn debygol o aros ar 1.1 CALl oni bai y bydd cefnogaeth ychwanegol yn cael ei sicrhau. Er bod yr archwilwyr wedi cael gwybod bod y Tîm Bwyd a Ffermio yn gweithio gyda sefydliadau partner i nodi cyllid ychwanegol y gellir ei ddefnyddio i greu un swydd CALl ychwanegol, nid oedd sicrwydd y byddai hyn yn digwydd. Dylai’r awdurdod gynyddu adnoddau ei wasanaeth bwyd i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael yn y dyfodol i gyflawni ei holl rwymedigaethau o dan y gyfraith a’r Cod Ymarfer.

4.2.5 Darperir hyfforddiant i swyddogion ar sail asesiad ffurfiol o’u hanghenion hyfforddi.  Roedd yr awdurdod yn darparu cyfuniad o hyfforddiant mewnol ac allanol, ac yn gwneud defnydd da o’r cyfleoedd a ddarperir gan raglen hyfforddi awdurdodau lleol yr ASB.  Roedd yn ofynnol i bob swyddog gyflawni 10 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar faterion bwyd craidd yn unol â’r Cod Ymarfer.  Roedd yr awdurdod yn gallu ariannu hyfforddiant pan oedd angen wedi’i ddangos.

Arferion gorau
Roedd yr awdurdod, ar y cyd â darparwr hyfforddiant, wedi datblygu a chynnal cwrs hyfforddi pwrpasol ar alergenau. Rhoddodd y cwrs hwn wybodaeth a sgiliau ymarferol i’w swyddogion ar reoli alergenau.  Rhannwyd y gweithgaredd hyfforddi â swyddogion o awdurdodau cyfagos.

4.2.6 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion cymwysterau a hyfforddiant pum swyddog a oedd yn gyfrifol am gynnal rheolaethau safonau bwyd swyddogol. Roedd cofnodion yn cael eu cadw gan yr awdurdod ar gyfer swyddogion yn system ffeiliau a ffolderi gyfrifiadurol y Cyngor.

4.2.7 Roedd pob swyddog wedi’i awdurdodi yn unol â thystiolaeth o’i gymwysterau, ei hyfforddiant a’i brofiad.  Roedd awdurdodiadau wedi’u llofnodi gan swyddog ag awdurdod dirprwyedig, ac roeddent yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth allweddol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal yr amrywiaeth o reolaethau swyddogol sy’n ofynnol ar gyfer alergenau.

4.2.8 Roedd cymwysterau academaidd a chymwysterau perthnasol eraill ar gael i bob swyddog, ac roedd pob un o leiaf wedi cael y 10 awr o hyfforddiant DPP ar faterion bwyd craidd sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer a pholisïau’r awdurdod ei hun, yn unol â’u dyletswyddau.  At hynny, roedd yr holl swyddogion wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni’r agweddau technegol ar y gwaith yr oeddent yn ymwneud ag ef.

Argymhellion

4.2.9 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Sicrhau bod ganddo nifer digonol o staff â chymwysterau a phrofiad addas fel bod modd cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol. [Erthyglau 5(1)(e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraff 3.2 o’r Cod Ymarfer]

4.3 Arolygiadau, cofnodion ac adroddiadau o ran safleoedd bwyd

4.3.1 Darparodd yr awdurdod ddata cyn yr archwiliad a oedd yn cadarnhau bod 1,265 o fusnesau bwyd wedi’u sgorio yng nghronfa ddata sefydliadau safonau bwyd yr awdurdod. Roedd cyfanswm o 49 o sefydliadau bwyd yn hwyr yn cael ymyriad safonau bwyd. Nid oedd yr un o’r rhain yn sefydliad risg uchel, ac roedd 22 ohonynt yn sefydliadau risg ganolig a 27 yn sefydliadau risg isel.  Er bod y rhaglen ymyriadau’n cael ei llywio yn ôl y risg hylendid bwyd, roedd ymyriadau'n cael eu cynnal mewn safleoedd a oedd wedi'u sgorio fel rhai â risg safonau bwyd uchel, yn ôl y gofyn.    Dangosodd dadansoddiad o’r sefydliadau risg ganolig a risg isel ei bod yn debygol bod risgiau alergenau mewn cyfran fawr o’r safleoedd risg ganolig (82%) a’r safleoedd risg isel (74%), ac roedd tystiolaeth o’r gwaith gwirio ffeiliau ynghyd â data am y mathau o safleoedd yn dangos bod llawer o'r safleoedd risg isel yn debygol o berthyn i fand risg uwch. Mae’r awdurdod yn bwriadu mynd i’r afael â’r ôl-groniad hwn o ymyriadau hwyr, ond mae hyn yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol nad yw wedi’i warantu eto. Ynghyd â’r angen i gynnal llawer iawn o waith gorfodi ychwanegol i fynd i’r afael â busnesau nad ydynt yn cydymffurfio, fel y nodir isod, mae’r tebygolrwydd y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn ansicr ar hyn o bryd.

4.3.2 Roedd gweithdrefnau ymyriadau bwyd wedi’u llunio yn unol â’r gofynion.  Roedd ymyriadau safonau bwyd yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ymyriadau safonau bwyd annibynnol ar wahân ac ymyriadau cyfunol ochr yn ochr ag ymyriadau hylendid bwyd. Roedd ffurflenni aide-mémoire ar gael ar gyfer arolygiadau safonau bwyd ac ar gyfer arolygiadau ar y cyd. Roedd angen adolygu’r aide-mémoire i sicrhau bod gwybodaeth am arferion rheoli alergenau yn cael ei chofnodi’n llawn, a thrafodwyd pro forma arfaethedig newydd yn ystod yr archwiliad.

4.3.3 Archwiliwyd pum ymyriad safonau bwyd a gafodd eu cynnal yn y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Nodwyd bod pob ffeil yn cynnwys manylion cofrestru bwyd perthnasol, manylion am natur ac am hyd a lled gweithgareddau bwyd gan gynnwys maint, graddfa a’r math o weithgaredd bwyd, ac roedd sgoriau wedi’u dogfennu. Roedd yr holl arsylwadau yn ddarllenadwy. Roedd ymweliadau wedi’u cynnal ar yr amlder cywir ym mhob achos ond un. Yn yr achos hwnnw, ni chynhaliwyd ymweliad tan 55 diwrnod ar ôl y dyddiad cofrestru.

4.3.4 Llwyddodd archwilwyr i gadarnhau bod y ffurflen arolygu / aide-mémoire priodol wedi’u defnyddio ym mhob ymyriad. Fodd bynnag, nid oedd y cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol yn bresennol ar y ffeiliau a ddarparwyd adeg yr archwiliad. Roedd yn amlwg wrth adolygu’r ffeil fod gwybodaeth wedi’i dogfennu mewn man arall ond ni ddarparwyd unrhyw nodiadau cydoesol. Roedd pedwar allan o bum achos yn dogfennu bod arolygiad dirybudd wedi digwydd, ond roedd un ffeil nad oedd yn cynnwys yr wybodaeth hon o gwbl.

4.3.5 Llwyddodd archwilwyr i gadarnhau bod asesiadau o unrhyw system rheoli safonau bwyd a thrafodaethau a gafwyd â staff wedi’u cofnodi mewn pedwar allan o bum achos. Mewn un achos, nid oedd digon o fanylion i gadarnhau a drafodwyd neu a adolygwyd arferion rheoli alergenau.

4.3.6 Llwyddodd archwilwyr i gadarnhau bod asesiad o ofynion olrheiniadwyedd ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn, mewn perthynas ag alergenau, ar gael ar gyfer pob ffeil – gan gynnwys manylion cyflenwyr, busnesau eraill sy’n cynhyrchu neu’n mewnforio ar gyfer y busnes, a manylebau cynhwysion.

4.3.7 Roedd cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran cyfansoddiad, cyflwyniad a labelu alergenau wedi’i hasesu’n drylwyr mewn pedwar o’r pum achos. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael yn y ffeil arall i allu pennu pa asesiad a gynhaliwyd.

Arferion gorau
Nododd archwilwyr fod yr awdurdod wedi defnyddio canllaw gwybodaeth am alergenau ar gyfer busnesau a ddatblygwyd yn Swydd Gaerhirfryn ac a addaswyd gan weithgor o Ogledd Cymru. Roedd yr wybodaeth yn glir ac yn gryno; roedd yn disgrifio rhwymedigaethau cyfreithiol busnesau mewn termau cyffredin ac yn cynnwys templedi i’w defnyddio ar gyfer matricsau alergenau a chardiau ryseitiau.

4.3.8 Mewn tri achos, lle bu achosion blaenorol o dorri rheolau, roedd manylion ar gael i ddangos bod y rhain wedi cael eu hadolygu. Fodd bynnag, roedd yr achosion hyn o dorri rheolau yn dal i fod heb eu datrys ym mhob achos. Mewn un achos, roedd y safle wedi’i ddiwygio o safle sgôr A i safle sgôr B, ond ni chafodd unrhyw reswm dros y penderfyniad hwn ei ddogfennu yn ffeil y safle. Llwyddodd archwilwyr i bennu bod achosion sylweddol o dorri rheolau yn dal i fod mewn perthynas â labelu alergenau anghywir. Gan ystyried y dystiolaeth hon, penderfynodd archwilwyr y dylai’r sgôr fod wedi aros fel sgôr A i sicrhau amlder uwch o arolygiadau oherwydd hanes o beidio â chydymffurfio â labelu alergenau. Llwyddodd archwilwyr i bennu bod y sgoriau yn y pedwar achos sy’n weddill yn briodol.

4.3.9 Llwyddodd archwilwyr i bennu fod yr asesiad ynghylch a ddylid cymryd samplau wedi’i ddogfennu mewn dau achos yn unig.

4.3.10 Mewn pedwar allan o bum achos, roedd archwilwyr yn gallu pennu nad oedd camau dilynol priodol wedi’u cymryd ar sail canfyddiadau’r arolygiad a bod achosion parhaus o dorri rheolau yn parhau. Cynhaliwyd ailymweliadau, ond cafodd yr amserlenni ar gyfer cydymffurfio eu hymestyn dro ar ôl tro. Ni chafodd ystyriaethau ynghylch tynnu bwyd anniogel oddi ar y farchnad eu harchwilio na’u cofnodi’n ddigonol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod dull gorfodi graddol wedi’i gymryd, fel sy’n ofynnol gan weithdrefn orfodi’r awdurdod a’r Cod Ymarfer.

4.3.11 Llwyddodd archwilwyr i bennu, mewn tri o’r achosion hyn, lle nodwyd peryglon bwyd, y dylid bod wedi codi digwyddiadau gyda’r ASB gan fod peryglon neu oblygiadau lleol difrifol y tu hwnt i’r awdurdod. Ni hysbyswyd unrhyw awdurdodau lleol eraill yn unol â chynlluniau Prif Awdurdodau / Awdurdodau Cartref.

4.3.12 Roedd pob adroddiad o ymweliadau wedi’i anfon o fewn yr amserlen briodol. Roedd pob adroddiad wedi’i gyfeirio at enw masnachu a chyfeiriad cywir y busnes, ac roedd tri adroddiad arolygu yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.

4.3.13 Roedd y ddwy ffeil sy’n weddill yn ddiffygiol o ran nifer o ofynion y Cod, gydag un achos lle nad oedd cyfeiriad at yr ymweliad safonau bwyd. Nid oedd yr wybodaeth ganlynol ar gael yn y ddau achos hyn:

  • disgrifiad o bwrpas rheolaethau swyddogol
  • y dulliau rheoli a ddefnyddiwyd
  • cyfeiriad y busnes, a’r cyfeiriad cofrestredig os yw’n wahanol
  • y person a welwyd/a gyfwelwyd
  • dyddiad ac amser yr arolygiad
  • y gyfraith bwyd benodol a ystyriwyd wrth gynnal yr arolygiad
  • y mannau a arolygwyd
  • y dogfennau/cofnodion eraill a archwiliwyd
  • y samplau a gymerwyd
  • pwyntiau allweddol a drafodwyd yn ystod yr arolygiad, gan gynnwys canlyniad rheolaethau swyddogol ac unrhyw ddiffyg cydymffurfio a nodwyd
  • camau i’w cymryd gan yr awdurdod bwyd

4.3.14 Er bod copïau o gofnodion busnesau bwyd, gan gynnwys ffurflenni cofrestru, aide-mémoires ar gyfer arolygiadau, ffurflenni adrodd ar ôl ymweliadau arolygu a gohebiaeth wedi’u darparu, nid oedd modd cael gafael ar y cofnodion electronig gwreiddiol.

4.3.15 Mewn tri allan o bum achos, nid oedd dyddiadau’r ymyriadau a oedd wedi’u nodi yn y copïau o’r cofnodion yn cyd-fynd â'r dyddiadau a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiadau arolygu.

4.3.16 Dywedodd yr awdurdod nad oedd yn defnyddio strategaeth orfodi amgen ar gyfer sefydliadau risg is ar hyn o bryd, ond roedd gweithdrefn ar gael a oedd yn trafod y gweithgaredd hwn.

Argymhellion

4.3.17 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal ar yr amlder lleiaf a bennir gan y Cod Ymarfer. [Erthyglau 9(1) a (2) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 4.2, 4.2.2, 4.2.4 a 4.2.5 o’r Cod Ymarfer]
  • (ii) Sicrhau bod arsylwadau a wneir a/neu ddata a geir yn ystod ymyriad/arolygiad safonau bwyd yn cynnwys gwybodaeth gyflawn ar gyfer asesiadau o systemau rheoli safonau bwyd, labelu, cyflwyniad, ac a ddylid cymryd samplau. [Erthyglau 5(1)(a) a (b), 9(1), 12, 13 ac 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 4.4, 4.6, a 4.3.3.1 o’r Cod Ymarfer a pharagraffau 4.3.4.2, 4.3.4.3 a 4.6 o’r Canllawiau Ymarfer]
  • (iii) Sicrhau bod safleoedd wedi’u sgorio’n gywir mewn perthynas â materion alergenau a bod cyfiawnhad dros unrhyw ddiwygiad yn cael ei gofnodi. [Erthyglau 5(1)(a) a (b), 9(1), 12, 13 ac 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 4.2.2, 4.2.6, ac Atodiad 1 i’r Cod Ymarfer]
  • (iv) Sicrhau bod cronfa ddata’r sefydliad ac unrhyw system rheoli gwybodaeth yn gallu adfer yr holl wybodaeth am sefydliadau bwyd a darparu’r wybodaeth y mae’r ASB yn gofyn amdani. Sicrhau bod llythyrau sy’n rhoi adroddiadau ar ymyriadau yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol. [Erthyglau 5(1)(f) ac 13 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 2.6, 2.6.3, a 4.6 o’r Cod Ymarfer; a pharagraff 4.6 o’r Canllawiau Ymarfer]

Ymweliad dilysu â sefydliad bwyd

4.3.18 Cynhaliwyd ymweliad dilysu mewn sefydliad bwyd gyda swyddog awdurdodedig yr awdurdod a oedd wedi cynnal arolygiad safonau bwyd diweddaraf y sefydliad. Prif amcan yr ymweliad oedd ystyried effeithiolrwydd asesiad yr awdurdod o systemau’r busnes i sicrhau bod bwyd yn bodloni gofynion y gyfraith safonau bwyd mewn perthynas â rheolaethau alergenau.

4.3.19 Roedd y swyddog yn gallu dangos ei wybodaeth am y busnes a rhoi sicrwydd i’r archwilwyr fod asesiadau o reolaethau alergenau wedi digwydd fel rhan o’r arolygiad.  Fodd bynnag, cadarnhaodd yr ymweliad hefyd bwysigrwydd cofnodi arsylwadau manwl ar yr arolygiadau yn llawn yn y ffurflen aide-mémoire briodol a phwysigrwydd cofnodi natur a graddfa’r gwahanol gynhyrchion a gynigir i’w gwerthu. Cadarnhaodd ymhellach yr angen i weithredu camau dilynol priodol, gan gynnwys sicrhau bod bwyd anniogel yn cael ei drin yn briodol. Roedd bwyd a oedd yn anniogel oherwydd labelu alergenau anghywir yn parhau i fod ar werth ar ôl yr ymweliad. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i sicrhau bod Prif Awdurdodau ac Awdurdodau Cartref, ynghyd â thîm Digwyddiadau’r ASB, yn cael gwybod yn briodol pan fydd bwyd anniogel yn cael ei roi ar y farchnad yn Wrecsam.

4.4 Arolygu a samplu bwyd

4.4.1 Roedd Cynllun Gwasanaeth yr awdurdod yn cynnwys gwybodaeth am samplu at ddibenion safonau bwyd, gan ddangos cyfranogiad mewn prosiectau neu arolygon, samplu rheolaidd yn ystod arolygiadau ar sail risg, a samplu yn sgil materion a oedd yn codi.  Darparwyd cynllun samplu i’r archwilwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon a oedd yn ystyried samplu at ddibenion safonau bwyd, gan gynnwys samplu ar gyfer alergenau.

4.4.2 Roedd yr awdurdod wedi penodi Dadansoddwr Cyhoeddus i gynnal dadansoddiadau bwyd. Roedd y labordy ar y rhestr gydnabyddedig o Labordai Swyddogol dynodedig y DU.

4.4.3 Roedd y weithdrefn yn amlinellu sut i gymryd samplau a pha gamau i’w cymryd ar ôl cael canlyniadau.

4.4.4 Archwiliwyd pum sampl safonau bwyd a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd cyn yr archwiliad. Cafodd yr holl samplau eu cymryd gan swyddogion a oedd wedi’u hyfforddi a’u hawdurdodi’n briodol ac roedd canlyniadau’r samplau ar gael ar ffeil. Roedd archwilwyr yn gallu cadarnhau bod pob gweithredwr busnes bwyd wedi cael gwybod am y canlyniadau a, lle bo’n briodol, fod y Prif Awdurdod hefyd wedi cael gwybod.

Arferion gorau
Cyhoeddodd yr awdurdod hysbysiad Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol i bob achos a archwiliwyd ar adeg cymryd y sampl. Ffurflen ddyblyg oedd yr hysbysiad a oedd yn dangos bod perchnogion busnesau yn gwbl hyddysg ynghylch pwerau swyddogion, y samplau a gymerwyd a’u pwrpas.

4.4.5 Mewn tri achos, roedd archwilwyr yn gallu cadarnhau bod camau priodol wedi’u cymryd mewn perthynas â chanlyniad y sampl. Mewn un achos, lle dangosodd ymweliad samplu ddiffygion cydymffurfio, nid oedd y sgôr a roddwyd yn dilyn arolygiad dilynol yn adlewyrchu’r hanes cydymffurfio diweddar. Byddai achos arall wedi elwa o ymchwiliad/camau gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r diffyg cydymffurfio a nodwyd.

Argymhellion

4.4.6 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â diffyg cydymffurfio yn dilyn gwaith samplu. [Erthyglau 5, 12, 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 2.5, 4.3, 5.2, 6.3, a 6.4 o’r Cod Ymarfer; a pharagraffau 6.3 a 6.4 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.5 Cwynion am fwyd a safleoedd bwyd

4.5.1 Mae’r awdurdod wedi llunio gweithdrefn i ymdrin â chŵynion sy’n ymwneud â bwyd ac mae’r weithdrefn hon yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau.

4.5.2 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion yn ymwneud â phum cwyn neu gais am wasanaeth a ddaeth i law’r awdurdod. Roedd yr archwilwyr yn gallu cadarnhau yr ymchwiliwyd i gŵynion yn amserol.

4.5.3 Mewn pedwar achos, roedd archwilwyr yn gallu pennu bod yr achosion wedi bod yn destun ymchwiliadau priodol. O ran yr un achos arall, byddai wedi elwa o gamau ymchwilio pellach.

4.5.4 Pan oedd yn briodol, roedd pawb a oedd wedi cyflwyno cwyn wedi cael gwybod am ganlyniadau’r ymchwiliad, ac roedd camau priodol wedi’u cymryd mewn pedwar o’r achosion.

Argymhellion

4.5.5 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Sicrhau bod cwynion am fwyd neu geisiadau am wasanaeth yn destun ymchwiliadau drylwyr a bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas ag achosion o ddiffyg cydymffurfio. [Erthyglau 5, 12, 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraff 6.3 o’r Cod Ymarfer; a pharagraff 6.3.3 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.6 Gorfodi

4.6.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu Polisi Gorfodi Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. Roedd y polisi wedi cael y gymeradwyaeth briodol ac roedd ar gael i’r cyhoedd a busnesau ar gais. Ategwyd y Polisi gan y Weithdrefn Gorfodi Diogelwch Bwyd, fodd bynnag nid oedd y weithdrefn wedi’i chymeradwyo.

4.6.2 Roedd y dogfennau hyn yn dadlau o blaid dull graddoledig o orfodi, a chyda’i gilydd, roeddent yn gyffredinol yn cyd-fynd â gofynion y Cod Ymarfer a chanllawiau swyddogol eraill. Roedd y Polisi yn darparu meini prawf ar gyfer cyflwyno rhybuddion syml a chymryd erlyniadau, ac roedd yn cyfeirio at y cynllun Prif Awdurdod. Fodd bynnag, nid oedd yn cynnwys meini prawf ar gyfer cymryd camau anffurfiol, cyflwyno amrywiol hysbysiadau statudol a chamau gweithredu ffurfiol eraill, fel sy’n ofynnol yn ôl y Cod Ymarfer. Er bod meini prawf o’r fath yn bresennol yn y weithdrefn, nid oedd hyn wedi cael y gymeradwyaeth angenrheidiol.

4.6.3 Roedd y polisi’n rhoi sylw i gymryd camau gweithredu mewn sefydliadau y mae gan y Cyngor ei hun fuddiant ynddynt, fel ysgolion, canolfannau hamdden a chartrefi gofal.

4.6.4 Roedd y Weithdrefn Gorfodi Diogelwch Bwyd yn darparu disgwyliadau trosfwaol o ran rhai camau gorfodi; gan gynnwys Hysbysiadau Gwella Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (FIRINs), Hysbysiadau Camau Unioni (RANs), Cau Gwirfoddol, Hysbysiadau a Gorchmynion Gwahardd, atafaelu, cadw, ardystio ac ildio gwirfoddol, rhybuddion syml ac erlyniadau.

4.6.5 Roedd diffyg manylion mewn gweithdrefnau penodol yn ymwneud â Hysbysiadau Gwella, Cau Gwirfoddol, Hysbysiadau Camau Unioni, Hysbysiadau a Gorchmynion Gwahardd, atafaelu, cadw, ardystio ac ildio gwirfoddol, gan gynnwys dolenni i hysbysiadau templed ar ffurflenni rhagnodedig a ble mae’r dogfennau hyn yn cael eu cadw. Roedd y gweithdrefnau hefyd yn galw am wybodaeth fanwl am gyflwyno hysbysiadau, nid dim ond am ddosbarthu â llaw, prawf o gyflwyno a chadw copïau gwir. Hefyd, dylid cyfeirio at unrhyw ddogfennau cysylltiedig ar gyfer cydymffurfio a thynnu’n ôl. Nid oedd unrhyw achosion yn ymwneud â’r camau gorfodi uchod wedi’u cynnal o fewn amserlen yr archwiliad.

4.6.6 Er bod gan yr awdurdod weithdrefnau ar gyfer cychwyn erlyniadau a chynnal rhybuddion syml, nid oedd y gweithdrefnau hynny wedi’u dogfennu’n llwyr eto. Mae angen datblygu’r gweithdrefnau ymhellach i ddogfennu gwybodaeth am sut mae swyddogion yn cael mynediad at ddogfennau templed er mwyn llunio ffeil achos a threfniadau lleol ar gyfer datblygu achos, gan ystyried rolau a chyfrifoldebau Deddf Ymchwilio i Weithdrefnau Troseddol 1996. Nid oedd unrhyw achosion a oedd yn ymwneud â’r camau gweithredu hyn wedi’u cynnal o fewn cwmpas yr archwiliad hwn.

Argymhellion

4.6.7 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Adolygu a diwygio ei bolisi gorfodi i gynnwys meini prawf ar gyfer cymryd camau anffurfiol, cyflwyno hysbysiadau statudol amrywiol a chamau ffurfiol eraill fel sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer. [Erthyglau 5(1(a), (b), 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, paragraffau 2.3 a 2.3.2 o’r Cod Ymarfer, a pharagraff 2.3.14 o’r Canllawiau Ymarfer]
  • (ii) Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi i gynnwys trefniadau lleol ar gyfer drafftio a chynnal profion o wasanaeth ar gyfer hysbysiadau statudol, ynghyd â’r broses o lunio a chymeradwyo ffeiliau ar gyfer penderfyniadau ar erlyniadau/rhybuddion syml. [Erthyglau 5(1 (a) a (b), 12, 13, 137 a 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, paragraffau 2.3 a 2.3.1 o’r Cod Ymarfer, a pharagraff 2.3.10 o’r Canllawiau Ymarfer]
  • (iii) Sicrhau bod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn ystod ymyriadau yn cael ei unioni. Dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth i Dîm Digwyddiadau’r ASB ac awdurdodau lleol eraill. [Erthygl 138 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraffau 2.5, 5.2, 6.3 a 6.4 o’r Cod Ymarfer, a pharagraffau 2.8 a 6.3.3 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.7 Monitro mewnol

4.7.1 Mae gwaith monitro mewnol yn bwysig i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyflawni a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â gofynion deddfwriaethol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a gweithdrefnau’r awdurdod. Mae hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau.

4.7.2 Cafodd targedau perfformiad allweddol eu nodi yn unol â’r Cod Ymarfer, ac mae gan yr awdurdod drefniadau ar waith i ymgymryd â gwaith monitro mewnol meintiol chwarterol a blynyddol ar draws y gwasanaethau bwyd.  Roedd perfformiad yn cael ei adrodd drwy’r system gorfforaethol ar gyfer monitro perfformiad. Roedd y swyddog arweiniol yn ymgymryd yn rheolaidd â gwaith monitro pellach o ran hynt rhaglenni ymyrryd.

4.7.3 Lluniwyd gweithdrefn fonitro fewnol ddogfenedig ar gyfer y gwasanaethau bwyd, ac roedd yn cynnwys ymweliadau a gynhelir yng nghwmni swyddog arall yn ogystal â sampl o wiriadau ffeil ar draws y rhan fwyaf o’r gweithgareddau sy’n ymwneud â’r rheolaethau swyddogol. Byddai’r weithdrefn yn elwa o welliant i bennu cynnydd o ran maint samplau / amlder gweithgareddau monitro mewnol ac ystod ehangach o swmp-wiriadau o’r cronfeydd data.

4.7.4 Roedd yr Arweinydd Bwyd a Ffermio a Swyddogion Arbenigol yn gyfrifol am fonitro’r gwasanaethau gorfodi bwyd yn fewnol ar lefel weithredol.

4.7.5 Bu modd i’r archwilwyr wirio bod peth gwaith monitro ansoddol wedi’i gynnal yn fewnol ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys gwirio cofnodion.

4.7.6 Roedd y cofnodion a gadwyd, yn unol â’r weithdrefn, yn cadarnhau natur a maint y gweithgarwch monitro. Roedd yr archwilwyr yn gallu gwirio bod y gwaith monitro ansoddol wedi’i gynnal ar draws y ddau wasanaeth, gan gynnwys arolygiadau yng nghwmni swyddog arall, gwiriadau o gofnodion ffeiliau ymyriadau, a cheisiadau am wasanaeth.

4.7.7 Byddai’n fuddiol ehangu maint a graddfa’r gwaith monitro mewnol sy’n digwydd yn ymarferol i gynnwys gweithgarwch amlach, meintiau samplau mwy ac ystod ehangach o wiriadau o’r cronfeydd data.

4.7.8 Roedd y cofnodion mewn perthynas â gwaith monitro mewnol a oedd ar gael yn cael eu cadw gan reolwyr am o leiaf ddwy flynedd.

Argymhelliad

4.7.9 Dylai’r awdurdod:

  • (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn bennu cynnydd o ran maint samplau / amlder gweithgareddau monitro mewnol ac ystod ehangach o swmp-wiriadau o’r cronfeydd data.
  • (ii) Yn yr un modd, dylid ehangu maint a graddfa’r gwaith monitro mewnol sy’n digwydd yn ymarferol i gynnwys cynnydd o ran maint samplau / amlder gweithgaredd monitro mewnol ac ystod ehangach o wiriadau o’r cronfeydd data. [Erthyglau 5(1)(a) a (b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625, paragraff 2.3.1 o’r Cod Ymarfer, a pharagraff 2.3.2 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.8 Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

4.8.1 Rhoddwyd sylw i gamau archwilio perthnasol o raglenni archwilio blaenorol nad oeddent wedi’u cwblhau. Roedd hyn yn cynnwys camau gweithredu o raglen archwilio lawn 2013–2017 a’r archwiliad a oedd yn canolbwyntio ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn 2017.

4.8.2 Cyhoeddwyd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar wefan yr ASB.

Archwilwyr

Craig Sewell
Angela Phillips

Adran

Y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Llawr 4
Adeilad Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Atodiad A: Cynllun Archwilio

 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

 

Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymru

Ebrill 2025 – Mawrth 2026

 

Briff y Rhaglen

Sarah Maddox
Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
E-bost: 
Sarah.Maddox@food.gov.uk

Craig Sewell
Uwch-reolwr Archwilio, yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru – Archwilydd Arweiniol
E-bost: wales.audit@food.gov.uk

Cefndir

1. Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd awdurdodau lleol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (y Ddeddf) a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.

2. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau statudol i’r ASB er mwyn cryfhau ei dylanwad dros weithgarwch gorfodi ac i sicrhau y caiff blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol eu cyflawni ar lefel leol. Mae’n rhoi pwerau i’r ASB gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • pennu safonau perfformiad mewn perthynas â gorfodi cyfraith bwyd  anifeiliaid a bwyd
  • monitro perfformiad awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
  • mynnu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynghylch gorfodi cyfraith bwyd ac archwilio unrhyw gofnodion
  • mynd i mewn i safleoedd awdurdodau lleol, i archwilio cofnodion a chymryd samplau
  • cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol
  • llunio adroddiadau i awdurdodau lleol unigol, gan gynnwys canllawiau ar wella perfformiad

3. Yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gynhelir i sicrhau y gellir dilysu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid neu fwyd, ceir gofyniad, o dan Erthygl 6, i awdurdodau cymwys gynnal archwiliadau mewnol neu gael eu harchwilio’n allanol.

4. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’r ASB yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau maent yn eu darparu, a hynny mewn modd cywir. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformiad chwe misol, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

5. Fel rhan o’r rhaglen archwilio hon, cynhelir archwiliadau systematig ac annibynnol o’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â chyfraith bwyd yng Nghymru.

Amcanion y Rhaglen

6. Bydd y rhaglen archwilio yn ystyried y rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â gweithredu’r ddeddfwriaeth yn y meini prawf cyn y dyddiad hwn hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen archwilio.

7. Bydd yr archwiliadau’n dangos a fu’r broses o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud ag alergenau yng Nghymru yn effeithiol. Gallai methu â sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a allai effeithio’n andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru arwain at niwed i enw da awdurdodau lleol a’r ASB, yn ogystal â cholli hyder yn y diwydiant bwyd.

8. Bydd y rhaglen archwilio â ffocws yn cynnwys archwiliad o’r rheolaethau swyddogol, y gweithgareddau swyddogol a’r canlyniadau cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth isod:

  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990
  • Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

9. Nodau penodol y rhaglen archwilio hon yw:

  • rhoi sicrwydd bod y gwaith o gyflwyno deddfwriaeth labelu alergenau sydd wedi bod ar waith ers 2014 yng Nghymru wedi’i weithredu’n effeithiol gan awdurdodau lleol; hynny yw, bod rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod), Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a deddfwriaeth swyddogol eraill a gyhoeddwyd yn ganolog (footnote 1)
  • gwerthuso gweithgareddau awdurdodau lleol mewn perthynas â busnesau bwyd sy’n darparu cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS) i ddefnyddwyr, a ddaeth i rym ym mis Hydref 2021
  • nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth gynnal rheolaethau
  • darparu modd o nodi tanberfformiad yn systemau gorfodi cyfraith bwyd yr awdurdodau lleol
  • darparu gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi’r ASB
  • adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sydd heb eu cyflawni o archwiliadau blaenorol

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

10. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr a’r risg i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau sy’n cynnwys asesiadau o alergenau yn seiliedig ar raglen o ymyriadau sydd yn unol â’r Cod.

11. Bydd y rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r meysydd canlynol o reolaethau swyddogol:

  • Cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau safonau bwyd
  • Yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau ar sail risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
  • Awdurdodi swyddogion a’u cymhwysedd
  • Ymyriadau (rhai sydd wedi’u rhaglenni a rhai ymatebol) a gorfodi
  • Polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
  • Monitro mewnol
  • Unrhyw faterion eraill yn ymwneud â rheolaethau alergenau

12. Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny.

Dull Asesu

13. Bydd yr archwiliadau’n cynnwys y canlynol:

  • holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynlluniau gwasanaeth yr awdurdod lleol, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig
  • bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o gynlluniau gweithredu archwilio blaenorol, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar unrhyw gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni
  • yna cynhelir archwiliad strwythuredig ar y safle, a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, ymweliad gwirio realiti ac adolygiadau o ffeiliau achosion

Hysbysu

14. Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o 4 wythnos o’r angen i gyflwyno deunydd cyn yr archwiliad, a rhoddir o leiaf 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer ymweliad archwilio, ar gyfer pob archwiliad a gynhelir o dan y cynllun archwilio hwn. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac yn hwyluso effeithiolrwydd y broses archwilio trwy ganiatáu digon o amser i bob awdurdod lleol gasglu dogfennau a sicrhau bod staff a chyfleusterau priodol ar gael.

Amseru

15. Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Mai 2025 a mis Chwefror 2026. Dylai’r elfen ‘ar y safle’ o’r archwiliad, ar gyfer pob awdurdod lleol, gymryd 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer gwaith asesu a ddilynir gan gyfarfod cloi ar y trydydd diwrnod.

Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol

16. Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adroddiad unigol a chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar sail yr archwiliad, a fydd ill dau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Bydd asesiad o sicrwydd cyffredinol ar gyfer rheolaethau alergenau hefyd yn cael ei anfon at bob awdurdod lleol ond ni fydd yn cael ei gyhoeddi.

17. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau’r rhaglen archwilio. Bydd yr     adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol a’r ASB i wella’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu cynnal. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn tynnu sylw at unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag unrhyw feysydd o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen.

Canlyniadau Disgwyliedig

Canlyniadau Uniongyrchol
  • Rhoi sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith o ran rheolaethau swyddogol a gynhelir gan awdurdodau lleol i reoli’r risg diogelwch bwyd a berir i unigolion â gorsensitifrwydd i fwyd wrth ddod i gysylltiad ag alergenau
  • Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol
  • Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd
  • Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau
  • Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei swyddogaeth statudol
Canlyniadau Strategol
  • Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd mewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau
  • Rhoi sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion y Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd
  • Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well o ran hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd
  • Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009 a Deddf Safonau Bwyd 1999

Atodiad B: Cynllun gweithredu yn sgil archwiliad ar gyfer rheoli alergenau

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Dyddiad yr archwiliad: 4 – 6 Tachwedd 2025

Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol)

Erbyn (dyddiad)

Gwelliannau arfaethedig

 

Camau a gymerwyd hyd yma

4.1.16  Dylai’r awdurdod:

(i) Sicrhau bod yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys yr holl wybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth Bwyd ac unrhyw dargedau, safonau a chanlyniadau perfformiad a nodwyd.

Cynllun Gwasanaeth nesaf (Ebrill 2026)

Cynllun gwasanaeth i’w ddiweddaru i gynnwys adolygiad o’r blynyddoedd blaenorol ym mhob maes a nodwyd yn y cynllun gwasanaeth.

 

 

4.1.16 (ii) Sicrhau ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau o ran bodloni’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd mewn cynllun dilynol.

Cynllun Gwasanaeth nesaf (Ebrill 2026)

Cynllun gwasanaeth i’w ddiweddaru i gynnwys adolygiad o’r blynyddoedd blaenorol ym mhob maes a nodwyd yn y cynllun gwasanaeth.

 

4.2.9 Dylai’r awdurdod:

(i) Sicrhau bod ganddo nifer digonol o staff â chymwysterau a phrofiad addas fel bod modd cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol.

Ebrill 2026

Disodli swyddog bwyd 0.8 CALl sy’n ymddeol â swyddog amser llawn o fis Ebrill 2026. Rhoi hyfforddiant priodol i swyddog technegol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd fel y gall gyfrannu adnoddau staffio ychwanegol o 0.3 CALl o fis Ebrill 2027 ymlaen. Chwilio am adnoddau cyllideb yn fewnol o flwyddyn 26/27 i ariannu swydd 0.5 CALl.

 

4.3.17 (i) Sicrhau bod ymyriadau/arolygiadau safonau bwyd yn cael eu cynnal ar yr amlder gofynnol a bennir gan y Cod Ymarfer.

Diwedd mis Mawrth 2026

Bwriad i ail-alinio ag amlderau ymyrryd y Cod Ymarfer erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Ystyried defnyddio strategaethau gorfodi amgen ar gyfer arolygiadau â sgôr C.

Mae ymyriadau wedi’u nodi a’u dyrannu fel prosiect i swyddog.

4.3.17 (ii) Sicrhau bod arsylwadau a wneir a/neu ddata a geir yn ystod ymyriad/arolygiad safonau bwyd yn cynnwys gwybodaeth gyflawn ar gyfer asesiadau o systemau rheoli safonau bwyd, labelu, cyflwyniad, ac a ddylid cymryd samplau.

Diwedd mis Ionawr 2026

Pro forma arolygu newydd wedi’i chreu a hyfforddiant ar y pro forma newydd i’w gyflwyno i staff.

5 aelod o staff allan o 7 wedi’u hyfforddi yn y pro forma newydd.

4.3.17 (iii) Sicrhau bod safleoedd wedi’u sgorio’n gywir mewn perthynas â materion alergenau a bod cyfiawnhad dros unrhyw ddiwygiad yn cael ei gofnodi.

Diwedd mis Ionawr 2026

Ailhyfforddi swyddogion a chynyddu gwaith monitro mewnol.

5 aelod o staff allan o 7 wedi’u hailhyfforddi.

4.3.17 (iv) Sicrhau bod cronfa ddata’r sefydliad ac unrhyw system rheoli gwybodaeth yn gallu adfer yr holl wybodaeth am sefydliadau bwyd a darparu’r wybodaeth y mae’r ASB yn gofyn amdani. Sicrhau bod llythyrau sy’n rhoi adroddiadau am ymyriadau yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.

Diwedd mis Ionawr 2026

Ailhyfforddi swyddogion a chynyddu gwaith monitro mewnol.

5 aelod o staff allan o 7 wedi’u hailhyfforddi.

4.4.6 (i) Sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â diffyg cydymffurfio yn dilyn gwaith samplu.

Diwedd mis Ionawr 2026

Ailhyfforddi swyddogion a chynyddu gwaith monitro mewnol.

5 aelod o staff allan o 7 wedi’u hailhyfforddi.

4.5.5 (i) Sicrhau bod cwynion am fwyd neu geisiadau am wasanaeth yn destun ymchwiliadau drylwyr a bod camau priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas ag achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Diwedd mis Ionawr 2026

Swyddogion wedi’u hailhyfforddi ar y weithdrefn ar gyfer cwynion am fwyd, wedi’u cynghori i gofnodi barn broffesiynol ar y gŵyn.

Cynnydd mewn gwaith monitro mewnol.

 

4.6.7 (i) Adolygu a diwygio ei bolisi gorfodi i gynnwys meini prawf ar gyfer cymryd camau anffurfiol, cyflwyno hysbysiadau statudol amrywiol a chamau ffurfiol eraill fel sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer.

Diwedd mis Mawrth 2026

Polisi Gorfodi i’w adolygu.

Mae’r polisi wedi’i adolygu ac wrthi’n aros am gymeradwyaeth gan y Cyngor.

4.6.7 (ii) Adolygu a diwygio ei weithdrefnau gorfodi i gynnwys trefniadau lleol ar gyfer drafftio a chynnal profion o wasanaeth ar gyfer hysbysiadau statudol, ynghyd â’r broses o lunio a chymeradwyo ffeiliau ar gyfer penderfyniadau ar erlyniadau/rhybuddion syml.

Diwedd mis Rhagfyr 2025

Gweithdrefnau gorfodi i’w hadolygu a’u diwygio’n briodol.

Mae gweithdrefnau wedi cael eu diweddaru.

4.6.7 (iii) Sicrhau bod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn ystod ymyriadau yn cael ei unioni. Dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth i Dîm Digwyddiadau’r ASB ac awdurdodau lleol eraill.

Diwedd mis Ionawr 2026

Ailhyfforddi staff a chynhyrchu canllaw i gynorthwyo swyddogion.

Canllaw wedi’i chynhyrchu, a sesiynau ailhyfforddi wedi’u cynllunio ar gyfer dechrau 2026.

4.7.9 (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod yr holl weithgareddau perthnasol yn destun gwaith monitro cymesur. Dylai hyn bennu cynnydd o ran maint samplau / amlder gweithgareddau monitro mewnol ac ystod ehangach o swmp-wiriadau o’r cronfeydd data. Yn yr un modd, dylid ehangu maint a graddfa’r gwaith monitro mewnol sy’n digwydd yn ymarferol i gynnwys cynnydd o ran maint samplau / amlder gweithgaredd monitro mewnol ac ystod ehangach o wiriadau o’r cronfeydd data.

Diwedd mis Ionawr 2026

Adolygu’r Weithdrefn Fonitro Fewnol.

Dim.