Ymgynghoriad ar awdurdodi 4 cynnyrch bwyd rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, 15 Rhagfyr 2025
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynnig arfaethedig i awdurdodi 4 bwyd newydd.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban (FSS).
Pwnc yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer y canlynol:
- ymestyn y defnydd o’r bwyd newydd awdurdodedig, olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA
- awdurdodiad newydd ar gyfer 2'-ffiwcosylactos (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))
- awdurdodiad newydd ar gyfer halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))
- awdurdodiad newydd ar gyfer halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))
Diben yr ymgynghoriad
Wrth ymgynghori, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiadau arfaethedig a’r telerau ar gyfer eu cynnig neu ofynion labelu, ac ar unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd ac ati) fel y’u nodwyd. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau y gwahoddir chi i ymateb iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhellion rheoli risg a’r asesiadau diogelwch. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y dudalen ganlynol:
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:
- E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
- Enw: Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig
- Is-adran/Cangen: Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w Rhoi ar y Farchnad
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein Hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch o’r ddogfen hon, anfonwch fanylion at RPconsultations@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU. Mae’r effeithiau posib mewn perthynas â’n cynigion wedi’u trafod yn y ddogfen ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Hanes diwygio
Published: 10 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2025