Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y rheoliadau drafft ar gyfer Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018
Manylion yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i awdurdodau gorfodi, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr cynhyrchion bwyd.
Pwnc yr ymgynghoriad
Drafftio Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Dirymiadau) (Cymru) 2018 i:
- I) Ddarparu ar gyfer gorfodi, yng Nghymru, ddiwygiad a wnaed i Gyfarwyddeb 2001/112/CE sy'n ymwneud â sudd ffrwythau a chynhyrchion tebyg gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 1040/2014;
- II) Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i dynnu sylw busnesau at Reoliad (UE) Rhif 2017/2158 ar acrylamid;
- III) Gwneud diwygiadau a dirymiadau amrywiol eraill i nifer o Offerynnau Statudol i sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn gywir ac yn gyfredol mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid cyn i'r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Diben yr ymgynghoriad
Rhoi cyfle i randdeiliaid gynnig sylwadau ar y Rheoliadau drafft. Mae'r Rheoliadau wedi'u seilio ar yr opsiwn a ffefrir fel a ganlyn:
- I) Darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 1040/2014 yng Nghymru;
- II) diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i dynnu sylw at Reoliad (UE) Rhif 2017/2158 ar acrylamid;
- III) Gwneud diwygiadau a dirymiadau amrywiol eraill i sawl Offeryn Statudol i sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn gywir ac yn gyfredol mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid cyn i'r DU ymadael â'r UE.
Pecyn yr ymgynghoriad
Wales
Sylwadau a safbwyntiau
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Kerys James-Palmer
Llawr 11,
Tŷ Southgate,
Wood Street,
Caerdydd, CF10 1EW
Ffôn: 02920 678912
E-bost: food.policy.wales@food.gov.uk
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.