Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Proses arfaethedig ar gyfer awdurdodi diberfeddiad gohiriedig a diberfeddiad rhannol dofednod

Proses arfaethedig ar gyfer awdurdodi diberfeddiad gohiriedig a diberfeddiad rhannol dofednod yn lladd-dai dofednod cymeradwy’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2023

Am yr ymgynghoriad hwn

Cynulleidfa'r ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i ladd-dai dofednod cymeradwy’r ASB (pob rhywogaeth dofednod), a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb.

Diben yr ymgynghoriad

Rhoi’r cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar gynigion i awdurdodi Gweithredwyr Busnes Bwyd yn lladd-dai cymeradwy’r ASB i gynnal diberfeddiad gohiriedig a diberfeddiad rhannol dofednod.

Efallai y bydd rhanddeiliaid am ystyried y pwyntiau canlynol wrth ddarllen ac ymateb:

  • A ydych yn cytuno â chynigion yr ASB ynghylch awdurdodi sefydliadau ar gyfer cynhyrchu dofednod diberfeddiad gohiriedig?
  • A ydych yn cytuno â chynigion yr ASB ynghylch awdurdodi sefydliadau ar gyfer cynhyrchu dofednod diberfeddiad rhannol neu effilé?
  • Ystyrir bod y costau i’r diwydiant yn ddibwys. Fodd bynnag, byddem yn croesawu barn rhanddeiliaid ar yr effaith ar Weithredwr Busnes Bwyd os caiff y gweithdrefnau hyn eu rhoi ar waith yn ffurfiol.

Pecyn yr ymgynghroiad

England, Northern Ireland and Wales

Sylwadau a safbwyntiau

Cymru a Lloegr

I gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ewch ati i lenwi holiadur yr ymgynghoriad:

Os ydych am ymateb i’r ymgynghoriad drwy e-bost neu’n ysgrifenedig, defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol:

E-bost: csulondontransactions@food.gov.uk

Ffôn: 020 7276 8829

Corporate Support Unit
Food Standards Agency
7th Floor, Clive House
70 Petty France
London
SW1H 9EX

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.