Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Arolwg defnyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod hyder mewn diogelwch bwyd ar gynnydd

Mae hyder y cyhoedd mewn diogelwch bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu, yn ôl cylch diweddaraf arolwg defnyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Medi 2025

Canfu’r cylch diweddaraf o arolwg Bwyd a Chi 2, a gynhaliwyd rhwng Hydref 2024 a Chwefror 2025, fod 94% o’r ymatebwyr wedi dweud eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta. Mae hwn yn gyfran uwch nag yn y tri arolwg blaenorol, a ganfu fod rhwng 88-90% o’r ymatebwyr yn hyderus.

Dyma’r lefel uchaf o hyder yy cyhoedd mewn diogelwch bwyd a gofnodwyd ers dechrau’r prosiect Bwyd a Chi 2 yn 2020.

Mae hyder y cyhoedd hefyd wedi cynyddu mewn meysydd allweddol eraill. Dywedodd 86% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir, i fyny o 81-83% yn y tri arolwg blaenorol. Mae hyder defnyddwyr yn y gadwyn gyflenwi bwyd hefyd wedi codi i 77% o’r ymatebwyr yn yr arolwg diweddaraf, i fyny o rhwng 68-72% yn y tri arolwg blaenorol.

Dywedodd Prif Weithredwr yr ASB, Katie Pettifer:

Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod gan y cyhoedd hyder cryf mewn diogelwch bwyd, sy’n galonogol iawn.

Ein gwaith ni yw diogelu pobl drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac mae’r ymddiriedaeth hon yn adlewyrchu’r gwaith caled ar draws y system fwyd.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol, a’r llywodraeth ehangach i gynnal a chryfhau’r ymddiriedaeth hon.


Roedd yr adroddiad yn canfod bod 83% o’r ymatebwyr yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd, i fyny o 78-79% yn y tri arolwg blaenorol. Roedd 81% yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg, ac roedd 77% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd.

Dyma rai canfyddiadau pwysig eraill:

  • Y newidiadau mwyaf cyffredin i arferion bwyta a nodwyd gan yr ymatebwyr oedd bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (47%), dechrau bwyta mwy o ffrwythau a/neu lysiau (35%), a dechrau lleihau gwastraff bwyd (35%).
  • Dywedodd 70% o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd, a dywedodd 92% eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd.
  • Dywedodd 65% o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser yn gwirio dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn coginio neu baratoi bwyd, ac roedd 60% o’r ymatebwyr yn gywir i nodi y dylai tymheredd eu hoergell fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius.
  • Ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, cafodd 80% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd, a chafodd 20% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd. Yn y cyfamser, dywedodd 3% o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio banc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ynglŷn â’r adroddiad: 

Mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn ystadegyn swyddogol ac mae’n mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion bwyd eraill, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 10 rhwng 9 Hydref 2024 a 7 Chwefror 2025, a chwblhawyd yr arolwg gan 5,690 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 3,965 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae gwiriwr ffeithiau wrth fwyta gartref yr ASB yn cynnwys ambell air o gyngor i ddefnyddwyr ar sut i helpu i wneud y mwyaf o’ch bwyd a chadw’n ddiogel.  

Darllenwch y gwaith ymchwil:     

Mae adroddiad llawn Cylch 10 ar gael yn yr adran ymchwil ar ein gwefan.