Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Lladd Da Byw Gartref – Adolygu'r canllawiau i'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi newid ei chanllawiau ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith mewn perthynas â lladd da byw gartref.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Awst 2019

Crynodeb o ymatebion

Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?

  • Perchnogion da byw sy'n ystyried lladd ar y fferm at eu defnydd personol eu hunain (gan gynnwys aelodau o'u teulu agos sy'n byw yno)
  • Lladdwyr anifeiliaid trwyddedig sy'n darparu gwasanaethau lladd gartref
  • Swyddogion gorfodi awdurdodau lleol

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?

Canllawiau diwygiedig yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith mewn perthynas â lladd anifeiliaid gartref. "Lladd Gartref" yw lladd anifail da byw gan ei berchennog ar ei safle ei hun i'w fwyta ganddo neu gan aelodau o'r teulu agos sy'n byw yno. 

Mae'r Canllawiau 'Lladd Da Byw Gartref – Canllaw i'r Gyfraith yng Nghymru a Lloegr' wedi'u diweddaru, yn bennaf i adlewyrchu'r newidiadau i'r rheolau lles anifeiliaid yn Rheoliad y Cyngor (CE) 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd, gan alluogi person cymwys i ladd anifeiliaid ar ran y perchennog ar eiddo'r perchennog, at ddefnydd domestig preifat.  

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Ceisio barn rhanddeiliaid ar eglurder y diweddariadau i'r canllawiau diwygiedig a'n hasesiad o effaith y diwygiadau hyn.  

Yn benodol, byddem ni'n croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y pethau hyn: 

  • A yw'r canllawiau'n cynnwys digon o wybodaeth i helpu pobl i gydymffurfio â'r gyfraith?
  • A yw'r cyngor arfer gorau yn y canllawiau wedi'i nodi'n glir? 
  • A yw'r canllawiau yn glir ac yn hawdd eu dilyn?
  • A yw ein hasesiad o effaith y diweddariadau yn ddigonol?

 

Pecyn yr ymgynghoriad

England and Wales

Safbwyntiau a sylwadau

A fyddech cystal ag anfon unrhyw safbwyntiau a sylwadau at:

E-bost: Moira.Williams@food.gov.uk
Ffôn: 07554 223229  

Neu drwy'r post:

Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 6
Clive House
70 Petty France
Llundain/London
SW1H 9EX

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.