Ymgynghoriad ar y cynnig i wahardd defnyddio bisffenol A (BPA), bisffenolau eraill a deilliadau bisffenolau mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar ein cynnig i wahardd defnyddio bisffenol A (BPA), a bisffenolau eraill mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs). Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn darparu tystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio i geisio penderfyniad ffurfiol ar statws BPA a’i analogau.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
- Busnesau bwyd
- Gweithgynhyrchwyr bwyd a phecynnu
- Manwerthwyr a dosbarthwyr
- Mewnforwyr ac allforwyr
- Grwpiau eiriolaeth diogelwch ac iechyd defnyddwyr
- Arbenigwyr gwyddonol ac academaidd
- Y cyhoedd
- Awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd
- Cynghorau dosbarth
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad hwn yw cefnogi gwahardd bisffenol A (BPA), bisffenolau eraill, a deilliadau bisffenolau mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Nid bwriad yr ymgynghoriad hwn yw ailedrych ar y consensws gwyddonol ar risgiau BPA. Yn hytrach, y nod yw casglu unrhyw dystiolaeth gadarn, a allai gyfiawnhau dull amgen ar gyfer BPA a’i analogau. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn helpu i nodi unrhyw ystyriaethau ymarferol ar gyfer gweithredu, gan gynnwys cyfnodau trosiannol ac eithriadau posib, gan osod trothwy tystiolaethol uchel ar gyfer unrhyw wrthwynebiadau.
Pecyn Ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.
England, Northern Ireland and Wales
England, Northern Ireland and Wales
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r ffurflen ar-lein hon.
Os nad yw’n bosib, gallwch e-bostio eich ymateb i: FCM-BPA@food.gov.uk
Rhaid i’r ymatebion ddod i law erbyn 24 Rhagfyr 2025 am 17:00. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat, neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.