Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Consultation

Cynnig dull arall i bennu oedran defaid adeg eu lladd

Penodol i Gymru a Lloegr

Rydym ni eisiau clywed eich barn ar ein cynnig i ddiwygio deddfwriaeth Cymru a Lloegr ar bennu oedran defaid er mwyn cael gwared ar rai rhannau o'r corff adeg eu lladd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2019

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol:

  • ffermwyr
  • lladd-dai
  • awdurdodau gorfodi
  • manwerthwyr

Pwnc yr ymgynghoriad

Rydym ni eisiau clywed eich barn ar ein cynnig i ddiwygio deddfwriaeth Cymru a Lloegr ar bennu oedran defaid er mwyn cael gwared ar rai rhannau o'r corff adeg eu lladd. Ar gyfer defaid hŷn na blwydd oed, mae angen cael gwared ar y rhannau hyn i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Byddai'r diwygiad yn caniatáu i ladd-dai ddewis dull arall ar gyfer pennu oedran defaid. Ar hyn o bryd mae lladd-dai yn cyfrif nifer dannedd parhaol dafad i benderfynu ei hoedran.

O dan y cynnig, byddai ganddyn nhw hefyd y dewis o ddefnyddio system yn seiliedig ar y dyddiad. Byddai defaid a anfonwyd i'w lladd cyn 30 Mehefin yn y flwyddyn ar ôl eu geni yn cael eu hystyried i fod yn iau na blwydd oed.

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ymgynghori ar y cyd ar gynnig i ddiwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018 a Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Lloegr) 2018, fel bod gan ddiwydiannau defaid yng Nghymru ac yn Lloegr y dewis i fanteisio ar randdirymiad yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n galluogi defnyddio dull arall, heblaw am archwilio dannedd, i bennu oedran defaid adeg eu lladd.

Y cynnig yw cyflwyno system ddewisol newydd ar gyfer pennu oedran defaid. Byddai hyn yn golygu bod defaid a aned yn y flwyddyn galendr flaenorol ac a anfonwyd i'w lladd yn y flwyddyn galendr yn dilyn eu geni cyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin, yn cael eu hystyried yn iau na blwydd oed ac felly ni fyddai angen tynnu llinyn y cefn, gan na fyddai’n cael ei ystyried i fod yn ddeunydd risg penodedig.

Pecyn ymgynghori  

Darllenwch y pecyn ymgynghori a dysgu sut i ymateb. (Yn agor mewn ffenestr newydd) 

Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion

O fewn tri mis i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EF. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.