Yn ystod y cyfarfod, ailbwysleisiodd y Bwrdd yr egwyddorion ar gyfer Ymadael â'r UE a bennwyd ganddo ddeunaw mis yn ôl. Roedd y rhain fel a ganlyn:
- sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yr un mor effeithiol ag y mae heddiw
- cynnal hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn reoleiddio, gan gynnwys diogelu enw da'r ASB am fod yn agored ac yn annibynnol
- lleihau'r amhariad ar ddefnyddwyr a'r diwydiant
- rhoi system reoleiddio mor unedig ag sy'n bosib i ddefnyddwyr ledled y DU
Cadarnhaodd y Bwrdd fod yr ASB wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol i gynnal mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn bwyd. Yn ogystal, fe ddywedon nhw y bydd y gyfundrefn reoleiddio, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE, yn gosod y safon fyd-eang ar gyfer gweithredu yn agored ac yn dryloyw.
Meddai Heather Hancock:
‘Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn bwyd yn hanfodol ac mae tryloywder yn arwain at ymddiriedaeth. Ar ôl i ni ymadael â'r UE, bydd y cyhoedd yn parhau i gael wybod pa benderfyniadau rydym ni'n eu gwneud a beth yw ein hargymhellion. Byddant yn gweld yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth sy'n sail i hyn, ac yn hyderus bod yr ASB yn parhau i roi'r defnyddiwr yn gyntaf, fel bod pawb yn gallu cael bwyd diogel, a bwyd y gallwn ymddiried ynddo.’
Cadarnhaodd y Bwrdd fod yr ASB wedi cyflwyno cyfundrefn reoleiddio newydd a chyflawn ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, a bod yr Asiantaeth yn barod ar gyfer gofynion uniongyrchol ymadael â'r UE.
Diolchodd y Bwrdd i swyddogion ar draws yr ASB gan gydnabod cyfraniad hanfodol cydweithwyr ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae Defra yn gyfrifol am greu'r cynllun hysbysu mewnforio newydd y bydd yr ASB yn dibynnu arno, ac mae Gweinidogion Iechyd wedi arwain y broses ddeddfwriaethol. Bu i'r Bwrdd hefyd gydnabod y gefnogaeth a gafwyd ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar lefel llywodraeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â manteision cydweithio agos ag arweinwyr diwydiant i gyrraedd y sefyllfa bresennol o fod yn barod yn weithredol.
Mae agenda lawn a phapurau'r Bwrdd ar gael ar wefan yr ASB. Bydd recordiad o gyfarfod y Bwrdd ar gael yn ddiweddarach yn yr wythnos.