Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diwygiadau i Reoliad a gymathwyd 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae hwn yn ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i ddiweddaru’r rhestrau o fewn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd 2019/1793 (“Rheoliad 2019/1793”) sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 March 2024

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban.

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad yw ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig i ddiweddaru’r rhestrau yn Atodiadau i Reoliad 2019/1793.

Sut i ymateb

Dylid ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy anfon neges â’r teitl ‘Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793’  erbyn 5pm, ddydd Iau 25 Ebrill 2024 i lasupportwales@food.gov.uk (yng Nghymru) neu imported.food@food.gov.uk (yn Lloegr).

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae’n ofynnol i’r awdurdod priodol adolygu’r rhestrau a nodir yn yr Atodiadau i’r Rheoliad yn rheolaidd er mwyn ystyried gwybodaeth newydd sy’n ymwneud â risgiau a diffyg cydymffurfio. Mae’r awdurdodau priodol ym Mhrydain Fawr yn gyfrifol am ddiweddaru’r ddeddfwriaeth ar fwyd wedi’i fewnforio yn ôl yr angen. Yr awdurdodau priodol yw Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, a Gweinidogion yr Alban yn yr Alban, a chaiff Gweinidogion Gogledd Iwerddon eu hysbysu’n rheolaidd.  

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cynnal adolygiad ar y cyd o’r rhestrau sydd wedi’u cynnwys yn yr Atodiadau i Reoliad 2019/1793. Bydd diweddaru’r rhestrau yn galw am osod Offeryn Statudol ar gyfer pob gwlad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).

Cyflawnir yr adolygiad hwn trwy broses dadansoddi risg ar y cyd rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban fel y gall Gweinidogion wneud penderfyniadau rheoli risg ar sail argymhellion yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban.

Dylid nodi mai dim ond ym Mhrydain Fawr y bydd penderfyniadau mewn perthynas â’r rhestrau o fwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd sy’n destun rheolaethau manylach yn Rheoliad 2019/1793, a newidiadau iddynt, yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Mae’r ASB/FSS yn parhau i sicrhau bod defnyddwyr ar draws y DU yn elwa ar yr un lefel o amddiffyniad cadarn i iechyd y cyhoedd, hyd yn oed lle gallai’r rheolau fod ychydig yn wahanol. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau mynediad dilyffethair Gogledd Iwerddon i farchnad Prydain Fawr, ni fyddai’r un o’r cynigion isod mewn unrhyw fodd yn cyflwyno gwiriadau neu reolaethau newydd ar nwyddau Gogledd Iwerddon cymwys sy’n symud o ynys Iwerddon i Brydain Fawr.

Rheolaethau cyfredol

Gellir mewnforio’r rhan fwyaf o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr heb reolaethau ychwanegol, uwch. Fodd bynnag, dim ond trwy Safleoedd Rheoli ar y Ffin dynodedig priodol y gall mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad ydynt yn dod o anifeiliaid o wledydd penodol ddod i mewn i’r DU lle bo rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal, fel archwiliadau dogfennol, adnabod, a ffisegol, gan gynnwys samplu(footnote).  Ystyr cynnyrch risg uwch yw bwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi’i nodi naill ai fel risg hysbys neu risg sy’n dod i’r amlwg neu oherwydd bod tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio difrifol a helaeth â deddfwriaeth cadwyn bwyd-amaeth y DU. Gall hyn fod oherwydd presenoldeb pathogenau, halogion, a thocsinau, gan gynnwys afflatocsinau.

Mae Rheoliad 2019/1793 yn nodi, yn ei Atodiadau, restrau o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n destun rheolaethau uwch wrth y ffin.

Mae llwythi bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad I i Reoliad 2019/1793 yn destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn Safleoedd Rheoli ar y Ffin wrth gyrraedd Prydain Fawr trwy safleoedd rheoli.

Mae Atodiad II i Reoliad 2019/1793 yn nodi’r rhestr o lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol sy’n destun amodau mynediad arbennig ar gyfer Prydain Fawr oherwydd risg halogiad gan fycotocsinau (gan gynnwys afflatocsinau), gweddillion plaladdwyr, pentacloroffenol a diocsinau, a halogiad microbiolegol.

Mae’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad IIa wedi’u hatal rhag dod i mewn i Brydain Fawr.

Adolygiad

Roedd yr adolygiad yn dilyn y broses dadansoddi risg a sefydlwyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Cafodd bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio o wledydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid eu nodi i’w hasesu gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a hynny’n seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd. Roedd y nwyddau hyn a fewnforiwyd yn destun asesiad o’r risgiau i iechyd pobl; gwnaed hyn fesul categori risg. 
 Ystyriwyd canlyniadau’r categoreiddio risg, ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall, gan reolwyr risg yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a swyddogion polisi wrth wneud cynigion ar gyfer argymhellion o ran newidiadau mewn rheolaethau swyddogol. Mae’r holl argymhellion a gynigir wedi’u seilio ar wyddoniaeth a thystiolaeth.

Mae’r holl argymhellion wedi’u datblygu a’u hystyried drwy weithgor arbenigol pedair gwlad, yn unol â’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, a’u cynnig gan swyddogion yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Prif argymhellion

Mae’r gweithgor arbenigol wedi gwneud cyfres o argymhellion ynghylch nwyddau yr ydym argymell newid lefel y rheolaethau swyddogol ar gyfer rhai mathau o fwyd a bwyd anifeiliaid o wledydd penodol. Mae’r argymhellion i’w gweld yn yr adran ‘effeithiau’ yn y ddogfen hon. Pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes angen mwy o reolaethau swyddogol ar rai nwyddau bellach oherwydd bod y risg wedi’i rheoli’n effeithiol trwy gydymffurfiaeth well, rydym yn argymell y dylai’r nwyddau hynny gael eu tynnu oddi ar y rhestr, tra dylai’r amlder gwirio gynyddu neu leihau ar gyfer rhai nwyddau yn dibynnu ar lefel y risg a berir. Argymhellir addasiadau er mwyn adlewyrchu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan sicrhau bod gan ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr fynediad o hyd at fwyd a fewnforir sy’n ddiogel.

Rydym yn bwriadu cyflwyno’r argymhellion hyn i Weinidogion. Mae diogelwch bwyd yn fater datganoledig, a bydd y penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Weinidogion ym mhob un o’r gwledydd datganoledig.

Pan fydd Gweinidogion yn cytuno ar argymhellion, bydd angen is-ddeddfwriaeth ym mhob gwlad i ddiwygio Rheoliad 2019/1793. Y bwriad yw y bydd deddfwriaeth i weithredu canlyniad yr adolygiad hwn yn dod i rym ddiwedd 2024.

Effeithiau

Mae’r argymhellion arfaethedig yn cynnwys 25 o ddiweddariadau unigol i’r rhestrau sydd wedi’u cynnwys yn Atodiadau I a II. Cânt eu hegluro yn y tabl isod, ac maent wedi’u crynhoi fel a ganlyn:

  • dylid tynnu 1 grŵp cynnyrch (Cnau daear o Frasil ar gyfer gweddillion plaladdwyr), sy’n cynnwys 7 nwydd ar wahân, o gwmpas y rheolaethau. Rydym wedi bod yn monitro lefelau cydymffurfiaeth y grŵp hwn ers eu rhestru yn yr Atodiadau. Mae data a gafwyd trwy ein System Rhybuddio Cynnar (EWS) a thrwy hysbysiadau ffiniau a hysbysiadau eraill yn dangos bod lefel y risg wedi lleihau yn sylweddol. Ar sail ein hasesiad o’r data, rydym o’r farn nad oes angen rheolaethau uwch mwyach ar y grŵp gan ei fod yn dangos gyda lefel uchel o sicrwydd y byddai tynnu’r rheolaethau hyn yn peri risg ddibwys i iechyd y cyhoedd.
  • dylai 4 nwydd (Gwm Guar (Pentacloroffenol a deuocsinau), Nytmeg ar gyfer Afflatocsinau, Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum ar gyfer Afflatocsinau a hadau Sesamum ar gyfer gweddillion plaladdwyr oll o India) fod yn destun llai o wiriadau. Wedi i ni gynnal y lefel uchaf o reolaethau uwch ar y nwyddau hyn dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi casglu digon o ddata i’n gwneud yn fwyfwy hyderus bod lefel y cydymffurfio yn gwella. Dylai’r cynhyrchion hyn fod yn destun y lefel hon o fonitro nes ein bod wedi’n bodloni bod y risg a berir wedi lleihau ymhellach.
  • dylai 2 nwydd (Te o Tsieina ar gyfer gweddillion plaladdwyr a hadau Sesamum o India ar gyfer Salmonela) fod yn destun mwy o reolaethau uwch, am fod gennym bryderon ynghylch y risg maen nhw’n ei pheri i iechyd y cyhoedd. Mae’r nwyddau hyn wedi bod yn destun monitro a gwyliadwriaeth yn Safleoedd Rheoli ar y Ffin Prydain Fawr dros sawl blwyddyn. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r rheolaethau hyn, yn ogystal â data o wledydd eraill, yn dangos nad yw lefelau diffyg cydymffurfio’n gwella. Felly, ystyrir bod rheolaethau llymach, sy’n rhoi’r pwyslais ar y wlad sy’n allforio i roi sicrwydd ynghylch y cynnyrch, yn briodol ar hyn o bryd.  
  • cyflwyno 15 o nwyddau newydd (Cymysgedd o gnau, Pâst cnau cyll ac olew cnau cyll o Georgia ar gyfer Afflatocsinau; hadau cwmin, hadau cwmin wedi’u gwasgu neu wedi’u malu, dail Fenugreek a ffa Yardlong o India ar gyfer gweddillion plaladdwyr; Basil a Mint o Israel ar gyfer gweddillion plaladdwyr; Mukunuwenna o Sri Lanka ar gyfer gweddillion plaladdwyr; Grawnffrwyth o Dwrci ar gyfer gweddillion plaladdwyr, hadau Sesamum a Tahini a halva o hadau sesame o Dwrci ar gyfer Salmonela; pâst cnau daear o Fadagascar ar gyfer Afflatocsinau; Pâst cnau daear o’r Ariannin ar gyfer Afflatocsinau) y dylent fod yn destun rheolaethau oherwydd pryderon eu bod yn peri risg i iechyd y cyhoedd. Mae’r nwyddau hyn wedi’u nodi trwy EWS yn ogystal â data samplu a gwybodaeth o ffynonellau eraill. Bydd y cynhyrchion yn destun lefel gymesur o fonitro yn Safleoedd Rheoli ar y Ffin Prydain Fawr i gasglu tystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio i ddod i benderfyniad, sef naill ei eu tynnu o’r rheolaethau yn gyfan gwbl neu gynyddu lefel y gwiriadau a gynhelir.
  • bydd 3 nwydd (Cnau Cyll wedi’u paratoi neu wedi’u cadw, gan gynnwys cymysgeddau o Georgia ar gyfer Afflatocsinau); Granadila a Passion Fruit o Colombia ar gyfer gweddillion plaladdwyr a Bananas o Ecuador ar gyfer gweddillion plaladdwyr) sydd eisoes dan reolaeth yn cael codau CN wedi’u diweddaru, gan ymestyn yr ystod o nwyddau sy’n destun gwiriadau ar y ffin.

Mae’r nwyddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 2019/1793 yn cael eu rheoli dros dro er mwyn helpu i bennu a allai fod angen mesurau llymach yn ddiweddarach. O’r herwydd, mae unrhyw effeithiau yn debygol o fod yn rhai byrdymor. Mae’r nwyddau a restrir yn Atodiad II i Reoliad 2019/1793 yn fwy sefydlog eu natur, ond cânt eu cynnwys yn yr adolygiad a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Unwaith y bydd y lefel risg yn newid, bydd lefel y rheolaeth yn cael ei diwygio. Mae’r penderfyniadau ar y nwyddau a restrir yn yr Atodiadau i Rheoliad 2019/1793 wedi’u seilio ar risg, ac felly maent yn ymwneud â’r wlad tarddiad benodol yn unig. Felly, gall mewnforwyr Prydain Fawr fewnforio o wledydd eraill ar draws y byd nad yw eu cynhyrchion wedi’u nodi fel rhai ‘risg uchel’ a lle nad yw rheolaethau mewnforio uwch yn berthnasol.

Mae’n debygol y bydd costau ymgyfarwyddo i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd mewn perthynas â’r diweddariadau rheolaidd, ac rydym yn disgwyl i’r costau fod yn isel. Gellir adennill costau cynnal rheolaethau swyddogol ar y ffin trwy godi ffioedd a thaliadau. Dim ond trwy Safleoedd Rheolaethau’r Ffin sydd eisoes wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr y gellir mewnforio nwyddau risg uchel.

Bydd busnesau sy’n dymuno mewnforio cynhyrchion sy’n destun gwiriadau uwch (naill ai oherwydd eu bod wedi’u symud o Atodiad 1 i Atodiad 2 neu eu bod yn ychwanegiadau cwbl newydd i’r naill Atodiad neu’r llall) yn wynebu cost ychwanegol am wneud hynny, gan fod Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd fel arfer yn codi tâl ar fusnesau sy’n mewnforio er mwyn cynnal rheolaethau swyddogol. Mae angen gwiriadau ychwanegol ar gyfer y cynhyrchion a restrir yn Atodiad 2 o gymharu ag Atodiad 1. Fodd bynnag, mae’r taliadau hyn yn gymharol fach a gall busnesau hefyd ddewis mewnforio o wledydd eraill lle nad yw rheolaethau mewnforio’n gymwys, os nad ydynt am ysgwyddo’r taliadau.

Mae disgwyl hefyd i’r effeithiau fod yn fach iawn yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw Safleoedd Rheoli ar y Ffin yng Nghymru wedi’u dynodi ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Felly, ni fydd y costau ymgyfarwyddo sy’n berthnasol yn Lloegr yn berthnasol yng Nghymru.  

Prif fantais y newidiadau yw lleihau’r risg i iechyd y cyhoedd, gan fod y rheolaethau wedi’u targedu ac yn seiliedig ar risg. Mae’n anodd iawn rhoi gwerth ariannol ar y fantais hon. Er ei bod yn bosib nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio trwy fonitro a gwaith gwyliadwriaeth, mae’n anodd iawn priodoli unrhyw achosion o glefydau a gludir gan fwyd neu salwch i’r cynhyrchion risg uchel a fewnforir, o ystyried yr amrywiaeth o ffactorau drysu eraill sydd ar waith.

Nodir y bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn yr Atodiadau ar sail y codau o’r Dull Enwi Cyfun a’r is-adran TARIC.

Mae’r diwygiadau arfaethedig wedi'u nodi yn y Tabl: Atodiad I, yn y pecyn ymgynghori PDF.

Mae Atodiad II ac Atodiad IIa hefyd yn y pecyn ymgynghori Pdf atodedig.

England and Wales

Nodiadau

  • Nodir y cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiadau I, II a IIa o’r rheolaethau swyddogol ar sail y codau o’r Dull Enwi Cyfun a’r is-adran TARIC a geir yn yr Atodiadau. Mae’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys gwaith samplu a dadansoddi yn y labordy, a restrir yn yr Atodiadau i’w cynnal ar amlder a nodir yn yr Atodiadau.
  • Mae llwythi bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad I i Reoliad 2019/1793 yn destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau wrth gyrraedd Prydain Fawr ac mewn mannau rheoli. Mae Atodiad II i Reoliad 2019/1793 yn nodi’r rhestr o lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol sy’n destun amodau mynediad arbennig ar gyfer Prydain Fawr oherwydd risg halogiad gan fycotocsinau, gan gynnwys afflatocsinau, gweddillion plaladdwyr, pentacloroffenol a diocsinau, ac oherwydd halogiad microbiolegol. Mae’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad IIa wedi’u hatal rhag dod i mewn i Brydain Fawr.

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

  1. A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar yr argymhellion o ran gwlad tarddiad/nwyddau a gynigir i ddiweddaru’r rhestrau?
  2. A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw effeithiau y gallai’r diweddariadau arfaethedig i nwyddau eu cael sydd heb eu nodi yn yr ymgynghoriad hwn?

Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan ddydd Iau 25 Ebrill 2024. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli). Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, cynhelir adolygiad o’r canlyniadau a chyhoeddir adroddiad ymgynghori, gyda’n hargymhellion terfynol i’r Gweinidogion priodol.

    Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

    Atodiad A: Rhestr o bartïon â buddiant

    • Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
    • Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr
    • Cymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (APHA)
    • Grŵp Porthladdoedd Mawr y DU
    • Gweithredwyr Meysydd Awyr y DU
    • Cynrychiolwyr Cynnyrch Ffres
    • Cynrychiolwyr Diwydiant Lletygarwch y DU
    • Cynrychiolwyr Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
    • Cynrychiolwyr Mewnforwyr Bwyd Prydain
    • Sefydliadau pecynnu
    • Archfarchnadoedd y DU
    • Cynrychiolwyr siopau cyfleustra
    • Consortiwm Manwerthu Prydain
    • Which?

    Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

    O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

    Mwy o wybodaeth

    Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.