Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Arolwg adborth ar y wefan 2023

A oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella ein gwefan? Os felly, rydym am glywed gennych chi!

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 February 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 February 2023

Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi am ein gwefan, felly rydym wedi lansio arolwg dwyieithog byr i geisio eich adborth.  

Trwy lenwi ein harolwg dwyieithog byr, gallwch ein helpu ni i wneud y wefan hyd yn oed yn well ac yn haws ei defnyddio.

Rydym am sicrhau bod y wefan yn diwallu eich anghenion, felly mae eich adborth yn werthfawr iawn i ni. Dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd i'w lenwi.

Dyma ambell reswm dros gymryd yr amser i lenwi'r arolwg:

  • Mae eich safbwyntiau yn bwysig a gallant helpu i lywio’r wefan hon
  • Gallwch ein helpu ni i greu profiad gwell i bob defnyddiwr
  • Mae'n gyflym ac yn hawdd. Y cyfan sydd ei angen yw cyfrifiadur neu ddyfais symudol gyda mynediad at y rhyngrwyd

Mae’r arolwg dwyieithog yn cynnwys cwestiynau amlddewis yn bennaf, ond mae hefyd rai blychau sylwadau lle gallwch rannu eich barn a’ch safbwyntiau.

Bydd eich ymatebion yn gyfrinachol ac yn ddienw. Byddwn ond yn defnyddio’r atebion i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwefan a’n cynnwys. 

Peidiwch â cholli'r cyfle i fynegi eich barn. Llenwch ein harolwg adborth ar y wefan heddiw. Cliciwch ar 'Cymraeg' yn y ddewislen yn y gornel dde uchaf i lenwi'r arolwg yn Gymraeg.