Arestio un dyn ac atafaelu cig y gwylltir anghyfreithlon fel rhan o ymgyrch yr NFCU
Mae ymgyrch dan arweiniad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) sy’n ymwneud â chig y gwylltir (‘bushmeat’) anghyfreithlon wedi arwain at arestio un person.
Aeth swyddogion yr NFCU sy’n rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ynghyd â Thîm Cymdogaeth Fwy Diogel Peckham Rye sy’n rhan o Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, i gyfeiriad yn ne-ddwyrain Llundain lle gwnaethon nhw atafaelu tua 11kg o rywogaethau cig y gwylltir, gan gynnwys llygod mawr y cansenni (‘cane rats’) ac antelopiaid.
Ystyr cig y gwylltir yw cig anifeiliaid gwyllt sydd wedi cael ei hela, yn aml o rywogaethau a geir mewn rhanbarthau trofannol.
Cafodd dyn 51 oed ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad.
Gwnaeth yr ymgyrch dargedu cynhyrchion cig sydd wedi’u mewnforio’n anghyfreithlon ac sy’n peri risgiau diogelwch bwyd posib i ddefnyddwyr.
Mae cig sy’n cael ei fewnforio’n anghyfreithlon yn osgoi’r gwiriadau diogelwch a hylendid trylwyr sy’n ofynnol ar gyfer bwyd a werthir yn y DU a gall y fath gig gario clefydau a halogion sy’n peryglu defnyddwyr.
Mae ymholiadau’n parhau.
“Mae’r NFCU wedi bod yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd ac arbenigwyr pwnc eraill i ganfod y rheiny sydd dan amheuaeth o fod yn rhan o’r drosedd hon.
Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o waith parhaus yr NFCU i darfu ar y fasnach cig anghyfreithlon ac atal cynhyrchion anniogel rhag cyrraedd y cyhoedd.
Mae’r ASB yn cynghori defnyddwyr i beidio â phrynu na bwyta cig sydd wedi’i fewnforio’n anghyfreithlon, gan gynnwys cig y gwylltir, oherwydd y gallai beri risgiau iechyd difrifol. Os oes gennych bryderon ynghylch cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch y bygythiad o gig anghyfreithlon yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, a byddwn yn parhau i gymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd.”