Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020
Ymgynghoriad i ofyn am sylwadau gan randdeiliaid ar y cynnig i greu Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.
Crynodeb o ymatebion
Wales
I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?
Busnesau bwyd anifeiliaid, awdurdodau gorfodi lleol, a rhanddeiliaid perthnasol eraill, a allai fod â diddordeb yn y polisi a'r ddeddfwriaeth ar fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (PARNUTS).
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Bydd Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid arfaethedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 yn gorfodi Rheoliad (UE) 2020/354 ar sefydlu rhestr o ddefnyddiau arfaethedig o fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol a diddymu Cyfarwyddeb 2008/38/EC yng Nghymru.
Pwrpas yr ymgynghoriad
Ceisio sylwadau gan randdeiliaid ar gynnig yr Asiantaeth Safonau Bwyd am offeryn statudol i weithredu a gorfodi Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.
Pecyn ymgynghori
Wales
Sut i ymateb
Mae'n rhaid i ymatebion ddod i law erbyn 13 Tachwedd 2020.
Anfonwch unrhyw sylwadau a safbwyntiau at:
Adam McDowell
Tîm Polisi Rheoleiddio
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Ffôn: 02920 67 8999
E-bost: Adam.McDowell@food.gov.uk
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.