Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Bwydydd y dyfodol a allai drawsnewid platiau’r DU erbyn 2035

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn nodi’r technolegau bwyd arloesol sydd fwyaf tebygol o gyrraedd defnyddwyr yn y DU o fewn 10 mlynedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mawrth 2026

Mae adroddiad thematig yr ASB ac FSS ar ddatblygiadau arloesol ym maes bwyd sy’n dod i’r amlwg yn nodi’r technolegau sydd fwyaf tebygol o arwain at anghenion diogelwch bwyd a rheoleiddio ym Mhrydain Fawr dros y degawd nesaf.

Mae’r adroddiad yn nodi’r meysydd technolegol sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf ar y system fwyd, gan gynnwys:

  • amaethyddiaeth mewn amgylchedd rheoledig, neu ffermio fertigol, tyfu cnydau mewn mannau dan do lle mae’r hinsawdd yn cael ei rheoli, mae amodau’n cael eu monitro’n drwm, ac mae maethynnau’n cael eu gweinyddu’n fanwl
  • eplesu manwl ac eplesu biomas – manteisio ar dwf microbaidd cyflym i gynhyrchu biomas sy’n llawn protein ar gyfer bwyd
  • amaethyddiaeth gellog, gan gynnwys bwydydd a wneir drwy feithrin celloedd – bwydydd newydd nad ydynt yn defnyddio dulliau ffermio traddodiadol fel magu da byw neu dyfu planhigion a grawn
  • pryfed bwytadwy – gellir gwerthu’r rhain fel pryfed cyfan neu eu defnyddio fel cynhwysion (er enghraifft, powdrau wedi’u hychwanegu at fwydydd cyfarwydd)
  • ffermio moleciwlaidd – defnyddio planhigion neu gelloedd planhigion fel ffatrïoedd bach i wneud cynhwysion bwyd penodol, fel proteinau ac ensymau
  • eplesu nwy – defnyddio microbau i drosi nwyon sydd wedi’u dal, fel carbon deuocsid, hydrogen neu nwyon diwydiannol eraill, yn broteinau cell unigol a chynhwysion bwyd defnyddiol eraill
  • argraffu bwyd 3D – adeiladu bwydydd fel siocled neu datws stwnsh, trwy argraffu cynhwysion bwytadwy fesul haen
  • gweithgynhyrchu bwyd o chwith – tynnu maethynnau oddi wrth sgil-gynhyrchion bwyd a’u troi’n gynhwysion newydd

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd o ran technolegau sy’n dod i’r amlwg fel ffermio moleciwlaidd. Mae gweithgynhyrchu bwyd o chwith ac argraffu bwyd 3D yn syniadau sydd heb eu datblygu’n llawn eto, ac maent yn feysydd i’w gwylio dros gyfnod hirach.​​​

“Mae technolegau sy’n dod i’r amlwg yn ail-lunio sut mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i gaffael. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi golwg clir i’r diwydiant a’r llywodraeth ar yr hyn sydd i ddod, a’r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn bodloni safonau uchel y DU. Mae cylch gwaith yr ASB ac FSS yn ganolog i gyflawni’r uchelgeisiau hyn a, thrwy gydweithio’n gynnar ag arloeswyr, gallwn ni gefnogi twf diogel a chyfrifol a meithrin hyder defnyddwyr ym mwydydd y dyfodol.” 
Dr Thomas Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi’r ASB

Mae’r adroddiad yn rhoi’r darlun cliriaf hyd yma o sut mae systemau cynhyrchu bwyd blaengar yn esblygu, a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwaith rheoleiddio cymesur sy’n barod ar gyfer y dyfodol. Drwy nodi’r goblygiadau rheoleiddiol ymlaen llaw, mae’r adroddiad yn galluogi cwmnïau i fod yn fwy sicr wrth gynllunio strategaethau ymchwil, gweithgynhyrchu a buddsoddi hirdymor.

I reoleiddwyr, mae’n darparu glasbrint strategol ar gyfer sut bydd angen i allu gwyddonol, datblygu canllawiau a dulliau asesu risg esblygu er mwyn cadw’n gyson ag arloesedd.

Casglwyd barn pobl drwy grwpiau ffocws ac arolygon, a gwnaeth y dystiolaeth hon gyfrannu at ddatblygu’r adroddiad hefyd, gan sicrhau bod cynllunio rheoleiddiol yn adlewyrchu’r cwestiynau a’r pryderon sydd bwysicaf i’r cyhoedd.

Sylfaen ar gyfer rheoleiddio cymesur a dibynadwy

Mae’r adroddiad ar ddatblygiadau arloesol ym maes bwyd sy’n dod i’r amlwg yn y DU wedi’i gynhyrchu gan y Rhaglen Ymchwil Arloesedd (IRP) ym maes Awdurdodiadau’r Farchnad, sef rhaglen a gyflawnir gan yr ASB ac FSS ar y cyd ac a ariennir gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT). Mae’r rhaglen yn ategu’r Blwch Tywod Rheoleiddiol ar gyfer Cynhyrchion a wneir drwy Feithrin Celloedd, a lansiwyd ym mis Mawrth 2025, sy’n galluogi arloeswyr i ymgysylltu’n gynnar â rheoleiddwyr, cyn cyflwyno ceisiadau ffurfiol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.

Gyda’i gilydd, mae’r rhaglenni hyn yn helpu’r DU i fod yn barod ar gyfer gweithgarwch rheoleiddio cyn i’r farchnad alw am hyn. Bydd hynny’n sicrhau bod gwaith asesu diogelwch yn cadw’n gyson â gwaith cynhyrchu bwydydd arloesol.

Mae’r ASB ac FSS yn cyflwyno’r canfyddiadau hyn i’r diwydiant ddydd Gwener 13 Mawrth mewn digwyddiad arddangos arloesedd. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr adroddiadau cyhoeddedig a chanllawiau ar gyfer busnesau, ar gael yn Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol yr ASB.

Ynghyd â chanllawiau wedi’u diweddaru, ymgynghoriadau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth busnes wedi’u cryfhau, mae’r adroddiad yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn amgylchedd dibynadwy sy’n arloesedd-gyfeillgar ar gyfer cwmnïau sy’n datblygu technolegau bwyd newydd.