Crynodeb o ymatebion
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Bu gofyniad hirsefydlog gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE/1258/2011) yn gofyn i aelod-wladwriaethau rannu canlyniadau monitro nitradau mewn llysiau gwyrdd deiliog yn flynyddol, ac adrodd ar waith y diwydiant yn mabwysiadu codau ymarfer amaethyddol da.
Yn flaenorol, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ariannu'r gwaith o fonitro’n barhaus lefelau nitradau mewn llysiau gwyrdd deiliog dros gyfnod o fwy nag un-ar-ddeg mlynedd. Mae canlyniadau’r arolwg diwethaf, sef y cyfnod rhwng 2014 a 2019 ac arolygon monitro cynharach, wedi’u cyhoeddi.
Mae arolwg newydd yn cael ei gomisiynu i fonitro lefelau nitrad meinwe mewn llysiau gwyrdd deiliog a dyfir yn y cartref. Bydd yr arolwg yn darparu cipolwg ar gyfraddau cydymffurfio’r Deyrnas Unedig (DU) gyda’r lefelau uchaf deddfwriaethol a osodir yn Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 1258/2011 ar 2 Rhagfyr 2011 yn diwygio Rheoliad (CE) Rhif 1881/2006 o ran y lefelau uchaf ar gyfer nitradau mewn bwyd.
Mae'r dull yn wahanol i arolygiadau blaenorol gan y bydd ond yn cynnwys cynnyrch a dyfir yn y cartref. Bydd llai o bwyslais ar y categorïau hynny lle gwelwyd dirywiad cyson yn nifer y nitradau fel letys ‘iceberg’ a mwy o ffocws ar roced lle mae lefelau'n parhau i gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd hefyd cynnydd yn y samplu ar gyfer bresych deiliog (kale), ysgallddail (chard), dail ‘bulls-blood’, berwr tir a dail bach er mwyn ymchwilio sut mae lefelau nitradau yn amrywio yn y categorïau hyn wrth i gyfran y farchnad gynyddu.
Rydym ni’n gwahodd eich sylwadau ar ddyluniad yr arolwg a sut y gellid defnyddio'r data i nodi mesurau lliniaru posibl i leihau lefelau nitradau ymhellach.
Dylid anfon yr holl sylwadau at ian.smith@food.gov.uk
Gofynnir yn garedig am ymatebion erbyn 13 Mawrth 2020 neu'n gynharach os yw’n bosibl.
Cwmpas yr arolwg arfaethedig
Cesglir samplau yn ystod y broses cynhyrchu cynradd gan y rheiny sy’n tyfu’r llysiau wedi’u recriwtio yn y DU. Dylai'r cynnyrch sy’n cael ei samplu gynnwys:
- Letys ffres; math ‘iceberg’;
- Letys ffres, math nad yw'n ‘iceberg’;
- Sbigoglys ffres;
- Roced;
- Llysiau gwyrdd deiliog eraill (ysgallddail, bull-blood, dail bach, berwr tir a bresych deiliog)
Bydd y samplau maes yn gynrychioliadol o'r gwahanol ffyrdd o dyfu e.e. yn yr awyr agored ac wedi'u gwarchod ar gyfer tymhorau tyfu'r haf a'r gaeaf, sy'n nodweddiadol o'r sector cnydau salad domestig
Rhaid i'r fanyleb gynnwys
- Casglu a dadansoddi 150 o samplau maes unigol o letys ‘iceberg’ ffres a dyfir yn y cartref, letys ffres nad yw'n ‘iceberg’, sbigoglys ffres a roced ar raddfa genedlaethol yn flynyddol am hyd at bum mlynedd gyda seibiant ar ôl yr ail flwyddyn i adolygu cynnydd;
- Llysiau gwyrdd deiliog eraill, yn benodol, ysgallddail, bulls-blood, dail bach, berwr tir a bresych deiliog fel elfen o'r arolwg;
- Paratoi a dadansoddi'r samplau gan ddefnyddio gweithdrefnau yn unol â chyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd neu gyfwerth yn y DU;
- Bydd manylion llawn pob sampl yn cael eu cofnodi mewn cronfa ddata ac yn cael eu hadrodd yn flynyddol i'r ASB ynghyd â methodolegau, canlyniadau a dehongliad llawn gan gynnwys tueddiadau tymor hir, yng nghyd-destun y lefelau uchaf o nitradau a nodir yn neddfwriaeth y DU ar ffurf adroddiad blynyddol ac adroddiad terfynol ar ddiwedd cyfnod yr arolwg;
- Bydd crynodebau misol o ganlyniadau yn cael eu hadrodd i'r ASB a bydd canlyniadau sampl unigol yn cael eu hysbysu i’r tyfwyr llysiau sy'n cymryd rhan;
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym ni’n gobeithio cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad a darparu dolen i’r crynodeb o’r dudalen hon.
Yn unol ag egwyddor yr Asiantaeth o fod yn agored, byddwn yn cadw copi o'r ymgynghoriad a'r ymatebion llawn, a fydd ar gael i'r cyhoedd ar gais. Gallai’r crynodeb o'r ymatebion hefyd gynnwys data personol, fel eich enw llawn. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw ddata personol arall oni bai y ceir cais am yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau, ewch ati i lenwi a dychwelyd y Ffurflen Cyhoeddi Data Personol. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EM. Os oes Asesiad Effaith wedi cael ei gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os nad oes Asesiad Effaith wedi cael ei ddarparu, bydd y rheswm yn cael ei nodi yn y ddogfen ymgynghori.