Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Arolwg blaenllaw’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod dros hanner yr ymatebwyr yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd

Mae adroddiad newydd gan y llywodraeth yn dangos bod nifer y bobl sy’n bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd bron wedi dyblu yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 December 2023

Mae’r canfyddiadau wedi’u nodi yn adroddiad cyntaf Tueddiadau Bwyd a Chi 2, a gyhoeddwyd heddiw, sy’n amlinellu’r newidiadau yn agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr rhwng 2020 a 2023. 

Mae’r dadansoddiad diweddaraf yn dangos bod ychydig dros hanner yr ymatebwyr – 51% – bellach yn ‘bryderus iawn’ am fforddiadwyedd bwyd, sef cynnydd o 26% ers tair blynedd yn ôl.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion eraill sy’n ymwneud â bwyd. Mae’r arolwg, a gynhaliwyd am y tro cyntaf rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2020, yn cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn gyda defnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd cylch diweddaraf yr arolwg rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023.  

Mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos:

  • Bod canran yr ymatebwyr a oedd yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd bron wedi dyblu, o 26% yng Nghylch 2 (mis Tachwedd 2020 i fis Ionawr 2023) i 51% yng Nghylch 6 (mis Hydref 2022 i fis Ionawr 2023). 
  • Bod canran yr ymatebwyr a oedd yn poeni’n fawr neu’n poeni rhywfaint wedi cynyddu o 75% yng Nghylch 2 i 87% yng Nghylch 6 (mis Hydref 2022 i fis Ionawr 2023). 
  • Yn dilyn cyfnod o sefydlogrwydd, cynyddodd lefelau diffyg diogeledd bwyd yn y cartref (sy’n golygu cael mynediad cyfyngedig neu ansicr at fwyd digonol) o 15% yng Nghylch 3 (mis Ebrill 2021 i fis Mehefin 2021) i 25% yng Nghylch 6 (mis Hydref 2022 i fis Ionawr 2023). 
  • Mae hyder y cyhoedd o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd wedi parhau’n uchel ar draws pob cylch. 
  • Mae ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn yr ASB wedi parhau’n uchel ar draws pob cylch.

Dywedodd Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB: 

Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod y mwyafrif o bobl yn poeni am brisiau bwyd – gyda bron i ddwbl yr ymatebwyr yn dweud eu bod yn ‘poeni’n fawr’ am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â thair blynedd yn ôl. Yn ogystal â’r cynnydd mewn diffyg diogeledd bwyd yn y cartref, mae’r adroddiad yn dangos y frwydr parhaus y mae llawer o bobl yn ei hwynebu gyda chostau byw cynyddol.
 
“Byddwn yn rhannu’r mewnwelediadau hyn â’r llywodraethau yr ydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a San Steffan, fel y gallant eu defnyddio i lywio’r broses o lunio polisïau a mynd i’r afael â’r materion pwysig hyn.

Dyma rai o brif ganfyddiadau eraill yr adroddiad:

  • Mae hyder yr ymatebwyr bod y bwyd y maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta (cyfartaledd o 92% ar draws cylchoedd 1-6), a bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (cyfartaledd o 86% ar draws cylchoedd 1-6) wedi aros yn gyson uchel.
  • Ar draws pob cylch, dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus (hynny yw, yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd. 
  • Mae nifer yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd, a chymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd, wedi aros yn gyson uchel (rhwng 80-85%) ar draws cylchoedd 1-6.
  • Mae ymddiriedaeth ymatebwyr yn yr ASB hefyd wedi aros yn gyson uchel (rhwng 75 a 78%) ar draws cylchoedd 1-6. Mae canran yr ymatebwyr a nododd ddiffyg ymddiriedaeth yn yr ASB wedi parhau’n isel iawn (rhwng 1 a 2%), fesul cylch.

Mae gwiriwr ffeithiau wrth fwyta gartref yr ASB yn cynnwys ambell air o gyngor i ddefnyddwyr ar sut i helpu i wneud y mwyaf o’ch bwyd a chadw’n ddiogel. 

Darllen yr adroddiad       

Mae adroddiad Tueddiadau Bwyd a Chi 2 ar gael yn adran ymchwil ein gwefan (Saesneg yn unig).