Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Ail-drefnu cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dilyn cyfnod o alaru cenedlaethol 

Mae cyfarfod Bwrdd yr ASB ym mis Medi, a ohiriwyd ar ôl marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, wedi’i aildrefnu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2022

Yn dilyn gohirio Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Medi oherwydd marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, dyma fanylion y cyfarfodydd nesaf:

  • Cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB, dydd Gwener 23 Medi rhwng 2pm a 4:50pm 
  • Cyfarfod Bwrdd yr ASB, dydd Llun 26 Medi rhwng 9am a 12:30pm.  

Yn dilyn marwolaeth y Frenhines, mae Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, wedi talu teyrnged i fywyd y ddiweddar frenhines a’i hymrwymiad i’w dyletswydd gyhoeddus:  

“Roedd gan y Frenhines yn bresenoldeb eithriadol trwy gydol ein bywydau.  
 
“Ar lefel bersonol, rydw i bob amser wedi edmygu ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus yn fawr. Mae hi wedi bod yn anrhydedd ei gwasanaethu.   
  
“Roedd ganddi ymrwymiad di-dor i eraill ac etheg gwaith anhygoel. Cyflawnodd dros 21,000 o ymrwymiadau yn ystod ei theyrnasiad a bu’n Noddwr i dros 500 o sefydliadau.  
 
“Bydd ei dylanwad yn parhau trwy’r bobl y mae hi wedi’u hysbrydoli, yr elusennau a gefnogodd, y sefydliadau y mae wedi’u llunio, ac wrth gwrs trwy ei mab a’i hetifedd, y Brenin Siarl III.”  
Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb

 

Sut i wylio cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes 

Bydd cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal ar-lein yn unig. I ymuno, cofrestrwch drwy’r ddolen hon: Cofrestru i wylio cyfarfodydd y Bwrdd ar Pwyllgor Busnes ar-lein.  

Cliciwch yma i weld agenda a phapurau’r Pwyllgor Busnes, a chliciwch yma i weld agenda a phapurau cyfarfod y Bwrdd.  

Mae modd cyflwyno cwestiynau am y papurau a fydd yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Llun 26 Medi tan hanner dydd ddydd Gwener 23 Medi drwy anfon e-bost at Board.Sec@food.gov.uk.