Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diwygiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad sy’n ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793. Byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

Crynobed o ymatebion rhanddeiliaid 17 Gorffennaf 2023 i 28 Awst 2023: Diwygiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban. 

Pwnc yr ymgynghoriad 

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau o fewn Rheoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diben yr ymgynghoriad 

Ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 (y Rheoliad). 

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol  a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd. 

Pecyn ymgynghori ar gyfer Diwygiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid (fersiwn hygyrch ar-lein) 

England and Wales

Sut i ymateb 

Dylid ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy anfon neges â’r teitl ‘Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793’ i LASupportWales@food.gov.uk (yng Nghymru) neu imported.food@food.gov.uk (yn Lloegr).

Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan ddydd Llun, 28 Awst 2023. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, cynhelir adolygiad o’r canlyniadau a chyhoeddir adroddiad ymgynghori, gyda’n hargymhellion terfynol i’r Gweinidogion priodol.

Ymatebion

Mae angen ymatebion erbyn 5pm ddydd Llun, 28 Awst 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch eich ymateb, gyda’r teitl ‘Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793’ i LASupportWales@food.gov.uk (Cymru) neu imported.food@food.gov.uk (Lloegr).

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgyngoriadau.

Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Yn gywir,

Olivia Citrone, Rheolwr Mewnforion ac Allforion, ASB Cymru
David Lowe, Pennaeth Strategaeth Mewnforion, ASB Lloegr

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.