Penodiadau newydd i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) wedi cyhoeddi chwe phenodiad newydd i Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) heddiw.
Bydd Clare Evans, Dr Susan Paterson, a Steve Ruddy yn gwasanaethu am bedair blynedd, a bydd yr Athro Syr Frank Atherton, Alison Austin a Louise Hoste yn gwasanaethu am dair blynedd.
Mae’r Athro Syr Frank Atherton wedi ymgymryd â uwch-rolau arweinyddiaeth ym maes iechyd cyhoeddus ledled Lloegr, Canada a Chymru dros ddau ddegawd, gan arwain at ei rôl fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ystod pandemig COVID-19.
Mae Alison Austin OBE yn cyfuno profiad anweithredol yn y sector cyhoeddus â gwaith ymgynghori annibynnol ar gynaliadwyedd, gan weithio yn Sainsbury’s ym maes anghenion defnyddwyr a chynaliadwyedd am 25 blynedd.
Mae gan Clare Evans brofiad helaeth yn y sector gweithgynhyrchu bwyd, gan gynnwys dros 26 mlynedd mewn rolau Gweithredol yn Greencore Foods.
Mae Louise Hoste yn arweinydd profiadol ym maes manwerthu, ac yn gyfarwyddwr anweithredol gyda mwy na 35 mlynedd o brofiad yn y sectorau bwyd, cyfleustra a nwyddau cyffredinol.
Mae Dr Sue Paterson yn Ddermatolegydd Milfeddygol nodedig wedi’i hardystio gan yr RCVS a’r Bwrdd Ewropeaidd. Hi yw llywydd presennol Cymdeithas Dermatoleg Filfeddygol y Byd.
Mae Steve Ruddy yn arweinydd profiadol iawn ym maes llywodraeth leol, sy’n cadeirio’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig.
"Rwy’n falch o groesawu’r chwe unigolyn eithriadol hyn i Fwrdd yr ASB. Bydd eu harbenigedd amrywiol ar draws y system fwyd, ym maes iechyd y cyhoedd, manwerthu a gwasanaethau rheoleiddio yn cryfhau ein gallu i ddiogelu defnyddwyr a chynnal safonau diogelwch bwyd.”
Dechreuodd pob un a benodwyd yn eu swyddi ar 1 Awst 2025, ac eithrio Alison Austin, a fydd yn dechrau yn ei rôl ar 18 Tachwedd 2025.
Telir tâl blynyddol o £8,000 i aelodau’r Bwrdd am 20 diwrnod y flwyddyn. Gwneir pob penodiad yn ôl teilyngdod, a gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.