Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 4 Tachwedd
Agenda ar gyfer cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar Fwyd Anifeiliaid. Cyfarfod hybrid yw hwn a gynhelir wyneb yn wyneb yn adeilad Melin Bwyd Anifeiliaid ForFarmers, Caerfyrddin ac ar-lein trwy MS Teams.
Agenda a phapurau
10am – Croeso gan y Cadeirydd
I gynnwys cyflwyniad, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiannau a chofnodion y cyfarfod diwethaf.
Arweinydd: Dr Rhian Hayward, Cadeirydd WFAC ac Aelod o'r Bwrdd dros Gymru
10.05am – Cyflwyniad i fwyd anifeiliaid yng Nghymru
Trosolwg o’r model gweithredu bwyd anifeiliaid presennol yng Nghymru a’r heriau/cyfleoedd/
Arweinwyr: Sarah Aza, Pennaeth Gwaith Gweithredu, and Neil Arbery, Gwaith Gweithredu Awdurdodau Lleol, yr ASB yng Nghymru
10.20am – Polisi bwyd anifeiliaid yng Nghymru
Trosolwg o bolisi bwyd anifeiliaid a mewnwelediad o safbwynt y diwydiant
Arweinwyr: Delyth Murray-Lines, Polisi Hylendid, yr ASB yng Nghymru a James McCulloch, Pennaeth Bwyd Anifeiliaid, Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC)
11am – Cynnal rheolaethau swyddogol
Mewnwelediad o safbwynt yr ASB, awdurdodau lleol a’r AIC
Arweinwyr:
- Neil Arbery, Gwaith Gweithredu Awdurdodau Lleol, yr ASB yng Nghymru
- Jacqui Thomas, Cyngor Sir Powys
- Gareth Walters, Cyngor Sir Fynwy
- Simon Williams, Rheolwr Technegol, AIC
11.40am – Diweddariadau gan y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwyr
Arweinwyr: Dr Rhian Hayward a Sian Bowsley, Cyfarwyddwr Cymru
11.45am – Unrhyw fater arall a dod â’r cyfarfod agored i ben
Cyfarfod agored nesaf: I'w gadarnhau
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i ddod i’r cyfarfod wyneb yn wyneb neu wylio ar-lein, i gyflwyno cwestiwn i'r Pwyllgor neu i gael mwy o wybodaeth.