Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cadeirydd yr Asiantaeth yn ailddatgan ymrwymiad i gynnal y safonau diogelwch bwyd uchaf ar ôl Ymadael â'r UE

Mae Heather Hancock, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fydd safonau diogelwch bwyd yn gostwng ar ôl i'r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Fe wnaeth ei sylwadau yng nghyfarfod Bwrdd chwarterol yr ASB heddiw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 August 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yn ystod y cyfarfod, ailbwysleisiodd y Bwrdd yr egwyddorion ar gyfer Ymadael â'r UE a bennwyd ganddo ddeunaw mis yn ôl. Roedd y rhain fel a ganlyn:

  • sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yr un mor effeithiol ag y mae heddiw
  • cynnal hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn reoleiddio, gan gynnwys diogelu enw da'r ASB am fod yn agored ac yn annibynnol
  • lleihau'r amhariad ar ddefnyddwyr a'r diwydiant
  • rhoi system reoleiddio mor unedig ag sy'n bosib i ddefnyddwyr ledled y DU

Cadarnhaodd y Bwrdd fod yr ASB wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol i gynnal mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn bwyd. Yn ogystal, fe ddywedon nhw y bydd y gyfundrefn reoleiddio, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE, yn gosod y safon fyd-eang ar gyfer gweithredu yn agored ac yn dryloyw.

Meddai Heather Hancock:

‘Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn bwyd yn hanfodol ac mae tryloywder yn arwain at ymddiriedaeth. Ar ôl i ni ymadael â'r UE, bydd y cyhoedd yn parhau i gael wybod pa benderfyniadau rydym ni'n eu gwneud a beth yw ein hargymhellion. Byddant yn gweld yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth sy'n sail i hyn, ac yn hyderus bod yr ASB yn parhau i roi'r defnyddiwr yn gyntaf, fel bod pawb yn gallu cael bwyd diogel, a bwyd y gallwn ymddiried ynddo.’

Cadarnhaodd y Bwrdd fod yr ASB wedi cyflwyno cyfundrefn reoleiddio newydd a chyflawn ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, a bod yr Asiantaeth yn barod ar gyfer gofynion uniongyrchol ymadael â'r UE.

Diolchodd y Bwrdd i swyddogion ar draws yr ASB gan gydnabod cyfraniad hanfodol cydweithwyr ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae Defra yn gyfrifol am greu'r cynllun hysbysu mewnforio newydd y bydd yr ASB yn dibynnu arno, ac mae Gweinidogion Iechyd wedi arwain y broses ddeddfwriaethol. Bu i'r Bwrdd hefyd gydnabod y gefnogaeth a gafwyd ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar lefel llywodraeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â manteision cydweithio agos ag arweinwyr diwydiant i gyrraedd y sefyllfa bresennol o fod yn barod yn weithredol.

Mae agenda lawn a phapurau'r Bwrdd ar gael ar wefan yr ASB. Bydd recordiad o gyfarfod y Bwrdd ar gael yn ddiweddarach yn yr wythnos.