Adroddiad blynyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn tynnu sylw at heriau parhaus o ran diogelwch a safonau bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ‘Ein Bwyd’, sy’n adolygu diogelwch a safonau bwyd ledled y DU ar gyfer 2024. Dyma’r pedwerydd adroddiad ers i’r DU ymadael â’r UE, ac mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn gweithredu fel asesiad blynyddol annibynnol o safonau bwyd ar draws y pedair gwlad.
Ar y cyfan, roedd safonau diogelwch a dilysrwydd bwyd yn sefydlog yn 2024, ond mae sawl agwedd ar y system fwyd yn parhau i fod dan bwysau sylweddol. Nid oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau o hyd i fynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol o arolygiadau, nac i ddelio â’r nifer cynyddol o fusnesau bwyd newydd y dylid eu harolygu. Bu cynnydd o ran rhoi gwiriadau dogfennol a ffisegol ar waith ar ein ffiniau. Fodd bynnag, byddai data mwy cynhwysfawr a chywir yn caniatáu i ddefnyddwyr gael eu diogelu’n well. Mae hefyd yn dal i fod yn wir fod gormod o gartrefi yn ei chael hi’n anodd fforddio bwyd, a bod angen mwy o gamau gweithredu er mwyn gwella iachusrwydd y bwyd rydym yn ei fwyta.
Mae’r gostyngiad yng nghyfraddau samplu bwyd awdurdodau lleol, sy’n golygu eu bod bellach islaw’r lefelau hynny a welwyd cyn y pandemig, hefyd yn bryder gan fod ein gwaith samplu gwyliadwriaeth ein hunain yn dangos bod problemau labelu yn gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o ddiffyg cydymffurfio. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae yna enghreifftiau o hyd o gynhyrchion sy’n cynnwys alergenau nad ydynt wedi’u labelu’n gywir. Gall methu â nodi alergenau ar labeli fod yn beryg bywyd i’r defnyddwyr hynny sydd ag alergeddau bwyd. Mae angen i fusnesau roi mwy o sylw i gywirdeb labeli, yn enwedig ar gyfer alergenau.
Mae recriwtio Milfeddygon Swyddogol (OVs) wedi gwella ond mae’n parhau i fod yn heriol, ac mae angen piblinell recriwtio fwy cynaliadwy arnom i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal yn y diwydiant cig.
Mae diffyg diogeledd bwyd mewn cartrefi yn parhau i fod yn broblem sylweddol, gydag un o bob pump (21%) o gartrefi ledled y DU yn nodi eu bod â diffyg diogeledd bwyd yn 2024. Mae angen gwneud mwy i helpu pobl i fwyta deietau sy’n bodloni nodau iechyd, fel bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau y dydd. Mae mentrau ar draws pob un o’r pedair gwlad yn cynnig cyfleoedd i newid yr amgylchedd bwyd i un sy’n ffafrio dewisiadau bwyd iachach. Mae rhain yn cynnwys crynodeb Llywodraeth Cymru o bolisïau sy’n ymwneud â bwyd yn ei hadroddiad ‘Bwyd o Bwys: Cymru a’r Strategaeth Bwyd Gymunedol’, strategaeth fwyd arfaethedig Llywodraeth San Steffan a’i chynllun 10 mlynedd ar gyfer y GIG yn Lloegr, Cynllun ‘Good Food Nation’ Llywodraeth yr Alban a’i gwaith ar iechyd plant, a Fframwaith Strategaeth Bwyd Gogledd Iwerddon. Fel rheoleiddwyr, rydym yn barod i chwarae ein rhan i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Mae’r ASB ac FSS yn galw ar y llywodraeth, y diwydiant, a rheoleiddwyr i gydweithio i ymateb i’r risgiau hyn yn ein system fwyd, i gynnal safonau bwyd uchel, ac i gyflawni system fwyd sy’n gweithio i bawb.
“Mae’r flwyddyn hon yn nodi cerrig milltir arwyddocaol, sef 25 mlynedd ers sefydlu’r Asiantaeth Safonau Bwyd a degawd ers creu Safonau Bwyd yr Alban. Mae ein hymrwymiad cadarn i benderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a rhoi defnyddwyr yn gyntaf mor gryf heddiw ag yr oedd pan ddechreuon ni.
Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y newidiadau y gallem eu gweld yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn y dyfodol. Gyda chyhoeddiadau diweddar ar gydweithrediad agosach rhwng yr UE a’r DU, a chytundebau masnach newydd mewn mannau eraill yn y byd, ein dyletswydd yn yr ASB yw diogelu iechyd y cyhoedd drwy gynnal safonau bwyd uchel o hyd.
Ar ôl 25 mlynedd o weithredu fel Asiantaeth, mae bwyd diogel yn cael ei gymryd yn ganiataol i raddau helaeth gan ddefnyddwyr. Ond ni ddigwyddodd y newid rhyfeddol hwn o’r argyfwng hyder yn y 1990au trwy lwc – nid damwain a hap yw diogelwch bwyd. Yn hytrach, mae’n deillio o ddulliau rheoli da a’r ymdrech enfawr a pharhaus gan bawb sy’n gweithio yn y system fwyd. Fel y rheoleiddiwr, mae angen i ni chwarae ein rhan drwy nodi ein disgwyliadau, cefnogi eraill yn y system i gyflawni eu cyfrifoldebau, a chymryd camau cadarn pan fydd problemau’n codi. Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn gyfle i ni i gyd asesu’r sefyllfa ac adnewyddu ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel, ei fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a bod defnyddwyr yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am y bwyd maen nhw’n ei fwyta."
Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB
“Mae adroddiad eleni yn tynnu sylw at y pwysau parhaus ar draws ein system fwyd – mae pwysau ar adnoddau awdurdodau lleol, a’r anawsterau recriwtio sylweddol sy’n cyfrannu at y pwysau hynny, yn parhau, yn ogystal â lefelau annerbyniol o ddiffyg diogeledd bwyd mewn cartrefi. Mae safonau bwyd cyffredinol yn parhau i fod yn sefydlog, ond ni ddylem fod yn esgeulus o ystyried y blynyddoedd o danfuddsoddi ym maes capasiti a gallu. Mae angen i fwyd fod yn ddiogel, wedi’i ddisgrifio’n gywir, a chefnogi dewisiadau iachach, ac mae angen system arnom sy’n annog twf a masnach. Mae trywydd presennol yr adnoddau sydd ar gael yn peryglu hyn oll.
Yn yr Alban, mae’n rhaid i ni flaenoriaethu’r gwaith o fynd i’r afael â deietau gwael a lefelau gordewdra, felly rydym yn croesawu agenda Good Food Nation a fframwaith iechyd y cyhoedd. Mae’r rhain yn cyflwyno cyfleoedd pwysig i symud y ffocws at atal clefydau, ac yn cynnig fframwaith pwysig i wella canlyniadau bwyd i bawb. Bydd gwireddu ei botensial yn gofyn am gamau cydlynol, newid i’n hamgylchedd bwyd ac ymrwymiad hirdymor gan y llywodraeth, y diwydiant a rheoleiddwyr fel ei gilydd.
Heather Kelman, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban
Darllenwch yr adroddiad
Darllenwch yr adroddiad ar ein gwefan.