Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Dull arfaethedig at ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ddomestig Cymru ar gyfer hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau ynghylch cyfansoddiad bwyd a labelu

Penodol i Gymru

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y dull arfaethedig at ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ddomestig Cymru ar gyfer hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau ynghylch cyfansoddiad bwyd a labelu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 September 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 September 2019

Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Awdurdodau gorfodi, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, manwerthwyr cynhyrchion bwyd a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. 

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â diwygiadau technegol arfaethedig i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n berthnasol yng Nghymru i hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau ynghylch cyfansoddiad bwyd a deddfwriaeth labelu i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon barhau i weithredu ar ôl i'r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE).  

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Rhoi cyfle i randdeiliaid roi sylwadau ar ein cynigion i wneud cywiriadau technegol i'r ddeddfwriaeth ddomestig berthnasol, ac ar ein dewisiadau ar gyfer y cywiriadau mwy sylweddol a allai fod eu hangen mewn perthynas â safonau ynghylch cyfansoddiad bwyd a labelu. 

Pecyn yr ymgynghoriad

Wales

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn at:

Kerys James-Palmer
Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd

E-bost: food.policy.wales@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.