Adroddiad y Cyfarwyddwyr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 4 Tachwedd 2025
Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU a Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
1.Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:
- dolen i’r papur a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 17 Medi 2025
- crynodeb o weithgarwch ymgysylltu’r uwch-dîm rheoli ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig (UKIA)
- trosolwg o ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru mewn perthynas â Chymru.
1.2 Gwahoddir aelodau’r pwyllgor i wneud y canlynol:
- Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf
- gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach
2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd
2.1 Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi.
3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig (UKIA)
3.1 Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o rywfaint o’r gwaith allweddol a wnaed gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig, ers yr adroddiad diwethaf ym mis Gorffennaf.
3.2 Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth i ddeall ac ystyried yn ofalus sut gallai cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS) gyda’r UE arwain at oblygiadau iechyd y cyhoedd o ran bwyd a bwyd anifeiliaid. Er y bydd Llywodraeth y DU yn negodi’r cytundeb ar ran y DU, rydym yn cefnogi ei hymdrechion i weithio ar sail pedair gwlad a byddwn yn ymgysylltu’n agos â llywodraethau ledled y DU.
3.3 Cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol chwe phenodiad newydd i Fwrdd yr ASB, un ohonynt oedd Syr Frank Atherton, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru. Mynychodd Fwrdd yr ASB ym mis Medi ym Melffast.
Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru
3.4 Rwyf wedi parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i gefnogi ein cais am Adolygiad o’r Gwariant a’r gwaith o gynllunio cyllidebau yng Nghymru. Mae ein trafodaethau hefyd wedi canolbwyntio ar feysydd strategol allweddol gan gynnwys awdurdodiadau’r farchnad, Operation Pegasus, ac Adolygiad parhaus yr ASB, ac mae rhagor o fanylion am bob un ohonynt yn yr adroddiad hwn. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn wedi helpu i sicrhau cysondeb o ran blaenoriaethau a dealltwriaeth gliriach o ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn, a fydd yn sail i’n dull gweithredu ac yn cryfhau ein sefyllfa mewn cynlluniau sydd ar y gweill.
3.5 Ar lefel Weinidogol, cyfarfu Cadeirydd y Bwrdd, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a minnau â Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ddiweddar i drafod blaenoriaethau allweddol ar gyfer y chwe mis nesaf cyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai. Ymysg pethau eraill, roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar gefnogi awdurdodau lleol, bwrw ymlaen â’r adolygiad o’r ASB yng Nghymru a materion SPS o ddiddordeb cyffredin. Roedd y Gweinidog yn croesawu ymgysylltiad parhaus yr ASB ac aeth ati i ailddatgan pwysigrwydd cydweithio agos i sicrhau bod blaenoriaethau Cymru’n cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau a darpariaethau yn y dyfodol.
4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
4.1 Ers cyfarfod â thema diwethaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ym mis Gorffennaf, rydym wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau ymgysylltu strategol canlynol:
- Fe wnaethom hwyluso diwrnod llawn o ymgysylltu ar gyfer ein Cadeirydd ni, a Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni, gan ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys Gweinidogion, NFU Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Helpodd y sgyrsiau hyn i gryfhau perthnasoedd, codi ymwybyddiaeth o’n blaenoriaethau, a nodi meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
- Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, aethom i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam gyda’n stondin fodiwlaidd i roi gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr ar waith yr ASB. Diolch i’r gwirfoddolwyr ymroddedig o bob rhan o’r ASB, gan gynnwys John Williams, aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, a ddarparodd ystod eang o gyngor a gwybodaeth werthfawr yn ystod y digwyddiad, gan helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o waith yr ASB. Fe wnaethom lwyddo i ymgysylltu â dros 1500 o aelodau o’r cyhoedd, a manteisio ar nifer o gyfleoedd i ymgysylltu ymhellach â defnyddwyr.
- Ym mis Medi, aeth aelodau o’r tîm arwain yng Nghymru i’r Senedd ar gyfer Y Farchnad – digwyddiad anffurfiol a luniwyd i annog sgyrsiau ystyrlon gydag Aelodau o’r Senedd. Wedi’i noddi gan Samuel Kurtz AS, denodd ein stondin ddiddordeb o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol, gyda brwdfrydedd penodol dros y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’i rôl yn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus. Roedd y fformat yn caniatáu ar gyfer trafodaethau dyfnach, mwy gonest, gan roi cipolwg gwerthfawr i ni ar flaenoriaethau a phryderon Aelodau o’r Senedd. Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio ar gyfer mynd i’r digwyddiad nesaf ym mis Chwefror – cyfle amserol i ymgysylltu cyn yr etholiad nesaf.
- Ym mis Medi hefyd, bu Sarah Aza a minnau’n briffio Aelodau’r Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol ac Iechyd y Cyhoedd – drwy sesiwn a drefnwyd gan Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru – ar rôl yr ASB yng Nghymru. Fe wnaethom dynnu sylw at ein cydweithrediad ag awdurdodau lleol, a sbardunodd drafodaeth werthfawr am adnoddau awdurdodau lleol a rheoleiddio ar lefel genedlaethol. Roedd y sesiwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i helpu’r tîm i fwrw ymlaen â’u gwaith a chodi ymwybyddiaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.
- Yn ddiweddar, cafwyd gyflwyniad gan Jonathan Davies yn Fforwm Bwyd Llywodraeth Cymru i godi ein proffil ymysg cydweithwyr allweddol yn Llywodraeth Cymru ac i drafod ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Rydym bellach wedi ymuno â’r fforwm hwn a byddwn yn mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol, a fydd yn darparu gwybodaeth werthfawr a llwyfan ar gyfer cydweithio. Yn yr un modd, ymunais â chyfarfod diweddar o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i roi trosolwg o’r gwaith a’r blaenoriaethau sydd ar y gweill, a arweiniodd at drafodaethau diddorol ar sut y gallwn gefnogi’r Bwrdd yn y dyfodol.
- Yng nghynhadledd CIEH ym mis Hydref, roeddem yn falch iawn o groesawu Katie Pettifer, ein Prif Weithredwr, i Gaerdydd. Rhoddodd Katie gyflwyniad yn amlinellu strategaethau a blaenoriaethau’r ASB ar gyfer y dyfodol, gan dynnu sylw at ymrwymiad y sefydliad i sicrhau diogelwch bwyd, hyrwyddo iechyd y cyhoedd, ac addasu i heriau sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector. Roedd hefyd yn gyfle i Katie gwrdd â rhanddeiliaid allweddol a sgwrsio â nhw, gan gynnwys cynrychiolwyr ar ran Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru.
- Dros yr haf, fel rhan o brosiect Cyfrifiaduron i Elusen yr ASB, rhoddodd y tîm offer TG i elusennau ledled y wlad – gan helpu i gryfhau mynediad digidol a chefnogi gwasanaethau hanfodol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Cafodd pob elusen rodd o liniaduron a ffonau clyfar i’w helpu i wella eu galluoedd digidol a gwasanaethu’r bobl sy’n dibynnu arnynt yn well. Roeddent yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys banciau bwyd, darparwr tai brys, ac elusen sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
- Rwyf hefyd wedi parhau i fynychu’r grŵp goruchwylio ar gyfer Adolygiad Met Caerdydd o’r ASB yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a Met Caerdydd i sicrhau bod yr adroddiad yn gywir ac yn cyflawni camau gweithredu pendant. Disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
4.2 Dros y misoedd diwethaf, mae’r timau polisi yng Nghymru wedi bod yn ymwneud â’r ffrydiau gwaith canlynol:
- Yn dilyn trafodaethau diweddar y Bwrdd ar glyserol mewn diodydd iâ slwsh, a gyda chefnogaeth y tîm cyfathrebu yng Nghymru, fe wnaethom hyrwyddo negeseuon iechyd allweddol i randdeiliaid a defnyddwyr ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys briffio Aelodau o Senedd Cymru ac Aelodau Seneddol, rhannu gwybodaeth allweddol â'r prif darparwyr cyfryngau, a darparu pecyn cymorth i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i ymhelaethu ar y negeseuon. Buom yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Plant GIG Cymru, ac is-adrannau Iechyd ac Addysg Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sefydliadau fel Mudiad Meithrin a’r Urdd i ymestyn cyrhaeddiad yr ymgyrch – yn enwedig yn ystod misoedd yr haf pan oedd defnydd a risg ar eu huchaf. Cafodd yr ymgyrch lawer o sylw gan y cyfryngau yng Nghymru.
- Rydym wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad i fwrw ymlaen â'r gwaith ar labelu a safonau cyfansoddol ar gyfer y prosiect Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Ar y cyd â’r ASB yng Ngogledd Iwerddon, fe wnaethom ddatblygu cyfres o bapurau a oedd yn edrych ar sut mae cynnyrch o’r fath yn cael ei reoleiddio’n rhyngwladol, y safbwyntiau presennol ar draws aelod-wladwriaethau’r UE, a goblygiadau posibl dulliau rheoleiddio gwahanol.
- Rydym wedi argymell ac wedi llwyddo i sicrhau cymeradwyaeth weinidogol i awdurdodi wyth cynnyrch rheoledig newydd yng Nghymru.
- Gan weithio gyda chydweithwyr ehangach yn yr ASB, fe wnaethom gyhoeddi datganiad rheoli risg yn cynghori busnesau i beidio â defnyddio plastig sy'n mynd i’r môr (OBP) mewn pecynnau bwyd. Mae hyn yn dilyn asesiad gan y Grŵp Arbenigwyr ar y Cyd ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a oedd yn adolygu’r defnydd o blastigau sy’n mynd i’r môr mewn pecynnau cig, dofednod a physgod.
- O ran yr adolygiad presennol o’r cynllun gostyngiadau wrth godi tâl yn y sector cig, yn ddiweddar cyfarfu’r tîm â rhanddeiliaid yn niwydiant cig Cymru yng Nghaerdydd i gasglu adborth gan randdeiliaid ar y dull gweithredu ar gyfer cefnogi lladd-dai a sefydliadau trin anifeiliaid hela yn y dyfodol. Bydd yr adborth a gesglir gan randdeiliaid yng Nghymru, ac mewn digwyddiadau tebyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn sail i bapur a fydd yn mynd gerbron y Bwrdd ym mis Rhagfyr.
- Cyfarfu’r tîm â Lillian Jones AS (Kilmarnock a Loudoun), i drafod galw ychwanegion bwyd fitamin D yn ôl mewn safleoedd fferyllol a’r dirwedd ychwanegion bwyd.
- Fe wnaethom hefyd roi cyflwyniad yn Fforwm Rheoli Alergenau cyntaf Zero2Five ym mis Hydref, lle’r oedd busnesau, tai profi ac Anaphylaxis UK yn bresennol. Roeddem yn canolbwyntio ar alergenau anfwriadol, digwyddiadau bwyd a galw cynnyrch yn ôl, gan wneud cysylltiadau da â nifer o bobl a chodi proffil ein gwaith yn y maes hwn.
4.3 Mae ein timau sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol wedi bod yn rhan o’r gwaith canlynol:
- Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal Diwrnod Bwyd Anifeiliaid wyneb-yn-wyneb ar gyfer swyddogion bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn bresennol oedd Dave Holland, aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru. Roedd y diwrnod yn rhoi sylw i’r model rhanbarthol ar gyflenwi bwyd anifeiliaid, yn adrodd ar ddigwyddiadau, yn rhoi trosolwg o bolisi bwyd anifeiliaid ac yn cynnwys sesiwn ar gydnabyddiaeth haeddiannol ar y cyd â Chynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL), un o bedwar cynllun sicrwydd cymeradwy’r ASB.
- Rydym wedi bod yn cymryd rhan weithredol yn Archwiliadau diweddar yr UE o Brydain Fawr, a’r diweddaraf oedd Archwiliad Cynhyrchion Pysgodfeydd yr UE. Fe roddodd y tîm gyflwyniad i’r archwilwyr mewn cyfarfodydd technegol a chynrychioli timau cyflenwi’r ASB yn ystod ymweliad ag awdurdod lleol, gan sicrhau dull gweithredu cyson ledled y DU a chryfhau cydweithio ar draws gwledydd. Mae’r tîm bellach yn llenwi holiadur cyn yr Archwiliad Cynhyrchion Dofednod yr UE.
- Ar 1 Medi 2025, fe wnaethom lansio prosiect casglu data chwe mis yng Nghymru i brofi system gofrestru well, a oedd yn cynnwys pum awdurdod lleol peilot a chwe awdurdod lleol rheoli. Bydd y prosiect yn asesu a yw data busnes ychwanegol yn galluogi awdurdodau lleol i flaenoriaethu arolygiadau cychwynnol yn well, gwella cydymffurfiaeth yn yr arolygiad cychwynnol, a lleihau achosion o ddiffyg cydymffurfio sy’n digwydd dro ar ôl tro. Mae’r adborth cynnar gan awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol, yn enwedig o ran y cydweithio cryf rhwng yr ASB yng Nghymru ac awdurdodau peilot. Bydd canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i Fwrdd yr ASB a Gweinidog Cymru i lywio cyfeiriad polisi yn y dyfodol.
- Yn dilyn ymgynghoriad 12 wythnos, mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) a’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig bellach wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r Cod diwygiedig yn cyflwyno’r Model Gweithredu Safonau Bwyd newydd ac yn darparu dull mwy hyblyg sy’n seiliedig ar risg o flaenoriaethu rheolaethau swyddogol busnesau bwyd newydd, yn caniatáu mwy o ddefnydd o ddulliau rheoli amgen ac yn ehangu’r garfan o weithwyr proffesiynol sy’n gallu ymgymryd â gweithgareddau penodol. Bydd y tîm nawr yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o roi’r newidiadau hyn ar waith.
- Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi dechrau’r Rhaglen Archwilio Alergenau, gyda dau archwiliad gan awdurdodau lleol wedi’u cwblhau’n llwyddiannus, ac mae’r trydydd ar y gweill ar hyn o bryd. Y bwriad yw cynnal y pedwerydd archwiliad ddechrau mis Rhagfyr.
- Ar ben hynny, mae arolwg Monitro Perfformiad awdurdodau lleol a gynhelir bob chwe mis bellach wedi cau. Mae’r tîm wrthi’n dadansoddi’r data ar hyn o bryd a bydd yn cysylltu ag awdurdodau lleol unigol lle nodwyd pryderon posib.
4.4 Mae timau’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) hefyd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf:
- Rydym yn rhan o’r ymarfer Operation Pegasus trawslywodraethol parhaus i brofi parodrwydd i ymateb i bandemig. Mae’r ASB yn ymwneud ag adrannau arweiniol yn ganolog, gan ddarparu cyngor gwyddonol ochr yn ochr ag asesiad risg cyflym. Mae’r timau yng Nghymru yn gweithio’n agos gyda strwythurau gorchymyn a rheoli Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen. Nodwyd bod y risg i fwyd yn isel ond rydym yn parhau i ymgysylltu â’r tîm Digwyddiadau a Chyfathrebu i roi sicrwydd i ddefnyddwyr. Mae’r ASB hefyd yn defnyddio’r ymarfer yn fewnol i brofi lefelau parodrwydd o ran staffio ac mae proses gwersi a ddysgwyd ar waith i nodi gwelliannau.
- Llwyddodd yr ASB a’r NFCU i sicrhau gorchymyn atafaelu gwerth £31,250.51 gan ddiffynnydd o Gymru a gafwyd yn euog o elwa o werthu cig ‘smokie’ yn anghyfreithlon. Cynhaliwyd y gwrandawiad llys ym mis Mehefin a diolch i gefnogaeth y tîm cyfryngau canolog, fe wnaethom ddrafftio a chyhoeddi’r stori newyddion hon, a’i rhannu â chyfryngau cenedlaethol allweddol ledled Cymru.
- Mae dyraniadau cyllid samplu wedi cael eu pennu ar gyfer rhaglen samplu 25/26. Daeth pum cais i law gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac maent yn cael eu hystyried i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Blaenoriaethau Safonau Bwyd yr ASB a’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Mae deg awdurdod lleol wedi cael cyllid ar gyfer 177 o samplau sy’n ymwneud ag alergenau, datganiad cynhwysion meintiol, manyleb cig a datganiad cynnwys cig. Bydd samplau’n cael eu cymryd o amrywiaeth o safleoedd.
4.5 Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB yn cael eu lledaenu ledled Cymru, sydd wedi cynnwys:
- Yn ddiweddar, aethom i gynhadledd Comisiynydd y Gymraeg ar rannu arferion gorau darpariaeth Gymraeg a gwnaethom gyflwyno sesiwn ar y cyd â swyddfa’r Comisiynydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau’r Asiantaeth Safonau Bwyd o ran ymgyrchoedd dwyieithog. Roedd y digwyddiad yn gyfle i rannu arferion gorau ar draws adrannau’r llywodraeth sy’n gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg, ac i adeiladu’r rhwydwaith hwn er mwyn gallu gweithio’n fwy effeithlon yn y dyfodol.
- Ddiwedd mis Medi, gwnaethom gynnal estyniad wedi’i dargedu o’n hymgyrch Bacteria Love It Here, gan ganolbwyntio ar fyfyrwyr sy’n dechrau neu’n dychwelyd i’r brifysgol – llawer ohonynt yn byw mewn llety a rennir ac yn coginio dros eu hunain am y tro cyntaf. Fe wnaethom rannu pecynnau cymorth, adnoddau a chynnwys gyda thimau’r wasg mewn awdurdodau lleol, partneriaid, prifysgolion a darparwyr cyfryngau yng Nghymru, a rhoddwyd sylw i’r ymgyrch ar sioe frecwast BBC Radio Cymru, a oedd yn cynnwys segment ar hylendid ceginau myfyrwyr. Rydym hefyd yn datblygu hysbysebion radio dwyieithog gydag awgrymiadau cyflym ar hylendid bwyd, a fydd yn cael eu darlledu ar orsafoedd radio myfyrwyr ledled Cymru dros y misoedd nesaf.
- Roedd y tîm hefyd yn bresennol yng nghynhadledd Cyfryngau Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar, gan ddod â chrewyr, sylfaenwyr a dylanwadwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu straeon a chyngor ar redeg cyfrifon proffesiynol a diddorol a’r dirwedd cyfryngau cymdeithasol ehangach. Rhannwyd awgrymiadau a thechnegau i baratoi ar gyfer lansio sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar deilwra cynnwys allweddol ASB i’n cynulleidfaoedd a’n rhanddeiliaid yng Nghymru.
5. Ymgynghoriadau
5.1 Mae’r ymgynghoriadau canlynol yn fyw ar hyn o bryd:
- Galwad am ddata: Acrylamid mewn bwyd – Mae’r ASB ac FSS yn gofyn am ddata ar lefelau acrylamid mewn bwyd.
Dyddiad lansio: 30 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2025
- Ymgynghoriad ar geisiadau i awdurdodi 3 cynnyrch bwyd Canabidiol (CBD) fel bwydydd newydd Awst 2025 – Ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar y ceisiadau am gynnyrch rheoleiddiedig sy’n cael eu hystyried yn y ddogfen hon, ac sydd wedi cael eu cyflwyno i’w hawdurdodi.
Dyddiad lansio: 28 Awst 2025
Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2025
- Ymgynghoriad ar y cynnig i wahardd defnyddio bisffenol A (BPA), bisffenolau eraill a deilliadau bisffenolau mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd – Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar ein cynnig i wahardd defnyddio bisffenol A (BPA), a bisffenolau eraill mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs). Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn darparu tystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio i geisio penderfyniad ffurfiol ar statws BPA a’i analogau.
Dyddiad lansio: 2 Hydref 2025
Dyddiad cau: 24 Rhagfyr 2025
6. Edrych Tua’r Dyfodol
6.1 Bydd llawer o’r gwaith yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf. Ar ben hynny, byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.
6.2 Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i’w helpu i drosglwyddo i’r Model Gweithredu Safonau Bwyd; gan ddysgu gwersi o’i weithredu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
6.3 Bydd etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026 yn arwain at newid mawr i gynrychiolaeth seneddol Cymru, gan gynyddu nifer Aelodau’r Senedd o 60 i 96. I baratoi ar gyfer y newid hwn, rydym yn parhau i feithrin perthynas gref ag Aelodau’r Senedd i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth dda am flaenoriaethau defnyddwyr o ran bwyd yng Nghymru. Mae gennym ragor o sesiynau ymgysylltu ar y gweill yn y Farchnad yn y Senedd, gyda’r nod o gadw diogelwch a safonau bwyd yn amlwg yn agenda polisi Cymru.
6.4 Mae ein gweithgareddau gyda rhanddeiliaid a chyfathrebu arfaethedig dros y misoedd nesaf yn cynnwys:
- Wrth i ni nesáu at dymor y Nadolig, rydym yn lansio estyniad o’n hymgyrch lwyddiannus Bacteria Love It Here, gan rannu negeseuon hylendid bwyd gyda defnyddwyr sy'n paratoi prydau bwyd gartref. Ochr yn ochr â hyn, mae ein hymgyrch Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell yn parhau i gefnogi busnesau bwyd bach a microfusnesau.
- Fel y nodwyd uchod, dros y misoedd nesaf bydd y tîm yn lansio sianeli cymdeithasol dwyieithog newydd ar gyfer ein cynulleidfa yng Nghymru. Bydd y sianeli hyn hefyd yn caniatáu i ni ryngweithio a hyrwyddo cynnwys gan randdeiliaid ac awdurdodau lleol yn llawer mwy uniongyrchol nag y gallwn ar hyn o bryd wrth rannu sianeli cyfathrebu canolog, a byddant yn caniatáu i ni deilwra negeseuon i adlewyrchu cyd-destun, gwerthoedd a blaenoriaethau diwylliannol Cymru.
Hanes diwygio
Published: 30 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Tachwedd 2025